Argymhelliad yr ASB ar gywerthedd y gweithdrefnau arolygu ôl-lladd ar gyfer cynhyrchion cig coch yn Awstralia
Argymhelliad gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar yr asesiad cywerthedd o newidiadau arfaethedig i weithdrefnau arolygu ôl-lladd Awstralia ar gyfer cig byfflo, gwartheg, defaid a geifr a allforir i Brydain Fawr o Awstralia.
Cefndir
Ym mis Tachwedd 2022, gofynnodd Swyddfa Sicrwydd Masnach Iechydol a Ffytoiechydol Defra (Swyddfa’r DU) i’r ASB asesu a fyddai newidiadau arfaethedig Awstralia i’w gweithdrefnau arolygu ôl-lladd ar gyfer cig byfflo, gwartheg, defaid a geifr a allforir yn gyfwerth â deddfwriaeth Prydain Fawr ar ofynion diogelwch bwyd. Ceisiodd yr ASB benderfynu a ellid ystyried bod y mesurau amgen a gynigiwyd yn gyfwerth â’r gofynion perthnasol a nodir yn neddfwriaeth Prydain Fawr.
Roedd asesiad yr ASB yn seiliedig ar yr wybodaeth a oedd yn y cais gwreiddiol gan Awstralia, ynghyd â gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan awdurdodau Awstralia ar gais yr ASB.
Argymhelliad yr ASB, Mawrth 2025
Daeth yr ASB i’r casgliad bod cynigion Awstralia mewn perthynas â’u gweithdrefn archwilio ôl-lladd ar gyfer organau a nodau lymff carcas defaid a geifr, a phennau gwartheg a byfflo yn gyfwerth â’r gofynion cyfredol a nodir yn neddfwriaeth Prydain Fawr. Fodd bynnag, mae derbyn y newidiadau hyn yn dibynnu ar Awstralia yn cynnal ei statws fel gwlad y mae eu gwartheg yn rhydd rhag twbercwlosis a mesurau rheoli risg cynhwysfawr, gyda’r posibilrwydd o ailystyried os bydd hyn yn newid.
Hanes diwygio
Published: 28 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Hydref 2025