Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Datganiad hygyrchedd ar gyfer MyHACCP

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i myhaccp.food.gov.uk.

Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Rydym ni’n awyddus i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ddisgyn oddi ar y sgrin
  • llywio drwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd (keyboard) yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?

Rydym ni’n gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch. Gallwch chi weld rhestr lawn o unrhyw broblemau yn adran ‘Cynnwys nad yw'n hygyrch’ y datganiad hwn.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille: 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi o’r farn nad ydyn ni'n bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni:

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n hapus â’r ffordd rydym ni’n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon ac nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym ni wedi ymateb i'ch cwyn, gallwch chi gysylltu â Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 ( y 'rheoliadau hygyrchedd') yng Ngogledd Iwerddon. 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 o’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.

Ddim yn cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Mae rhai o'r adnoddau ar ffurf ffeiliau PDF ac nid ydynt yn gwbl hygyrch gan eu bod yn cynnwys siartiau llif cymhleth. Rydym ni’n bwriadu trwsio'r rhain erbyn 15 Hydref 2020.

Baich anghymesur

Ar yr adeg hon, nid ydym ni wedi gwneud unrhyw honiadau am faich anghymesur.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw'n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. 

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddwn yn bodloni safonau hygyrchedd.

Ein gwaith i wella hygyrchedd

Byddwn ni’n parhau i fonitro'r gwasanaeth gan ddefnyddio gwasanaethau gwirio awtomatig a datrys unrhyw broblemau a nodir.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 21 Medi 2020.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 21 Medi 2020. Mae pob tudalen yn cael ei gwirio trwy ein gwasanaeth gwirio awtomatig.