Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Adroddiad gan Gadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

FSA 24-03-09 - Adroddiad gan Dr Rhian Hayward MBE.

1.          Crynodeb

1.1      Mae’r adroddiad hwn gan Gadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) yn ymdrin â gweithgareddau’r Pwyllgor ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mawrth 2023 a mis Chwefror 2024.

1.2      Gofynnir i’r Bwrdd nodi gweithgareddau WFAC a rhoi sylwadau ar y cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

2.1      Mae rôl WFAC, sy’n gweithredu fel corff cynghori i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), wedi’i diffinio yn Neddf Safonau Bwyd 1999. Caiff WFAC ei gadeirio gan aelod y Bwrdd dros Gymru, a’i rôl yw cynghori’r ASB ar faterion o ran diogelwch a safonau bwyd, gyda phwyslais arbennig ar Gymru.

2.2      Mae aelodau’r Pwyllgor yn cynnig amrywiaeth eang o arbenigedd, profiad a gwybodaeth ymarferol i’r ASB. Mae’r holl aelodau’n cael eu recriwtio drwy gystadleuaeth Penodiadau Cyhoeddus agored ac yn cael eu penodi gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yng Nghymru.

2.3      Mae’r Pwyllgor yn gweithio’n agos â’r ASB yng Nghymru a thu hwnt, ac mae’n cefnogi canlyniadau strategol yr ASB. 

2.4      Daeth cyfnod yr aelod Bwrdd blaenorol dros Gymru a Chadeirydd WFAC, Peter Price, i ben ar 31 Awst 2023. Hoffai’r Pwyllgor ddiolch i Peter am y gwaith a wnaeth yn ystod ei gyfnod yn y swydd a’i gyfraniad gwerthfawr yn sgil ei brofiad helaeth. 

2.5      Mae’r papur hwn yn ystyried gweithgarwch WFAC o dan y ddau Gadeirydd yn ystod y cyfnod adrodd.

2.6      Mae’r papur hwn yn amlygu’r themâu sydd wedi’u hystyried a’u trafod gan WFAC dros y flwyddyn ddiwethaf yn ogystal ag edrych ymlaen at waith y Pwyllgor dros y 12 mis nesaf.

3.          Aelodau’r Pwyllgor

3.1    Mae gan y Pwyllgor wyth aelod, gan gynnwys aelod Bwrdd yr ASB dros Gymru a Chadeirydd WFAC.

3.2    Mae gan aelodau WFAC ystod eang o arbenigedd, gan gynnwys aelodau sydd â chefndir yn y meysydd canlynol: ffermio ac amaethyddiaeth; y byd academaidd; y diwydiant; y gyfraith, ymchwil, a pholisi; gwyddoniaeth ac arloesi; ac iechyd yr amgylchedd. Mae’r profiad eang hwn, yn ogystal â rhwydweithiau a mewnwelediadau cysylltiedig yr aelodau, wedi bod yn hynod ddefnyddiol ar gyfer trafodaethau WFAC.

3.3    Ym mis Medi 2023, penodwyd Dave Holland i’r Pwyllgor pan ddaeth ail dymor Alan Gardner i ben ar 31 Awst 2023. Hoffai’r Pwyllgor ddiolch am y gwaith a wnaeth Alan yn ystod ei ddau dymor fel aelod WFAC a’r mewnwelediad a’r profiad a gyfrannodd i’r rôl.

3.4    Bydd pedwar aelod o’r Pwyllgor – Helen Taylor, Chris Brereton, John Williams a Georgia Taylor – yn gorffen tymor cyntaf eu penodiad ar 31 Mawrth 2024. 

3.5    Mae un aelod o’r Pwyllgor, Dr Phil Hollington, yn dod i ddiwedd ail dymor ei benodiad ar 7 Hydref 2024. Mae Ysgrifenyddiaeth WFAC wrthi’n gweithio ar yr ymarfer Penodiadau Cyhoeddus er mwyn recriwtio aelod newydd i’r Pwyllgor.

