Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Trafodaeth ar Fridio Manwl yng nghyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd – 20 Medi 2023

Crynodeb o drafodaeth y Bwrdd ar reoleiddio bridio manwl.

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 September 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 September 2023

Cyfarfu Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ddoe i drafod a phenderfynu ar agweddau ar y broses newydd i reoleiddio’r defnydd o organebau wedi’u bridio’n fanwl (PBO) i’w defnyddio mewn bwyd a bwyd anifeiliaid. Yn dilyn cytundeb ar y dull a ffefrir gan y Bwrdd, bydd cynigion manwl yn destun ymgynghoriad cyhoeddus cyn i’r ASB roi cyngor ffurfiol i Weinidogion. 

Wrth siarad am y papur, dywedodd yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB:

“Rydym yn datblygu system a fydd yn caniatáu i ni graffu’n ddigonol, fel y gallwn fod yn hyderus bod cynhyrchion wedi’u bridio’n fanwl sy’n mynd drwy’r broses awdurdodi yn ddiogel i bobl eu bwyta.”  

Eglurodd yr Athro Jebb fod cyngor gan Bwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP) yr ASB yn awgrymu nad yw PBOs yn peri unrhyw risg gynhenid ychwanegol o gymharu ag organebau a gafodd eu bridio’n draddodiadol.  Fodd bynnag, oherwydd bod y dechnoleg yn newydd ac yn datblygu’n gyson, mae’r ASB o’r farn bod angen cyflwyno rheoliad i ddarparu trosolwg a mesurau diogelu ar gyfer iechyd y cyhoedd.  

Roedd y Bwrdd yn awyddus i weld proses awdurdodi a all ddarparu ar gyfer y mathau o geisiadau a allai ddod drwy’r system yn y dyfodol.  Nododd y Cadeirydd y dylai’r system newydd fod yn ddigon hyblyg i ymateb i ddatblygiadau gwyddonol yn y dyfodol ac yn ddigon ystwyth i fod yn arloesol.   

Byddai’r dull dwy haen o reoleiddio yn cwmpasu ceisiadau gyda mân newidiadau a allai adlewyrchu’r rhai ar gyfer bridio traddodiadol (Haen 1), a’r ceisiadau lle gallai’r newidiadau newid natur neu gyfansoddiad y cynnyrch a fwyteir yn sylweddol (Haen 2).    

Ystyriodd y Bwrdd y dull gweithredu arfaethedig a chytunwyd y dylid rhoi gwybod i’r ASB am geisiadau Haen 1 er mwyn iddynt gael eu cynnwys ar y gofrestr gyhoeddus. Bu peth dadlau o ran faint o ddata y byddai angen ei ddarparu fel rhan o’r broses hysbysu a gofynnodd y Bwrdd am waith pellach ar hyn. 
  
Fel gyda chyfundrefnau awdurdodi bwyd eraill, cytunwyd y dylai’r busnes bwyd fod yn gyfrifol am ddeall eu rhwymedigaethau cyfreithiol a sicrhau bod cynhyrchion yn cael eu cyflwyno i’w hawdurdodi o dan y broses gywir.  Ar gyfer PBOs, rhaid i fusnesau roi gwybod i’r ASB os yw eu cynnyrch yn PBO Haen 1 risg is, gan ddefnyddio meini prawf a osodwyd gan yr ASB. Bydd yr ASB wedyn yn awdurdodi’r cynnyrch.  Rhaid i PBOs Haen 2, a all fod yn risg uwch, gael asesiad risg gan yr ASB. Ym mhob achos, rhaid i fusnesau gael y wybodaeth a’r dystiolaeth angenrheidiol i ddeall unrhyw risgiau diogelwch. Gofynnodd y Bwrdd i swyddogion roi mwy o fanylion am sut y gall yr ASB gadarnhau bod busnesau wedi nodi cynhyrchion Haen 1 yn gywir ac wedi ystyried y dystiolaeth yn briodol.  

Roedd y Bwrdd hefyd yn cefnogi cynigion ar gyfer cofrestr gyhoeddus manylach o PBOs i ddarparu cymaint o wybodaeth ag sy’n rhesymol a defnyddiol i ddefnyddwyr, i gynorthwyo craffu allanol a chaniatáu monitro esblygiad PBOs ar y farchnad. 

Pwysleisiwyd bod angen i fusnesau allu cadw cofnod o’r PBOs yr oeddent yn eu defnyddio yn eu cynhyrchion, gan annog trafodaeth â rhanddeiliaid a oedd wedi mynegi pryderon. Nododd y Cadeirydd gwestiynau penodol a godwyd gan y sector organig ar y pwnc hwn, gan argymell bod swyddogion yn cael sgyrsiau pellach gyda’r rhanddeiliaid hyn. Cododd rhai aelodau bryderon ynghylch gorfodi, yn enwedig y posibilrwydd na fydd sancsiynau sifil yn ddigonol i atal busnesau rhag torri cyfraith bwyd yn y maes hwn, gan nodi nad oes sancsiynau troseddol ar gael o dan y Ddeddf hon.

Dywedodd yr Athro Susan Jebb: 

“Mae’r pwnc hwn wedi denu cryn ddiddordeb y tu hwnt i’r ASB a byddwn yn parhau i ymgysylltu’n ffurfiol ac yn anffurfiol â rhanddeiliaid fel ein bod wir yn ceisio deall eu safbwyntiau. Bydd hynny’n llywio datblygiad y broses. 

Deddf Lloegr yn unig yw hon, ond bydd yn effeithio ar y gwledydd datganoledig, ac rydym yn trafod yn rheolaidd ar draws y pedair gwlad.”   

Wrth ystyried y drafodaeth, daeth y Cadeirydd i’r casgliad:
 
“Mae hwn yn faes cymhleth ac yn gyfnod pwysig i’r ASB wrth feddwl am ein rôl a’n cyfrifoldebau yn y system fwyd. Mae angen i ni ddatblygu ffordd gymesur o awdurdodi organebau wedi’u bridio’n fanwl mewn bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n ymateb i ddatblygiadau mewn technoleg wyddonol ac sy’n diogelu defnyddwyr.” 

Mae’r ASB yn bwriadu lansio ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ym mis Tachwedd, i roi cyfle i ddefnyddwyr, awdurdodau gorfodi, a’r diwydiant ddarparu sylwadau ysgrifenedig ar gynigion drafft a deddfwriaeth.

Mwy o wybodaeth  

Gellir gweld holl bapurau’r Bwrdd o’r cyfarfod yr wythnos hon ar wefan yr ASB (Saesneg yn unig). Gallwch hefyd wylio'r recordiad fideo llawn o'r cyfarfod drwy fynd i sianel YouTube yr ASB.

Cynhelir cyfarfod nesaf Bwrdd yr ASB ym Mryste ar 13 Rhagfyr 2023.