Adroddiad gan Gadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
FSA 26/03/09 – Adroddiad gan Dr Rhian Hayward MBE
1. Crynodeb
1.1 Mae’r adroddiad hwn gan Gadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) yn ymdrin â gweithgareddau’r Pwyllgor ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026.
1.2 Mae’r papur yn rhoi trosolwg o waith WFAC hyd yma, gyda ffocws penodol ar y themâu a drafodwyd yn ystod ei gyfarfodydd thematig diweddar. Mae hefyd yn nodi meysydd ffocws disgwyliedig y Pwyllgor ar gyfer y 12 mis nesaf.
1.3 Gofynnir i’r Bwrdd nodi gweithgareddau WFAC a rhoi sylwadau ar y cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
2. Rôl ac Aelodau
2.1 Diffinnir rôl WFAC yn Neddf Safonau Bwyd 1999, yn benodol i gynghori’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar unrhyw elfennau sy’n benodol i Gymru ac sy’n gysylltiedig â chylch gwaith yr ASB. Mae’n gweithredu fel corff cynghori i’r ASB ac fe’i cadeirir gennyf fi fel Aelod o Fwrdd yr ASB dros Gymru.
2.2 Mae’r Pwyllgor yn gweithio’n agos â’r ASB yng Nghymru a thu hwnt wrth iddo geisio cefnogi amcanion strategol yr ASB. Mae gan y Pwyllgor wyth aelod, gan gynnwys Aelod o Fwrdd yr ASB dros Gymru a Chadeirydd WFAC. Mae’r holl aelodau’n cael eu recriwtio drwy gystadleuaeth penodiadau cyhoeddus agored ac yn cael eu penodi gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yng Nghymru.
2.3 Mae aelodau WFAC yn cynnig ystod eang o arbenigedd, profiad a mewnwelediad ymarferol i’r ASB. Mae’r amrywiaeth hon o wybodaeth – ynghyd â’r rhwydweithiau gwerthfawr y mae aelodau’n cyfrannu atynt – yn parhau i gyfoethogi trafodaethau WFAC a chryfhau ansawdd mewnbwn.
2.4 Yn ystod y cyfnod adrodd, cwblhaodd Jessica Williams ei hail dymor. Mae’r Pwyllgor yn dymuno diolch iddi yn ffurfiol am ei mewnwelediadau a’i phrofiad yn ystod trafodaethau WFAC. Dechreuodd John Richards a Dr Ifan Lloyd eu tymor cyntaf fel aelodau ar 1 Gorffennaf 2025, gyda Lindsay Horth yn ymuno ar 1 Rhagfyr 2025.
3. Cyfarfodydd y Pwyllgor a gwaith ymgysylltu
3.1 Ers fy adroddiad diwethaf i’r Bwrdd fel Cadeirydd WFAC, mae pedwar cyfarfod â thema wedi cael eu cynnal. Mae’r cyfarfodydd hyn yn canolbwyntio ar faes neu thema benodol ac yn rhoi cyfle i’r Pwyllgor ystyried pynciau o safbwynt sy’n benodol i’w wlad. Mae cyfarfodydd â thema yn helpu WFAC i gael dealltwriaeth well o faterion perthnasol, gan alluogi’r Pwyllgor a'r Cadeirydd i gyfrannu’n fwy gweithredol at flaenoriaethau’r ASB .
3.2 Lle bo modd, mae themâu cyfarfodydd WFAC yn cael eu halinio â rhai Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Gogledd Iwerddon (NIFAC). Fodd bynnag, fel y gwelir o rai o’r themâu y mae WFAC wedi’u trafod eleni, mae achlysuron pan all y themâu fod yn benodol i genedl. Rwy’n parhau i weithio’n agos ag Anthony Harbinson, sef Aelod Bwrdd yr ASB dros Ogledd Iwerddon a Chadeirydd NIFAC, i sicrhau bod y Pwyllgorau’n gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol a’u bod yn y sefyllfa orau i roi cyngor penodol i’r gwledydd. Eleni, rydym hefyd wedi rhoi cynnig ar gynnal rhai cyfarfodydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd (FAC) ar y cyd, sydd wedi gweithio’n dda. Mae’r Cadeiryddion a’r timau Pwyllgorau hefyd yn cydweithio’n agos i ddatblygu cynlluniau ar gyfer y dyfodol a chynnal gwaith sganio’r gorwel.