3.6    Bydd un aelod o’r Pwyllgor, Jessica Williams, yn dod i ddiwedd ei thymor cyntaf ar 30 Tachwedd 2024.

4.          Cyfarfodydd y Pwyllgor

4.1    Ers mis Mawrth 2023, mae pedwar cyfarfod WFAC wyneb yn wyneb wedi’u cynnal, a’r rheiny’n gyfarfodydd â thema. Mae pob thema, dan arweiniad y Cadeirydd, wedi rhoi’r cyfle i’r Pwyllgor ystyried materion o safbwynt Cymru yn benodol, ac mae nifer o themâu a materion perthnasol wedi’u trafod a’u hystyried.  

4.2    Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Pwyllgor wedi ystyried y themâu a ganlyn:

  • Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau (BTOM) – ym mis Mai 2023, cafodd y Pwyllgor gyflwyniadau gan Lywodraeth Cymru a swyddogion yr ASB ar y BTOM. Roedd y cyflwyniadau’n rhoi trosolwg o’r BTOM a sut mae’n effeithio ar Gymru a’r tri phorthladd fferi yng Nghaergybi, Abergwaun a Phenfro, ac yn amlinellu cyfraniad yr ASB i ddatblygiad y BTOM. Roedd y trafodaethau’n canolbwyntio ar y ffaith bod sefyllfaCymru’n unigryw gan fod holl borthladdoedd Cymru yn wynebu Iwerddon, a bod hyn yn creu heriau sylweddol. Cydnabu’r Pwyllgor lwyddiant y dull gweithio ar draws y pedair gwlad ac roedd yn hyderus yn y dull gweithio hwn ar gyfer BTOM, sy’n seiliedig ar risg ac wedi’i ategu gan wyddoniaeth a thystiolaeth. 

  • Gweithrediadau Awdurdodau Lleol – ar gyfer cyfarfod mis Gorffennaf 2023, cafodd WFAC gyflwyniadau gan Gadeirydd Iechyd yr Amgylchedd Cymru, Cadeirydd Safonau Masnach Cymru a swyddogion yr ASB. Rhoddodd y cyflwyniadau fewnwelediad gwerthfawr i gyd-destun a chyflawniad awdurdodau lleol yng Nghymru, a’r heriau sy’n eu hwynebu nawr ac yn y dyfodol. Roedd hefyd yn gyfle i ddysgu mwy am sut mae’r ASB yn gweithio gydag awdurdodau lleol yng Nghymru. Roedd yn amlwg o drafodaethau â chydweithwyr mewn awdurdodau lleol ei bod hi’n anodd denu pobl i broffesiwn Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach, a bod hyn yn arwain at broblemau adnoddau.

  • Gwyddoniaeth ac Arloesi – cynhaliwyd cyfarfod mis Hydref 2023 yn ArloesiAber yn Aberystwyth. Cafodd y Pwyllgor gyfres o gyflwyniadau gan gynnwys y gwaith a wnaed yn ArloesiAber, rhaglen bridio planhigion Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth, Prosiect Ansawdd Bwyta Cig Eidion Prifysgol Aberystwyth, ac Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth. Cafodd y Pwyllgor hefyd daith o gwmpas ArloesiAber. Gwnaeth y Pwyllgor ganmol y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud yng Nghymru. Roedd y cyflwyniadau’n dangos yn glir y cynnydd sy’n cael ei wneud ym maes Gwyddoniaeth ac Arloesi. Nodwyd bod hanes bridio ceirch yn rhywbeth i Gymru ymfalchïo ynddo, a thynnwyd sylw at y 100 mlynedd a mwy o waith o ymchwil a datblygu sydd wedi’i gynnal yn y maes, a’r perthnasoedd masnachol sydd wedi’u meithrin. Aberystwyth yw un o’r unig leoliadau yn y DU lle mae’r gwaith hwn wedi parhau i gael ei gynnal mewn ffordd mor drylwyr.

