Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Beta ar food.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 May 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 May 2018

Mae'r label 'beta' yn golygu eich bod chi'n edrych ar y fersiwn gyntaf o wasanaeth neu dudalen we newydd. Yn ystod y cyfnod beta, caiff gwasanaethau eu profi a'u gwella'n barhaus.

Mae'r label beta yn cael ei arddangos ar wasanaeth newydd i ddangos ei fod yn cael ei brofi. Mae'n bosibl na fydd yn gweithio i bawb.

Dylai gwasanaethau sydd wedi'u hailgynllunio fod yn haws i'w defnyddio na'r gwasanaethau y maent yn eu disodli.

Bydd ein gwasanaeth beta ar gael ar yr un pryd â gwasanaeth hŷn, sy'n bodoli eisoes. Gallwch chi ddewis pa un i'w ddefnyddio.

Yn y pen draw, bydd gwasanaethau beta llwyddiannus yn dod yn 'fyw' ac yn disodli unrhyw wasanaethau hŷn sy'n cyflawni'r un dasg.

Ein gwasanaeth tanysgrifio e-bost ac sms

Rydym ni'n awyddus i chi danysgrifio i'n gwasanaeth newydd i gael newyddion, ymgynghoriadau a rhybuddion bwyd ac alergedd trwy e-bost a negeseuon sms. Gan fod hwn yn wasanaeth beta newydd, mae'n bosibl y bydd problemau technegol gyda'r gwasanaeth newydd.