3.3 Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae WFAC wedi trafod y themâu a’r materion canlynol:
3.4 Ebrill 2025: Cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd (CCPs) – Lansiwyd y rhaglen blwch tywod ym mis Mawrth 2025 ac felly, roedd yn amserol i WFAC ymchwilio’n fanwl i faes sy’n datblygu’n gyflym – cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd (CCPs). Cafodd y Pwyllgor fudd o gyflwyniadau arbenigol gan Brif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB ac aelodau o’r tîm blwch tywod CCP. Trafodwyd sawl agwedd allweddol ar CCPs. Roedd y rhain yn cynnwys sylfeini gwyddonol technoleg meithrin celloedd; gweledigaeth, cwmpas a chyflawniadau’r rhaglenni blwch tywod; canfyddiadau gweithdai a rhwydweithiau cydweithredol; dull fframwaith rheoleiddio ar sail pedair gwlad a materion sy’n benodol i Gymru. Pwysleisiodd y tîm blwch tywod fod diogelwch yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth drwy gydol y gwaith hwn – egwyddor a oedd yn amlwg yn nhrafodaethau’r Pwyllgor. Roedd meysydd trafod allweddol eraill yn cynnwys pwysigrwydd meithrin a chynnal hyder defnyddwyr, a’r angen am labelu clir sy’n llawn gwybodaeth.
3.5 Yn achos Cymru, nododd yr aelodau natur y sector amaethyddol a chroesawyd y ffaith bod Llywodraeth Cymru bellach yn rhan o’r rhwydwaith trawslywodraethol newydd. Roedd y drafodaeth yn adlewyrchu diddordeb cryf mewn labelu, rôl awdurdodau lleol, ystyriaethau masnach, a’r ddadl gymdeithasol ehangach rhwng bwydydd naturiol a bwydydd wedi’u peiriannu. Mynegodd yr aelodau eu diddordeb yn y gwaith hwn, a gofynnwyd am gael gwybod y diweddaraf wrth i’r gwaith blwch tywod fynd rhagddo.
3.6 Gorffennaf 2025: Dyfodol Bwyd – Ym mis Gorffennaf, daethom ag unigolion allweddol o bob cwr o Gymru sy’n gweithio ar bolisi bwyd ynghyd. Canolbwyntiodd y cyfarfod ar dystiolaeth genedlaethol, mewnwelediadau strategol a chyfeiriad polisi’r llywodraeth. Yn dilyn lansio adroddiad blynyddol yr ASB, Ein Bwyd 2024, cafodd y Pwyllgor gyflwyniad ar y prif ganfyddiadau, gyda phwyslais arbennig ar y cynnwys sy’n benodol i Gymru. Roedd hyn yn cynnwys pryderon defnyddwyr – yn enwedig mewn perthynas â deunydd pecynnu, fforddiadwyedd, ansawdd, a siwgr – yn ogystal â data ar sgoriau hylendid, cydymffurfiaeth bwyd anifeiliaid, gweithgarwch samplu, ac adnoddau awdurdodau lleol.
3.7 Ar ôl i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol (CCD) gyhoeddi ei adroddiad, a oedd yn cynnwys nifer o argymhellion ar fwyd, gwahoddwyd cynrychiolydd o swyddfa’r CCD i roi diweddariad i’r Pwyllgor. Tynnwyd sylw at yr angen brys i ddiwygio’r system fwyd, gan gynnwys yr angen i fynd i’r afael â diffyg diogeledd bwyd, gwella prydau ysgol, a buddsoddi mewn seilwaith lleol. Esboniodd swyddogion Llywodraeth Cymru amcanion y Strategaeth Bwyd Cymunedol newydd, gan bwysleisio dulliau, cynaliadwyedd y gadwyn gyflenwi, cefnogaeth i’r maes garddwriaeth, a chyfleoedd i gysylltu polisi bwyd â chynllunio, iechyd ac addysg. Trafododd yr aelodau yr anghydraddoldebau rhwng gwledydd y DU; gofynnodd gwestiynau am gyflymder y cam gweithredu a thegwch gwledig; a gwnaethant fynegi ddiddordeb cryf mewn adolygu’r cynnydd eto yn ddiweddarach.
