Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Broceriaid bwyd

Mae'r wybodaeth hon yn helpu broceriaid i ddeall eu rhwymedigaethau o dan gyfraith bwyd gan gynnwys yr angen i gofrestru fel busnes bwyd.

Beth mae brocer bwyd yn ei wneud

Mae brocer bwyd yn fusnes sy'n prynu bwyd, yn cymryd perchnogaeth o fwyd neu'n meddu ar berchnogaeth gyfreithiol am fwyd i'w ailwerthu i fusnesau eraill fel:

  • gweithgynhyrchwyr
  • manwerthwyr
  • arlwywyr 
  • broceriaid eraill

Yn aml, y gwahaniaeth rhwng broceriaid bwyd a gweithredwyr busnesau bwyd eraill yw eu bod yn cymryd perchnogaeth gyfreithiol am y bwyd yn hytrach na meddiant corfforol.

Rydych chi'n cael eich dosbarthu fel gweithredwr busnes bwyd oherwydd eich bod chi'n cyflenwi bwyd i fusnesau eraill hyd yn oed os na fyddwch chi byth yn meddu ar fwyd yn gorfforol.

Cofrestru fel busnes bwyd

Os ydych chi'n gwerthu bwyd ar-lein, mae'n ofyniad cyfreithiol i gofrestru'ch busnes gyda'ch awdurdod lleol 28 diwrnod cyn eich bod chi'n bwriadu masnachu.

Os ydych chi'n masnachu yn barod ac heb gofrestru, mae gofyn i chi gofrestru cyn gynted â phosibl. Gallwch chi gofrestru'ch busnes yn rhad ac am ddim.

Cofrestru a rheoli 

Cyngor ar arfer da

Defnyddiwch gyflenwyr sydd ag enw da yn unig. Ar gyfer cyflenwyr newydd, gallech chi ymweld â'u cyfleusterau i sicrhau eu bod yn lân a bod eu cynhyrchion yn cael eu cynhyrchu i safon uchel.

Ystyriwch weithredu system reoli sy’n cael ei chydnabod gan y diwydiant, fel:

Ystyriwch ddod yn aelod o Gymdeithas Fasnach. Mae cymdeithasau masnach yn helpu eu haelodau drwy gynnig cyngor arbenigol, yn enwedig o natur dechnegol a chyfreithiol.

Darllenwch am egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP).

Gofynnwch i'ch awdurdod lleol am help ac ystyried y Cynllun Prif Awdurdod.