Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Adroddiad y Cyfarwyddwr i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – Hydref 2023

Penodol i Gymru

Adroddiad gan Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru

1. Crynodeb

1.1  Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o’r pynciau a gyflwynwyd gan y Prif Weithredwr yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd, a gynhaliwyd ar 20 Medi 2023, yn ogystal â gweithgareddau eraill sy’n berthnasol i gylch gwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru.  

1.2  Gwahoddir aelodau o’r Pwyllgor i wneud y canlynol: 

  • nodi’r diweddariad
  • gwahodd y Cyfarwyddwr i ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach

2. Adroddiad y Prif Weithredwr i’r Bwrdd

2.1 Daeth Adroddiad y Prif Weithredwr i law’r Bwrdd.

3. Ymgysylltu Allanol gan Uwch-reolwyr yr ASB yng Nghymru

3.1  Ers cyfarfod â thema diwethaf WFAC, a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf, mae uwch-reolwyr wedi cymryd rhan yn y cyfleoedd ymgysylltu allanol canlynol a allai fod o ddiddordeb i WFAC

  • 19 Gorffennaf – Is-grŵp Cynghori Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol y Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Iechyd (HPAG)
  • 24-25 Gorffennaf – Sioe Frenhinol Cymru. Aethom i Sioe Frenhinol Cymru eleni, gan achub ar y cyfle i’r Cadeirydd a’r Prif Weithredwr ymgysylltu ag ystod ehangach o randdeiliaid allweddol, gyda rhaglen lawn o gyfarfodydd rhagarweiniol a thrafodaethau ar faterion polisi o bwys yng Nghymru
  • 11 Medi – Cyfarfod Grŵp Cynghori’r Prif Swyddog Meddygol.
  • 14 Medi – Cyfarfod cyswllt chwarterol gyda Llywodraeth Cymru Mynychodd hefyd gyfarfod gyda Chadeirydd y Bwrdd a Gweinidogion Cymru ar Fridio Manwl 
  • 20 Medi – Cyflwyno papur Cyfarwyddwr Cymru i’r Bwrdd.
  • 22 Medi – Cyfarfod Grŵp Bwyd Diogel, Cynaliadwy a Dilys Cymru (SSAFW) 
  • 18 Hydref – Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd ar gyfer holl staff yr ASB yng Nghymru yn y swyddfa newydd

3.2  Rhagolwg o’r gwaith ymgysylltu allanol sydd ar y gorwel: 

  • 8-9 Tachwedd – Digwyddiad Hyfforddi Cangen Cymru o’r Sefydliad Safonau Masnach Siartredig
  • 9 Tachwedd – Cynhadledd Partneriaeth Iechyd Dŵr
  • 22 Tachwedd – Cynhadledd Cymdeithas Diogelu Bwyd y DU, Met Caerdydd
  • 23 Tachwedd – Digwyddiad Cynllunio Busnes Safonau Masnach Cymru
  • 29 Tachwedd – Digwyddiad y Senedd i lansio’r Adroddiad Safonau Blynyddol a dathlu deng mlynedd o’r CSHB gorfodol yng Nghymru

4. Materion o ddiddordeb i WFAC sy’n ymwneud â’r ASB yng Nghymru

4.1  Penodiadau WFAC – hoffwn achub ar y cyfle hwn i groesawu Cadeirydd newydd WFAC, Rhian Hayward, yn ffurfiol i’w rôl newydd. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Rhian a byddwn yn ei chefnogi ym mhob ffordd y gallwn wrth iddi arwain trafodaethau WFAC yn y dyfodol. 

4.2 Bridio Manwl – Cyfarfu Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar 20 Medi i drafod a phenderfynu ar agweddau ar y broses newydd i reoleiddio’r defnydd o organebau wedi’u bridio’n fanwl (PBO) i’w defnyddio mewn bwyd a bwyd anifeiliaid.  Ceir mwy o fanylion yn y stori newyddion ar drafodaeth y Bwrdd

Mae swyddogion yr ASB yn paratoi ymgynghoriad cyhoeddus ar y fframwaith rheoleiddio arfaethedig yn Lloegr. Bwriedir cyhoeddi’r ymgynghoriad ym mis Tachwedd 2023 ac anogir rhanddeiliaid o bob rhan o’r DU i ymateb.