3.8 Tachwedd 2025: Bwyd Anifeiliaid – Gan gydnabod pwysigrwydd y sector amaethyddol yng Nghymru, cynhaliwyd cyfarfod mis Tachwedd mewn melin bwyd anifeiliaid, lle cynhaliwyd trafodaeth gynhwysfawr ar gyflwr y sector bwyd anifeiliaid. Diolch i ForFarmers am ei gynnal. Yng nghwmni Cydffederasiwn y Diwydiannau Amaethyddol (AIC) ac arweinwyr bwyd anifeiliaid rhanbarthol o awdurdodau lleol Sir Fynwy a Phowys, buom yn edrych ar y fframwaith rheoleiddio ar gyfer hylendid a safonau bwyd anifeiliaid, yn nodi’r heriau o ran arolygu, ac yn tynnu sylw at rôl hanfodol cynlluniau sicrhau bwyd anifeiliaid wrth gefnogi diogelwch a chydymffurfiaeth.
3.9 Cafodd yr aelodau fewnwelediad gwerthfawr i bwysau’r gweithlu, modelau gweithredu rhanbarthol, a’r heriau ymarferol wrth gydlynu arolygiadau ledled Cymru, yn ogystal ag effaith ehangach ansefydlogrwydd byd-eang ar ddeunyddiau bwyd anifeiliaid a chadwyni cyflenwi. Edrychodd y drafodaeth hefyd ymlaen at oblygiadau posib cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol (SPS) ac ystyriodd yr arloesedd sy’n digwydd yn y sector – gan gynnwys datblygu protein pryfed, biotechnoleg, a chynhwysion bwyd anifeiliaid mwy cynaliadwy. Roedd y cyfarfod yn cynnig cyfle i’r tîm wneud cysylltiadau newydd yn y sector, a fydd yn ein helpu i ddatblygu ein gwaith yn y maes hwn mewn modd mwy adeiladol.
3.10 Chwefror 2026: Atchwanegiadau – Bu’r cyfarfod ar thema polisi atchwanegiadau bwyd yn edrych ar dwf sydyn marchnad atchwanegiadau’r DU, y risgiau i ddefnyddwyr sy’n dod i’r amlwg, a’r heriau y mae rheoleiddwyr yn eu hwynebu. Tynnodd y cyflwyniadau sylw at ddefnydd eang o atchwanegiadau a’r ddibyniaeth gynyddol ar farchnadoedd ar-lein, lle canfu ymchwiliadau gan Which? gynhyrchion a oedd yn cynnwys gormod o faetholion, honiadau camarweiniol, ac, mewn rhai achosion, meddyginiaethau heb drwydded yn cael eu gwerthu i ddefnyddwyr. Pwysleisiodd cyfranwyr fod labelu dryslyd, galw sy’n cael ei ysgogi gan gyfryngau cymdeithasol, a bylchau yn nealltwriaeth y cyhoedd yn cyfrannu at batrymau defnyddio a allai fod yn niweidiol.
3.11 Esboniodd rheoleiddwyr, gan gynnwys yr ASB, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) a Llywodraeth Cymru, mai cyfrifoldebau tameidiog a diffyg adnoddau sy’n effeithio ar waith gorfodi effeithiol – yn enwedig mewn perthynas â chynhyrchion a fewnforir a chynhyrchion ar-lein. Tynnodd y trafodaethau sylw at yr angen am ganllawiau cliriach i fusnesau a defnyddwyr, cydweithio cryfach rhwng asiantaethau, a mwy o atebolrwydd i werthwyr ar‑lein. Daeth y cyfarfod i ben gyda chytundeb y dylai’r mewnwelediadau hyn gyfrannu at waith polisi ehangach yr ASB, gan gynnwys sut i wella diogelwch defnyddwyr mewn marchnad sy’n newid yn gyflym.
