Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Datganiad ar y cyd gan y Gweithgor ar Ganllawiau Clostridium botulinum

Datganiad ar y cyd gan y Gweithgor ar Ganllawiau Clostrdium botulinium i weithio gyda'i gilydd a darparu adnoddau er mwyn sicrhau canlyniadau y cytunwyd arnynt

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Hydref 2020
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Hydref 2020
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae aelodau'r Gweithgor ar ganllawiau Clostridium botulinum(link is external) (Opens in a new window) wedi cytuno i weithio gyda'i gilydd: 

  • er mwyn deall a blaenoriaethu'r materion sy'n ymwneud â'r oes silff 10 diwrnod gyfredol a argymhellir ar gyfer cig eidion, cig oen a phorc ffres oer sydd wedi’u pecynnu dan wactod (VP) neu drwy addasu’r atmosffer (MAP). (Pwynt ymgynghori A)
  • i nodi dewisiadau i ddatrys materion a nodir.
  • i anelu at ddatrys materion sydd â blaenoriaeth.

Mae'r Gweithgor yn cydnabod bod yn rhaid i'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban gynnal eu hymrwymiad i gael eu harwain gan wyddoniaeth a thystiolaeth yn ystod yr adolygiad o'r canllawiau.

Mae aelodau'r Gweithgor yn cytuno i weithio gyda'i gilydd ac i ddarparu adnoddau gyda'r nod o gyflawni'r canlyniadau canlynol:

1. Sefydlu'r cynllun gwaith i'w gyflawni a pherchnogaeth dros weithgareddau perthnasol.

2. Cynnal adolygiad o'r safonau rhyngwladol a safonau cenedlaethol trydydd gwledydd ar gyfer oes silff cig eidion, cig oen a phorc ffres oer sydd wedi bod yn destun VP neu MAP, gan gynnwys:

  • Manylion y safonau, y ddeddfwriaeth a'r canllawiau a ddefnyddir gan wledydd eraill ar oes silff cig eidion, cig oen a phorc ffres oer sydd wedi bod yn destun VP neu MAP.
  • Manylion sut mae gwledydd eraill yn ystyried risg C. botulinum a'r angen am fesurau rheoli i fynd i'r afael â'r risg honno.

3. Sefydlu perchnogaeth dros ganllawiau priodol i gynorthwyo gyda chymhwyso oes silff sydd wedi'i dilysu'n briodol (hynny yw, dyddiadau defnyddio erbyn) ar gyfer cig eidion, cig oen a phorc ffres oer wedi'u pecynnu dan wactod neu drwy addasu’r atmosffer perthynas â C. botulinum, a darparu’r rhain.

4. Nodi a darparu tystiolaeth i lywio'r broses o gomisiynu adolygiad argymelledig ACMSF o'i adroddiad o 1992 ar Becynnu dan Wactod a Phrosesau Cysylltiedig(link is external) (Opens in a new window) (Saesneg yn unig), ac yn benodol y risg a berir gan C. botulinum.

5. Nodi tystiolaeth i gefnogi cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r 'canllawiau ar ddiogelwch ac oes silff bwyd wedi'i oeri sydd wedi’i becynnu dan wactod neu drwy addasu’r atmosffer mewn perthynas â Clostridium botulinum nad yw'n broteolytig' yn dilyn adolygiad a argymhellir gan yr ACMSF o’i adroddiad o 1992.

Sefydliadau a gynrychiolir ar y Gweithgor

Asiantaeth Safonau Bwyd

Safonau Bwyd yr Alban(link is external) (Opens in a new window)

Consortiwm Manwerthu Prydain (BRC)(link is external) (Opens in a new window)

Cymdeithas Allforio Cig Gogledd Iwerddon (NMEA)(link is external) (Opens in a new window)

Cymdeithas Bwyd wedi’i Oeri (CFA)(link is external) (Opens in a new window)

Cymdeithas Cyfanwerthwyr Cig yr Alban (SAMW)(link is external) (Opens in a new window)

Cymdeithas Proseswyr Cig Prydain (BMPA)(link is external) (Opens in a new window)

Ffederasiwn Masnach Darpariaethau (PTF)(link is external) (Opens in a new window)

Fforwm Porc a Chig Moch Gogledd Iwerddon