Mae swyddogion yr ASB yng Nghymru yn parhau i gysylltu â swyddogion Llywodraeth Cymru sydd wedi casglu tystiolaeth dros gyfnod yn ddiweddar i helpu i lywio adolygiad o bolisi golygu genynnau, y mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei grynhoi mewn adroddiad i’r cabinet ym mis Ionawr 2024.
 

4.3  Cynhyrchion Rheoleiddiedig – ochr yn ochr â Lloegr a’r Alban, anfonwyd cyngor at weinidogion ar 12 Medi yn argymell awdurdodi 13 o ychwanegion bwyd anifeiliaid yng nghyfran 2. Mae’r Dirprwy Weinidog wedi cytuno i’r argymhelliad. Rydym yn gweithio tuag at ddyddiad dod i rym o 22 Rhagfyr. Rydym yn cydweithio’n agos ar draws y pedair gwlad ar gyfran 3 ac yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i ystyried meysydd lle gellir gwneud y broses yn fwy effeithlon. Rydym hefyd yn rhan o’r tîm prosiect craidd sy’n cyfrannu at waith ar ddiwygio rheoleiddio, opsiynau polisi a’r dull o ymgysylltu â gweinidogion. 

4.4  CBD – yn ddiweddar, mae’r tîm wedi bod yn ymwneud â diweddaru a chyhoeddi cyngor i ddefnyddwyr gan yr ASB yn argymell Cymeriant Dyddiol Derbyniol o 10mg o CBD y dydd ar gyfer oedolion iach (gostyngiad o 70mg y dydd – sef y cyngor interim a ddarparwyd yn 2020). Roedd hyn yn cyd-daro â rhyddhau datganiad ar y cyd gan ddau o’n Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol (Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP) a’r Pwyllgor ar Wenwyndra (COT)) ynghylch y Cymeriad Dyddiol Derbyniol diwygiedig ar gyfer CBD. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw echdyniadau CBD nac unigion (isolates) CBD wedi’u hawdurdodi ar y farchnad. Gellir gweld yr holl gynhyrchion sy’n aros am ganiatâd, sydd â cheisiadau credadwy gyda’r ASB, ar restr gyhoeddus yr ASB.

4.5  Model Gweithredu Safonau Bwyd – mae tîm Cymru wedi cwblhau’r gwaith sefydlu gan gynnwys hyfforddiant gyda’r awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan yn y cynllun peilot. Dechreuodd y cynllun peilot ar 1 Medi a bydd yn para am 6 mis.

4.6  Archwiliadau awdurdodau lleol – rydym wedi cychwyn cyfres o archwiliadau awdurdodau lleol yng Nghymru. Y nod yw asesu’r ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio ac ymyriadau eu darparu ar ôl diwedd y Cynllun Adfer, yn ogystal ag adolygu unrhyw gamau archwilio agored perthnasol yn dilyn archwiliadau blaenorol. Cynhaliodd y tîm yr archwiliad cyntaf ar 27-28 Medi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac maent bellach yn gweithio gyda’r awdurdod i gytuno ar yr adroddiad drafft. Mae’r tîm hefyd yn y broses o ddadansoddi’r data a gyflwynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili cyn y cynhelir yr archwiliad ar y  safle, ar 25-26 Hydref. Y trydydd a’r pedwerydd awdurdod lleol a fydd yn cael eu harchwilio fydd Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Sir Powys. Cynhelir yr archwiliad ar y safle yn Ninas a Sir Abertawe ar 15-16 Tachwedd a bydd yr archwiliad ar y safle yng Nghyngor Sir Powys yn cael ei chynnal ar 6-7 Rhagfyr 2023.

4.7  Symud swyddfa’r ASB yng Nghymru – ar 21 Awst, yn benllanw prosiect 18 mis, symudodd tîm Cymru yn swyddogol i adeilad Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays. Bu’r cyfnod pontio yn llyfn ac yn gymharol ddi-ffwdan, mae’r staff yn elwa ar gyfleusterau gwell ac mae gofod swyddfa sydd wedi’i deilwra i’w hanghenion, yn seiliedig ar eu sylwadau. Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r broses.