3.12 Trwy’r flwyddyn, roedd y Pwyllgor hefyd yn cyfarfod i drafod y papurau cyn pob cyfarfod Bwrdd. Mae’r cyfarfodydd hyn sy’n paratoi ar gyfer y Bwrdd yn rhoi cyfle i WFAC ystyried papurau’r Bwrdd sydd wedi’u cyhoeddi a darparu safbwynt datganoledig, gan fy ngalluogi i fel Cadeirydd WFAC ac Aelod y Bwrdd dros Gymru i gyflwyno ystyriaethau sy’n benodol i Gymru yn ystod trafodaethau’r Bwrdd.
3.13 Ym mis Mehefin, gwnaethom gynnal cyfarfod paratoi ar gyfer y Bwrdd ar-lein ar y cyd â NIFAC. Roedd hyn yn gyfle i aelodau WFAC a NIFAC glywed a deall mwy am safbwyntiau’r gwledydd a rhannu adborth ar bapurau’r Pwyllgor. Roedd yr adborth gan aelodau yn gadarnhaol, a gwnaethom benderfynu profi’r dull hwn bob blwyddyn, a byddwn yn mynd ati i baratoi ar gyfer y cyfarfod hwn yn yr un modd.
3.14 Yn ogystal â chyfarfodydd ffurfiol, mae’r Pwyllgor a minnau wedi ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid drwy gydol y flwyddyn. Mae hyn wedi cynnwys cymryd rhan mewn digwyddiadau fel Gwobrau Bwyd a Diod Cymru blynyddol ym mis Mai, Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, lansio’r Adroddiad Blynyddol ar Safonau Bwyd yn y Senedd ym mis Gorffennaf, ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym mis Awst. Mae’r gwaith ymgysylltu hwn wedi cryfhau perthnasoedd ar draws y sectorau bwyd a diogelu’r cyhoedd, ac wedi rhoi cipolwg gwerthfawr ar flaenoriaethau a materion sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru. Rwyf hefyd wedi mynd ati i drefnu cyfarfodydd ddwywaith y flwyddyn gyda chynrychiolwyr o Gyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Cymru (DPPW) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Mae’r cyfarfodydd hyn wedi helpu i wella dealltwriaeth o’r heriau gweithredol a sicrhau cydlyniad agosach rhwng WFAC a phartneriaid awdurdodau lleol.
3.15 Ar y cyd â Chadeirydd y Bwrdd, rwyf hefyd wedi bod yn cael cyfarfodydd gyda’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, gan fod yr ASB yng Nghymru’n rhan o’i chylch gwaith. Mae’r cyfarfodydd hyn wedi rhoi cyfle i drafod y prif flaenoriaethau a datblygiadau ar gyfer Cymru, ac i sicrhau bod gwaith y Pwyllgor yn cyd-fynd â disgwyliadau’r Gweinidog ac amcanion ehangach Llywodraeth Cymru.
4. Edrych ymlaen
4.1 Mae aelodau’n awyddus i sicrhau eu bod yn ystyried meysydd cyffredin neu faterion sy’n dod i’r amlwg i’r ASB ar y pryd. Byddaf yn parhau i ymgysylltu â Chadeirydd yr ASB, Cadeirydd NIFAC a thîm Rheoli Gweithredol yr ASB i helpu i nodi materion a meysydd lle gall y Pwyllgorau ychwanegu gwerth.
4.2 Er y gallwn addasu’r cynllun gwaith sy’n edrych ymlaen yn ôl yr angen, mae’r Pwyllgor yn bwriadu archwilio’r meysydd canlynol yn ystod y flwyddyn nesaf. Lle bo modd, bydd pob un o’r meysydd yn gysylltiedig ag ymweliad perthnasol. Mae’r tîm a minnau wrthi’n archwilio ymweliadau posib.
