Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Datganiad hygyrchedd ar gyfer Gwasanaeth cyfarfodydd y Bwrdd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r gwasanaeth Cyfarfodydd Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).

Mae gwasanaeth Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB  yn cael ei gynnal gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Fe'i dyluniwyd i'w defnyddio gan gynifer o bobl â phosibl. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo mewn hyd at 300% heb i’r testun gwympo oddi ar y sgrin
  • llywio trwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio trwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Pa mor hygyrch yw'r gwasanaeth hwn?

Dylai'r gwasanaeth hwn fod yn gwbl hygyrch. Rydym hefyd yn darparu is-deitlau byw ar gyfer Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB trwy Zoom. 

Adborth a manylion cyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille: 

  • Anfonwch e-bost i: fsa.communications@food.gov.uk 
  • Ffoniwch ein Llinell Gymorth: 0330 332 7149 (ar agor o 9.00 tan 17.00, o ddydd Llun i ddydd Gwener) 

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn pen 5 diwrnod gwaith. 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi’n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi o’r farn nad ydym ni’n bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni:

  • Anfonwch e-bost i: fsa.communications@food.gov.uk 
  • Ffoniwch ein Llinell Gymorth: 0330 332 7149 (ar agor o 9.00 tan 17.00, o ddydd Llun i ddydd Gwener) 

Darllenwch gyngor ar gysylltu â sefydliadau am wefannau anhygyrch.  

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os na fyddwch chi'n hapus â’r ffordd rydym ni’n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon ac nid ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym ni wedi ymateb i'ch cwyn, gallwch chi gysylltu â Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 ( y 'rheoliadau hygyrchedd') yng Ngogledd Iwerddon. 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r ASB wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â safon AA fersiwn 2.1 o’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe.

Baich anghymesur

Ar yr adeg hon, nid ydym wedi gwneud unrhyw honiadau am faich anghymesur.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw’n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.  

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddwn yn bodloni safonau hygyrchedd.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 15 Medi 2020. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 26 Gorffennaf 2021.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 26 Gorffennaf 2021 gan ddefnyddio gwasanaethau gwirio awtomataidd.