4.8  Ymgyrchoedd cyfathrebu – dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae ein tîm cyfathrebu yng Nghymru wedi gweithio gyda chydweithwyr ar draws yr ASB ar ymgyrchoedd a cheisiadau gan y cyfryngau. Dyma amlinelliad ohonynt: 

  • Gwnaethom gyfweliad ar raglen Shân Cothi ar BBC Radio Cymru, yn rhannu cyngor i ddefnyddwyr ar storio bwyd yn ddiogel a phwysigrwydd dyddiadau ‘defnyddio erbyn’.
  • Ymgyrchoedd ymatebol ‘Always On’:  Ymgyrch fforio bwyd – cynhaliwyd yr ymgyrch hon ym mis Medi i hyrwyddo canllawiau i ddefnyddwyr ar sut i fforio bwyd yn ddiogel. Mae rhai planhigion a madarch sy’n tyfu’n wyllt yn wenwynig, ac mae rhai hyd yn oed yn gallu lladd yn ôl Coed Cadw (The Woodland Trust). Roedd yr ymgyrch hon yn canolbwyntio ar bwysigrwydd sicrhau bod bwyd sy’n cael ei gasglu yn ddiogel i’w fwyta. Nod yr ymgyrch oedd gwella ymwybyddiaeth defnyddwyr o sut i fforio’n ddiogel a chyfeirio pobl at y dudalen we ar fforio: Canllawiau ar gyfer fforio’n ddiogel. Buom yn cydweithio â’r dylanwadwr Cymraeg, @Adamynyrardd, ar Instagram, Facebook a Twitter i rannu cyngor ar fforio gyda’i 30,000 o ddilynwyr. 
  • Ymgyrchoedd ymatebol ‘Always On’: Ymgyrch myfyrwyr – lansiwyd yr ymgyrch hon ddechrau mis Medi i wella ymwybyddiaeth o arferion hylendid a diogelwch bwyd da ymhlith myfyrwyr. Amlygodd ymchwil a gynhaliwyd gan yr ASB yn 2021 a 2022 heriau ac ymddygiadau penodol ar gyfer y grŵp hwn. Prif amcanion yr ymgyrch hon oedd gwella ymwybyddiaeth o arferion gorau o ran diogelwch a hylendid bwyd ymhlith myfyrwyr a phobl ifanc (16 - 24 oed) a chynyddu ymweliadau â thudalennau gwe Diogelwch Bwyd Myfyrwyr (+5%).
  • Bu’r tîm hefyd yn gweithio’n ddiweddar gyda Chadeirydd newydd WFAC a New Food Magazine i ddarparu’r cyfweliad Stepping up to the plate.

5. Ymgynghoriadau

5.1 Ymgyngoriadau cyfredol:

6. Edrych tua’r dyfodol

6.1 Gweithgarwch sydd ar y gorwel:

  • 10 mlynedd ers sefydlu’r CSHB – eleni, rydym yn dathlu deng mlynedd ers sefydlu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd statudol yng Nghymru. Felly, rydym yn cynllunio ymgyrch gyfathrebu ar y cyd â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i hyrwyddo effaith gadarnhaol y cynllun hwn ar ddewis defnyddwyr ac ar wella safonau hylendid o fewn busnesau. Byddwn hefyd yn tynnu sylw at y rôl allweddol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae wrth roi’r cynllun hwn ar waith, ac rydym wedi cynnwys awdurdodau lleol i fod yn rhan o’r grŵp prosiect a sefydlwyd i helpu i lywio’r gwaith hwn. Bydd yr ymgyrch yn rhedeg o 27 Tachwedd – 1 Rhagfyr. 
  • Lansio asesiad newydd o safonau’r DU ym mis Tachwedd – bydd yr ASB ac FSS yn cyhoeddi eu hasesiad blynyddol o safonau bwyd yn y DU y mis hwn. Bydd yr adroddiad yn cynnig cipolwg ar y problemau mwyaf sy’n wynebu’r system fwyd, o effaith biliau bwyd cynyddol ar ein deiet, i’r pwysau presennol ar y gweithlu sy’n cynnal gwiriadau hanfodol ar fwyd. Bydd ein Cadeirydd yn cynnal digwyddiad amser cinio yn y Senedd ddydd Mercher 29 Tachwedd i lansio’r adroddiad a briffio rhanddeiliaid ar ganfyddiadau’r adroddiad diweddaraf. Byddwn hefyd yn defnyddio’r digwyddiad i ddathlu a nodi 10 mlynedd ers lansio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd gorfodol yng Nghymru.