Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cyfarfod â thema Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – 25 Hydref

Penodol i Gymru

Agenda ar gyfer cyfarfod Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar y thema Gwyddoniaeth ac Arloesi. Cynhelir y cyfarfod ddydd Mercher, 25 Hydref, yn ArloesiAber, Campws Arloesi a Menter Aberystwyth, Campws Gogerddan, Prifysgol Aberystwyth.

Cyfarfod â thema Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru a gynhelir yn Aberystwyth

Thema: Gwyddoniaeth ac Arloesi

Agenda a phapurau

10:00 – 10:15 Croeso gan y Cadeirydd 

Gan gynnwys cyflwyniad a diweddariad llafar ar drafodaethau Cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi ac ymddiheuriadau, datganiadau o fuddiant a chofnodion cyfarfod mis Gorffennaf 2023 

10:15 – 10:30 Adroddiad Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru

Diweddariad ysgrifenedig y Cyfarwyddwr ers y cyfarfod diwethaf ym mis Gorffennaf 2023

10:30 – 11:00 ArloesiAber – Cefnogi Datblygiad a Thwf

Dr Rebecca Charnock, Rheolwr Datblygu Ymchwil Ddiwydiannol

11:00 – 11:30 Rhaglen bridio ceirch a chodlysiau grawn

Dr Catherine Howarth, Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth

11:30 – 11:45 Egwyl

11:45 – 12:15 Prosiect Ansawdd Bwyta Cig Eidion

Dr Pip Nicholas-Davies, Adran Gwyddorau Bywyd, Prifysgol Aberystwyth

12:15 – 12:45 Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth a dyfodol y proffesiwn milfeddygol

Yr Athro Darrell Abernethy, Pennaeth a Chadeirydd Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth

12:45 – 13:15 Trafodaeth banel a chwestiynau

13:15 – 13:20 Unrhyw faterion eraill a dod â’r cyfarfod i ben