Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Datganiad hygyrchedd ar gyfer y rhestr o gynhyrchion bwyd CBD

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i data.food.gov.uk.

Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Rydym ni am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r rhestr o gynhyrchion CBD.

Mae hynny’n golygu y dylech chi allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun ddisgyn oddi ar y sgrin
  • llywio trwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio trwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd. 

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon?

Rydym ni’n gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch. Gallwch chi weld rhestr o unrhyw faterion yr ydym ni’n gwybod amdanynt ar hyn o bryd yn adran ‘Cynnwys nad yw’n hygyrch’ y datganiad hwn.

Adborth a manylion cyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille: 

Byddwn ni’n ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn pen 5 diwrnod gwaith. 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi’n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi o’r farn nad ydym ni’n bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni:

Darllenwch gyngor ar gysylltu â sefydliadau am wefannau anhygyrch.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os na fyddwch chi’n hapus â’r ffordd rydym ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon ac nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym ni wedi ymateb i’ch cwyn, gallwch chi gysylltu â Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 ( y ‘rheoliadau hygyrchedd’) yng Ngogledd Iwerddon.  

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r ASB wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 o’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y a, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.

Ddim yn cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Mae’r cynnwys nad yw’n hygyrch wedi’i amlinellu isod ynghyd â’r dyddiadau targed ar gyfer trwsio’r problemau hyn.

  • Mae rhai o’n tudalennau yn sgrolio mewn dau ddimensiwn ar sgriniau bach. Mae’r broblem yn fwyaf cyffredin gyda thablau ar ddyfeisiau symudol. Rydym ni’n argymell defnyddio dyfais wahanol i weld y tablau yn llawn. Mae hyn yn methu â bodloni meini prawf Ail-lifo WCAG 2.1 AA 1.4.10. 
  • Nid yw pob rheolydd yn newid ymddangosiad pan gânt eu dewis ond mae’r holl reolwyr ar y dudalen gan gynnwys dolenni, botymau a meysydd yn dangos pan maent wedi’u dewis. Mae hyn yn methu meini prawf Ffocws Gweladwy WCAG 2.1 AA 2.4.7. 

Baich anghymesur

Nid ydym ni wedi gwneud unrhyw honiadau am faich anghymesur.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 31 Mawrth 2022.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 31 Mawrth 2022. Cynhaliwyd y prawf gan ddefnyddio ein gwasanaeth gwirio awtomataidd.

Byddwn yn parhau i wirio trwy ein gwasanaeth awtomataidd a gwneud diweddariadau yn ôl yr angen.