Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Galwad am dystiolaeth

Galwad am ddata: Tocsinau T-2 a HT-2 mewn bwyd

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban yn gofyn am ddata ar lefelau’r tocsinau T-2 a HT-2 sy’n bresennol mewn bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 October 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 October 2023

Bydd yr alwad hon am ddata o ddiddordeb yn bennaf i’r canlynol:

  • cymdeithasau masnach y diwydiant bwyd a ffermio
  • ymchwilwyr mycotocsin a’r byd academaidd
  • storwyr grawn
  • ffermwyr
  • partïon rhyngwladol â buddiant

Pwrpas yr alwad am ddata 

Mycotocsinau yw T-2 a HT-2 sy’n cael eu cynhyrchu gan y rhywogaeth fusarium o ffyngau o dan amodau oer a llaith cyn cynaeafu. Maent yn effeithio’n bennaf ar gnydau grawn fel ceirch, gwenith a haidd. Mae presenoldeb T-2 a HT-2 yn dibynnu’n fawr ar y tywydd, a gall amrywio’n fawr yn flynyddol. Mae’r ffaith bod hyn oll yn dibynnu ar yr hinsawdd hefyd yn golygu nad oes dulliau digonol ar hyn o bryd ar gyfer lliniaru cynhyrchu T-2 a HT-2 trwy arferion amaethyddol da.

Rydym yn casglu gwybodaeth am docsinau T-2 a HT-2 mewn bwyd fel y gellir adolygu’r halogion hyn, ac asesu cysylltiad defnyddwyr â nhw drwy ein proses dadansoddi risg. Bydd allbynnau’n cynnwys asesiad risg a sylfaen dystiolaeth a fydd yn llywio unrhyw gyngor yn y dyfodol ar reoli risgiau, gan gynnwys opsiynau rheoli risg posib i’w cyflwyno i Weinidogion. 

Sut i ymateb

Gellir anfon data atom naill ai drwy ddefnyddio templed yr ASB neu fformat Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA). 

Dylid cyflwyno data i fsacallsforevidence@food.gov.uk, gan nodi’n glir yn y llinell destun y cyfeirnod am yr alwad hon am ddata, sef T-2 a HT-2, gan atodi’r ffeil ddata a enwir yn briodol.

Templedi ar gyfer data a chanllawiau

Darllenwch y canllawiau ar gwblhau’r daenlen (Saesneg yn unig).

Manylion yr alwad am ddata

Rydym yn ceisio data o bob rhan o’r gadwyn gyflenwi grawnfwydydd, o’r maes i fanwerthwyr er mwyn deall y lefelau o T-2 a HT-2 y mae defnyddwyr yn dod i gysylltiad â nhw. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn casglu data ar rawnfwydydd cyn ac ar ôl glanhau/diblisgo a chynhyrchion terfynol, gan gynnwys, lle bo’n bosib, data sy’n ymestyn dros sawl blwyddyn i adlewyrchu unrhyw amrywio blynyddol yn y lefelau T-2/HT-2.

Hoffem gasglu data am y canlynol:

  • ffermydd – grawn heb eu prosesu cyn eu glanhau
  • cymeriant melin/ar ôl glanhau
  • ar ôl diblisgo
  • ar ôl prosesu – rhoi mewn odyn, torri dur, stemio, fflawio ac ati
  • cynhyrchion terfynol
  • cynhyrchion wedi’u mewnforio

Yn ogystal â’r meysydd gorfodol a geir yn y daenlen, byddai’n ddefnyddiol cynnwys y canlynol, os yw’r wybodaeth hon ar gael, gan ddefnyddio colofn evalInfo.com (Colofn AP):

  • disgrifiad clir o ble y digwyddodd y gwaith samplu yn y gadwyn gyflenwi 
  • cyflwr, hynny yw, wedi’i brosesu/heb ei brosesu
  • y rhanbarth daearyddol lle cynhaliwyd y gwaith samplu

Rydym yn ceisio data sy’n gynrychioliadol o’r lefelau a geir ar bob cam o’r gadwyn gyflenwi, gan gynnwys samplau heb lefelau canfyddadwy a gwerthoedd uchel. Bydd data a gesglir yn cael ei gyhoeddi fel data cyfanredol ac ni chaiff ei briodoli i unigolyn, busnes, corff masnach na sefydliad.

Dyddiad cau ar gyfer ymateb

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw 31 Hydref 2023. Dyma alwad gan yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban, a bydd unrhyw ddata a gyflwynir ar gael i’r ASB a’r Safonau Bwyd yr Alban ac yn cael ei ddefnyddio yn y broses dadansoddi risg ar gyfer y mycotocsinau hyn.

Os na allwch gyflwyno data erbyn y dyddiad cau hwn, cysylltwch â ni i roi gwybod pryd y bydd gwybodaeth ar gael. 

I gael mwy o wybodaeth am sut bydd yr ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at hysbysiad preifatrwydd yr ASB.

I gael mwy o wybodaeth am sut bydd Safonau Bwyd yr Alban yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd Safonau Bwyd yr Alban.
 
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr alwad hon am ddata, cysylltwch â’r tîm Halogion Cemegol yn fsacallsforevidence@food.gov.uk.

Gwybodaeth am ein galwadau am ddata

Ewch ati i ddysgu pam rydym yn ceisio data a sut y caiff eich data ei ddefnyddio.