Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Rydym ni’n awyddus i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ddisgyn oddi ar y sgrin
- llywio drwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd (keyboard) yn unig
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?
Rydym ni’n gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch. Gallwch weld rhestr lawn o unrhyw faterion yr ydym ni’n gwybod amdanynt ar hyn o bryd yn adran ‘Cynnwys nad yw'n hygyrch’ y datganiad hwn.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch chi am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille:
- Anfonwch e-bost at: fsa.communications@food.gov.uk
- Ffoniwch ein Llinell Gymorth: 0330 332 7149 (ar agor o 9.00 tan 17.00, o ddydd Llun i ddydd Gwener)
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi o’r farn nad ydyn ni'n bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni:
- E-bost: fsa.communications@food.gov.uk
- Ffoniwch ein Llinell Gymorth: 0330 332 7149 (ar agor o 9.00 tan 17.00, o ddydd Llun i ddydd Gwener)
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n hapus â’r ffordd rydym ni’n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS)
Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon ac nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym ni wedi ymateb i'ch cwyn, gallwch chi gysylltu â Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 ( y 'rheoliadau hygyrchedd') yng Ngogledd Iwerddon.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae'r ASB wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 o’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, oherwydd y rhannau nad ydynt yn cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.
Ddim yn cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Llywio:
- Gall llywio o gwmpas yr is-ddewislen fod yn broblem i ddefnyddwyr bysellfwrdd yn unig (WCAG A 2.1.1: Bysellfwrdd)
- Nid oes dolen i fynd â chi i’r prif gynnwys ac osgoi'r llywio (WCAG A 2.4.1: Blociau osgoi)
- Nid yw teitlau tudalennau yn unigryw (WCAG A 2.4.2 Teitlau tudalennau)
- Gellir llywio i mewn i ddolenni graffig cymdeithasol fwy nag unwaith. (WCAG A 2.4.3: Trefn ffocws)
Blwch chwilio:
- Pan fydd darllenwyr sgrin yn gweithredu’r botwm 'Rhagor o ddewisiadau chwilio', ni fyddant yn ymwybodol bod cynnwys wedi ehangu uwchben y botwm. Ac ni ellir llywio i elfennau’r ffurflen a gyflwynir. (WCAG A 2.4.3: Trefn ffocws, WCAG A 1.3.1: Gwybodaeth a Pherthynas)
- Mae'r eicon lleoliad yn newid lliw yn weledol i ddangos statws cysylltiad lleoliad. Nid yw'r wybodaeth hon yn cael ei chyfleu i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin. (WCAG A 1.4.1: Defnyddio lliw)
- Mae rhai elfennau yn y blwch chwilio yn cynnwys rôl anghywir a allai fod yn broblem i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol. (WCAG A 4.1.1 Dosrannu neu Parsing)
- Nid oes gan y blwch chwilio a’r elfennau nad ydynt yn destun ar gyfer 'Defnyddiwch fy lleoliad presennol' a dangos 'Canlyniadau ar fap', gyferbyniad lliw digonol. (WCAG AA 1.4.11 Cyferbyniad cynnwys nad yw’n destun)
- Nid yw'r botwm 'Ewch' ar y Adnodd Chwilio yn cynnwys gwybodaeth labelu glir. (WCAG AA 2.4.6 Penawdau a Labeli)
- Ni chanfyddir y ffurflen blwch chwilio na’r elfennau nad ydynt yn destun mewn mewn modd cyferbyniad uchel. (WCAG AA 1.4.3 Cyferbyniad (Isafswm))
Canlyniadau chwilio:
- Mae testun wedi'i guddio'n weledol ar y canlyniadau chwilio o fewn y tudalennu 'Tudalen flaenorol' nad yw wedi'i guddio'n gywir (WCAG A 2.4.3: Trefn ffocws)
- Caiff rhai tablau eu cynrychioli yn weledol fel tabl, ond nid ydynt wedi’u gweithredu gan ddefnyddio marciau tabl. Gall hyn achosi dryswch i ddarllenwyr sgrin a defnyddwyr JAWS (WCAG A 4.1.1 Dosrannu, 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthynas, 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth)
- Mae angen disgrifiad cliriach ar gyfer rhai graffeg a ddarperir ar ganlyniadau chwilio neu dylid eu cuddio allan o gyd-destun. Nid oes gan y logo na'r dolenni cyfryngau cymdeithasu destun cyswllt delwedd clir. (WCAG A 1.1.1 Cynnwys nad yw’n destun)
Chwilio am ardal awdurdod lleol:
- Nid yw'r map rhyngweithiol yn hygyrch gyda meddalwedd darllen y sgrin a bysellfyrddau. Mae rhai o’r dolenni ar y dudalen 'Chwilio ardal awdurdod lleol' wedi’u cyhoeddi ddwywaith (WCAG A 2.4.3: Trefn ffocws, 2.4.4: Pwrpas dolen (mewn cyd-destun)
Fformatio:
- Pan fydd lled y porwr wedi'i osod ar 1280px, mae'r dolenni briwsion bara yn rhannol y tu ôl i deitl y dudalen we (WCAG AA 1.4.10 Ail-lifo)
Rydym ni’n bwriadu datrys y materion hyn erbyn 30 Tachwedd 2020.
Baich anghymesur
Ar yr adeg hon, nid ydym wedi gwneud unrhyw honiadau am faich anghymesur.
Ein gwaith i wella hygyrchedd
Rydym ni’n bwriadu datrys y materion hyn erbyn 30 Tachwedd 2020 a byddwn yn diweddaru'r dudalen hon pan fydd y materion yn cael eu datrys.
Rydym ni’n bwriadu monitro hygyrchedd yn barhaus gan ddefnyddio gwasanaethau gwirio awtomataidd.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 22 Medi 2020.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Medi 2020. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC).