Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Argymhelliad yr ASB ar gywerthedd y rhaglen monitro microbiolegol mewn perthynas â gwirio meini prawf hylendid prosesau ar gyfer cynhyrchion cig coch yn Awstralia

Argymhelliad gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar yr asesiad cywerthedd o newidiadau arfaethedig i raglen Awstralia ar fonitro microbiolegol mewn perthynas â gwirio meini prawf hylendid prosesau cig coch ar gyfer cig eidion a defaid a allforir i’r DU o Awstralia.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Hydref 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Hydref 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

Cefndir 

Ym mis Chwefror 2022, gofynnodd Swyddfa Sicrwydd Masnach Iechydol a Ffytoiechydol y DU (Swyddfa’r DU) i’r ASB asesu cais cywerthedd Awstralia am “fonitro microbiolegol amgen ar gyfer gwirio meini prawf hylendid prosesau cig coch”. Ceisiodd yr ASB benderfynu a ellid ystyried bod y mesurau amgen a gynigiwyd yn gyfwerth â’r gofynion perthnasol a nodir yn neddfwriaeth Prydain Fawr. 

Roedd asesiad yr ASB yn seiliedig ar yr wybodaeth a oedd yn y cais gwreiddiol gan Awstralia ynghyd â gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan awdurdodau Awstralia ar gais yr ASB. Ystyriodd y penderfyniad gywerthedd presennol y cytunwyd arno yn 2011 gan Gyfarwyddiaeth Gyffredinol Iechyd a Diogelu Defnyddwyr y Comisiwn Ewropeaidd (DG SANCO).

Argymhelliad yr ASB, Gorffennaf 2024

Daeth yr ASB i’r casgliad bod cynigion Awstralia mewn perthynas â monitro microbiolegol carcasau cig eidion a defaid, ac eithrio’r cynnig i roi’r gorau i samplu am Salmonela fel rhan o hylendid prosesau, yn gyfwerth â gofynion presennol Prydain Fawr.