4.3 Dyfodol rheoleiddio bwyd: Yn dilyn dyrannu cyllid gan Drysorlys Ei Fawrhydi yng nghyllideb yr hydref i’r ASB archwilio ffordd newydd o reoleiddio busnesau bwyd yn Lloegr, a’r papur cychwynnol a fydd yn cael ei ystyried yn y cyfarfod Bwrdd hwn, bydd y cyfarfod â thema y mae WFAC yn ei gynnal ym mis Ebrill yn ystyried beth mae’r gwaith hwn yn ei olygu yng Nghymru. Gydag etholiad y Senedd ym mis Mai, byddwn yn mynd ati i ymgysylltu â’r Senedd newydd ar y cynigion hyn, ar ôl i ni ymgysylltu â rhanddeiliaid ehangach yng Nghymru.
4.4 Troseddau Bwyd a rôl yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd: Er mwyn deall yn well gweithgarwch ‘smokies’ yng Nghymru, gan edrych ar natur a maint y fasnach anghyfreithlon hon a’i heffaith ehangach ar economi Cymru. Cyfle i drafod sut y gall arferion bwyd anghyfreithlon danseilio busnesau cyfreithlon a thynnu sylw at bwysigrwydd bwyd diogel ac ymddiriedaeth defnyddwyr.
4.5 Cytundeb SPS: Gan alluogi’r Pwyllgor i ddatblygu dealltwriaeth glir o brif egwyddorion y cytundeb a’r goblygiadau ar gyfer gwaith yr ASB. Bydd yn hanfodol deall yn gynnar i sut y bydd y cytundeb yn effeithio ar gyfrifoldebau rheoleiddio, llifau masnach a blaenoriaethau gweithredol, er mwyn sicrhau bod yr ASB yn barod ac yn ymatebol.
4.6 Mae themâu eraill y mae’r Pwyllgor wedi’u hystyried yn cynnwys Cyfathrebu Strategol yr ASB, Labelu Bwyd, Alergenau a Gorsensitifrwydd i Fwyd, Proteinau Amgen ac Ymwrthedd Gwrthficrobaidd. Efallai y byddwn yn dod yn ôl at y rhain mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, yn dibynnu ar flaenoriaethau.
4.7 Byddwn yn penderfynu pryd y gallai fod yn ddefnyddiol i WFAC a NIFAC gwrdd, naill ai i baratoi ar gyfer y Bwrdd neu ar gyfer cyfarfod â thema. Mae Anthony a minnau’n awyddus i adeiladu ar y dull hwn er mwyn sicrhau bod y Pwyllgor a’i aelodau’n cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol.
4.8 Yn y cyfamser, bydd cyfarfodydd WFAC i baratoi ar gyfer y Bwrdd yn parhau i ganolbwyntio ar bapurau sy’n cael eu trafod gan y Bwrdd, gan roi sylw arbennig at feysydd sy’n berthnasol i Gymru.
4.9 Bydd y pwyllgor yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid mewn digwyddiadau allweddol ledled Cymru, gan gynnwys Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, cynadleddau a digwyddiadau allweddol ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Fel Cadeirydd WFAC, byddaf hefyd yn parhau i gwrdd â rhanddeiliaid allweddol, fel Gweinidogion Cymru (ochr yn ochr â Chadeirydd yr ASB), Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
4.10 Mae’r Pwyllgor, y tîm gweithredol a minnau’n edrych ymlaen hefyd at groesawu’r Bwrdd i Gymru ym mis Medi, ac rydym yn ystyried Abertawe fel lleoliad posib.
5. Casgliadau
5.1 Mae WFAC wedi ystyried amrywiaeth o themâu dros y 12 mis diwethaf, ac wedi elwa ar fewnbwn cydweithwyr yn yr ASB a chyflwynwyr allanol.
5.2 Bydd WFAC yn achub ar bob cyfle i gefnogi gwaith yr ASB i gyflawni er budd defnyddwyr, busnesau a rhanddeiliaid allweddol eraill Cymru. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i gryfhau ein perthynas gydweithredol â’r Cadeirydd, Bwrdd yr ASB a NIFAC.
5.3 Gofynnir i’r Bwrdd nodi gweithgareddau WFAC a rhoi sylwadau ar y cynlluniau ar gyfer y dyfodol.