  • Diwygio Cynhyrchion Rheoleiddiedig – ym mis Chwefror 2024, cyfarfu’r Pwyllgor am y tro cyntaf yn swyddfa newydd yr ASB yng Nghymru ym Mharc Cathays. Cafodd WFAC gyflwyniad gan swyddogion yr ASB ar y rhaglen Diwygio Cynhyrchion Rheoleiddiedig. Roedd y cyflwyniad yn rhoi cipolwg ar y gwaith hwn ac yn cyflwyno amcanion y rhaglen ddiwygio. Ar y cyfan, roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r rhaglen ddiwygio, ei nod o ddarparu system symlach a mwy effeithlon i ddod â chynnyrch i’r farchnad yn gyflymach. Roedd hefyd yn fodlon bod yr ASB yn cynnwys rhanddeiliaid yng Nghymru yn ei rhaglen ymgysylltu. Roedd y prif bwyntiau trafod yn ymwneud â’r ffaith bod hon yn broses ddiwygio hollbwysig ar gyfer y system fwyd, a bod angen bod yn ofalus rhag creu unrhyw rwystrau i arloesi o fewn y system honno. Roedd y Pwyllgor yn ymwybodol o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU a’r dylanwad sydd gan y ddeddfwriaeth hon ar y cynhyrchion sydd ar gael i’w gwerthu yng Nghymru.

5.          Adolygiad o’r Pwyllgorau Cynghori ar Fwyd

5.1    Fel y nodwyd yn Adroddiad Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Gogledd Iwerddon (NIFAC) i gyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr, mae aelodau Bwrdd Cymru a Bwrdd Gogledd Iwerddon yn cynnal adolygiad anffurfiol ar y cyd o’r Pwyllgorau Cynghori ar Fwyd i sicrhau eu bod yn gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol, a’u bod yn y sefyllfa orau i ddarparu cyngor sy’n benodol i’r gwledydd unigol, nawr bod y DU y tu allan i’r UE. 

5.2    Mae’r argymhellion a nodir ym mhapur yr Adolygiad o’r Pwyllgorau Cynghori ar Fwyd, a gyflwynwyd i Fwrdd yr ASB ym mis Mehefin 2023, yn parhau i gael eu gweithredu gan ysgrifenyddiaethau WFAC a NIFAC. Mae’r rhain yn cynnwys cysoni’r themâu a drafodir gan WFAC a NIFAC yn eu cyfarfodydd â thema i sicrhau dull unffurf ac i osgoi dyblygu deunyddiau pwyllgorau, ac annog aelodau WFAC i gyfrannu at themâu’r dyfodol, er mwyn llywio eu dealltwriaeth o ran datblygu meysydd blaenoriaeth a pholisi.

6.          Edrych tua’r dyfodol

6.1    Ym mis Ebrill 2024, yn y cyfarfod â thema nesaf, rydym yn bwriadu trafod y dirwedd busnesau bwyd yng Nghymru, yr heriau o ran  cydymffurfiaeth busnesau a’r ffactorau sy’n effeithio ar arloesi a thwf. 

6.2    Ym mis Mehefin 2024, edrychaf ymlaen at groesawu fy nghyd-aelodau o’r Bwrdd i Gymru ar gyfer cyfarfod y Bwrdd a gynhelir yn Llandudno. Mae tîm yr ASB yng Nghymru wrthi’n cysylltu ag Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd i’w helpu i nodi a datblygu cyfres o ymweliadau a chyfleoedd i ymgysylltu â rhanddeiliaid. 

6.3    Bydd y Pwyllgor yn parhau â’i ymrwymiad i ymgysylltu â rhanddeiliaid a chodi amlygrwydd WFAC, gan gynnal cyfarfodydd ac ymweliadau ledled Cymru. Edrychaf ymlaen at gyfleoedd ymgysylltu yn ystod yr haf yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd WFAC, gan gynnwys yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd ac yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru. 

7.          Casgliadau

7.1    Mae WFAC wedi ystyried amrywiaeth eang o themâu dros y 12 mis diwethaf, ac wedi elwa ar fewnbwn cydweithwyr yn yr ASB a chydweithwyr allanol.

7.2    Bydd 2024 yn gyfle i’r Pwyllgor barhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghymru a chyflawni’r argymhellion a nodir yn yr Adolygiad o’r Pwyllgorau Cynghori ar Fwyd.

7.3    Gofynnir i’r Bwrdd nodi gweithgareddau WFAC a rhoi sylwadau ar y cynlluniau ar gyfer y dyfodol.