Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Ennill Cydnabyddiaeth – Cynlluniau Sicrwydd Cymeradwy

Nod y system 'Ennill Cydnabyddiaeth' yw lleihau'r baich ar fusnesau sy'n cydymffurfio gan olygu bod modd canolbwyntio gweithgarwch ar fusnesau nad ydynt yn cydymffurfio cystal. Bydd y rhai sy'n gymwys i Ennill Cydnabyddiaeth yn elwa trwy gael llai o ymweliadau gan yr awdurdod gorfodi.

Rydym ni wedi cyflwyno lleihau amlder yr arolygiadau (ennill cydnabyddiaeth) ar gyfer busnesau sy'n cydymffurfio sy'n aelodau o gynlluniau sicrwydd cymeradwy'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn y meysydd cynhyrchu cynradd (2006), hylendid llaeth (2011) a bwyd anifeiliaid (2014).

Cynlluniau Sicrwydd Cymeradwy

Mae Cydffederasiwn y Diwydiannau Amaethyddol (AIC) yn sefydliad annibynnol, nid er elw sy'n gweithio ar ran aelodau yn y sector cyflenwi amaethyddol. Mae AIC yn cynrychioli amrywiaeth o sectorau yn y diwydiant bwyd anifeiliaid ac mae'n rheoli nifer o gynlluniau sicrwydd.

Rydym ni wedi cymeradwyo'r cynlluniau sicrwydd canlynol:

  • Cynllun Sicrwydd Deunyddiau Bwyd Anifeiliaid (FEMAS)
  • Cynllun Sicrwydd Masnachu ar gyfer Cnydau i'w Cynaeafu (TASCC)
  • Cynllun Rhyngwladol Sicrwydd Bwyd Anifeiliaid (UFAS)

Mae AIC yn gweithredu i Femorandwm o Ddealltwriaeth gyda'r ASB, Safonau Bwyd yr Alban a'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (VMD)

England, Northern Ireland and Wales

Cynlluniau Sicrwydd Cymeradwy mewn sectorau bwyd a bwyd anifeiliaid

Mae Cynllun Sicrwydd y Tractor Coch yn gynllun sicrwydd ar hyd y gadwyn sy'n cynnwys diogelwch bwyd, y gallu i olrhain, lles anifeiliaid a diogelu'r amgylchedd.

Gellir rhoi logo'r cynllun ar gynnyrch i ddangos bod y busnesau yn y gadwyn gyflenwi wedi bodloni safonau'r cynllun a bod modd olrhain y cynnyrch yn llwyr i ffermydd a aseswyd yn annibynnol.

Mae gan Cynllun Sigrwydd y Tractor Coch chwe chynllun sydd wedi'u cymeradwyo gennym ni:

  • Cig eidion a chig oen
  • Cnydau a betys siwgwr
  • Llaeth
  • Cynnyrch ffres
  • Moch
  • Dofednod

Mae Welsh Lamb and Beef Producers Ltd yn gweithredu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gydag ASB Cymru. 

Wales

Rydym ni'n gweithredu i Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Chynllun y Tractor Coch yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

England, Northern Ireland and Wales

Awdurdod Gorfodi – Dilysu

Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a hyder parhaus ar ôl cymeradwyo cynllun sicrwydd i ennill cydnabyddiaeth, byddwn ni'n parhau i wirio cydymffurfiaeth â'n meini prawf.

Mae hyn yn cynnwys gwiriad a gynhelir gan awdurdodau gorfodi sy'n seiliedig ar ganran o aelodau'r cynllun sicrwydd i wirio cydymffurfiaeth busnes. Bydd gwiriad cadarnhaol yn galluogi'r ASB i barhau i fod â hyder yn y cynllun sicrwydd a'r gallu i gyfiawnhau statws cynllun cymeradwy.

Adroddiad Eithriad yr Awdurdod Gorfodi

Sector bwyd anifeiliaid yn unig

Pan fo awdurdod gorfodi yn dod yn ymwybodol y bydd busnes bwyd anifeiliaid yn colli statws Ennill Cydnabyddiaeth, mae'n rhaid iddynt roi gwybod i'r ASB cynted â phosibl drwy ddefnyddio'r ffurflen adrodd am eithriad briodol. Mae'r wybodaeth hon yn bwysig i helpu'r ASB i gyflawni ei rôl o wirio’r cynlluniau sicrwydd cymeradwy.

Cymru a Lloegr

Bydd angen i awdurdodau gorfodi yng Nghymru e-bostio'r adroddiad eithriad at lasupportwales@food.gov.uk

England and Wales

Hysbysiad Preifatrwydd – Adroddiadau eithriad ar gyfer Cynlluniau Sicrwydd Cymeradwy yr Asiantaeth