Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mewnforio cnau

Penodol i Gymru a Lloegr

Canllawiau ar labelu, halogion a beth i gadw llygad amdano wrth fewnforio cnau.

Gwybodaeth gyffredinol

Mae'n rhaid i gnau a gaiff eu mewnforio o drydydd gwledydd fodloni'r un safonau hylendid a bod yn destun i'r un gweithdrefnau â bwyd a gynhyrchir ym Mhrydain Fawr. Fel arfer nid oes angen tystysgrif iechyd arnoch i fewnforio cnau, oni bai eu bod yn destun Gweithdrefnau Rheoli Argyfwng – gweler y cyfyngiadau mewnforio isod.

Labelu

Mae gwybodaeth gyffredinol am labelu bwyd ar gael ar wefan GOV.UK.

I gael cyngor ar labelu cynhyrchion penodol, cysylltwch ag Adran Safonau Masnach neu Adran Iechyd yr Amgylchedd eich awdurdod lleol.

Gallwch chi ddod o hyd i'r manylion cyswllt ar gyfer yr adrannau hyn ar-lein.  

Cynhyrchion organig

Os ydych chi'n mewnforio cynhyrchion organig (cynhyrchion amaethyddol byw neu heb eu prosesu, cynhyrchion amaethyddol wedi'u prosesu i'w defnyddio fel bwyd neu fwyd anifeiliaid, deunydd ysgogi llystyfiant a hadau i'w tyfu), o drydydd gwledydd, cysylltwch â'r adran Mewnforion Organig trwy wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA).

I gael gwybodaeth am reoleiddio cynhyrchion organig a safonau organig (gan gynnwys labelu) o fewn Prydain Fawr, cysylltwch â'r Tîm Strategaeth Organig hefyd trwy wefan DEFRA.

Deunydd pecynnu

Mae deunyddiau ac eitemau a ddaw i gysylltiad â bwyd, gan gynnwys y rhai a ddefnyddir ar gyfer pecynnu bwyd, yn cael eu rheoli gan gyfraith y Deyrnas Unedig (DU) a ddargedwir (retained UK law). Mae'r ddeddfwriaeth yn arbennig o drylwyr wrth reoli deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir eu defnyddio ar gyfer bwyd.

I gael gwybodaeth am ddiogelwch deunydd pecynnu, cysylltwch â'r Tîm Deunyddiau a ddaw i Gysylltiad â Bwyd dros e-bost foodcontactmaterial@food.gov.uk

Hylendid bwyd

Os oes gennych chi ymholiadau cyffredinol ar hylendid bwyd, cysylltwch â'r Tîm Polisi Hylendid Bwyd dros e-bost arfoodhygiene.policy@food.gov.uk 

Halogion

Mae nodyn cyfarwyddyd ar Reoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2013, sy'n darparu ar gyfer deddfu a gorfodi cyfraith y DU a ddargedwir sy'n gosod terfynau rheoleiddiol ar gyfer halogion mewn bwyd (nitrad, mycotocsinau, metelau, deuocsinau 3-MCPD a hydrocarbonau aromatig polysyclig neu PAHs) ar gael ar ein gwefan.

Cyfyngiadau mewnforio

Mae rhai cyfyngiadau/gofynion mewnforio eraill a all fod yn berthnasol wrth fewnforio cnau, ac mae angen i fewnforwyr fod yn ymwybodol ohonynt. Maent fel a ganlyn:

Cynhyrchion ‘risg uwch’

Ers 25 Ionawr 2010, dim ond drwy borthladdoedd a meysydd awyr penodol sydd wedi’u cymeradwyo fel mannau rheoli ar y ffin y gellir mewnforio bwydydd a bwydydd anifeiliaid penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid a gaiff eu hystyried i beri ‘risg uwch’ i Brydain Fawr. Bydd y rhain yn destun rheolaethau swyddogol. Mae cynnyrch ‘risg uwch’ yn gynnyrch bwyd neu fwyd anifeiliaid y mae’n hysbys ei fod yn peryglu iechyd y cyhoedd, neu fod hynny’n dod i’r amlwg.

Afflatocsinau

Mae mewnforio rhai bwydydd o drydydd gwledydd penodol, fel mewnforio pysgnau (peanuts) o Brasil, Tsieina, yr Aifft, Ghana ac India, cnau cyll (hazelnuts) a chnau pistasio o Dwrci, cnau pistasio o Iran, a chnau Brasil o Frasil yn destun amodau arbennig oherwydd y perygl eu bod wedi'u halogi ag afflatocsinau.

Mae hyn yn golygu mai drwy borthladdoedd neu feysydd awyr penodol yn unig sy'n fannau rheoli ar y ffin dynodedig y gellir mewnforio llwythi (consignments) i Brydain Fawr.

Gall gweithredwyr busnesau bwyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalen we ar Fycotocsinau.

Dylai mewnforwyr hefyd fod yn ymwybodol bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi rhoi cymeradwyaeth dan Benderfyniad y Comisiwn 2008/47/EC i UDA gynnal gwiriadau cyn allforio ar eu pysgnau a chynhyrchion sy'n deillio ohonynt, yn union cyn eu hallforio. Felly, dylai llwythi o bysgnau o UDA, a chynhyrchion sy'n deillio o bysgnau, gynnwys tystysgrif wedi'i llofnodi gan un o swyddogion awdurdod cymwys UDA, Adran Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau (USDA). Dylai'r dystysgrif nodi bod y llwyth yn cydymffurfio â'r lefelau uchaf a ganiateir ar gyfer afflatocsinau a dylai ddarparu canlyniadau'r gwaith samplu a dadansoddi a gynhaliwyd.

I gael cyngor pellach ar y Penderfyniadau hyn a gofynion profi am afflatocsinau, cysylltwch â'r Tîm Mycotocsinau dros e-bost chemicalcontaminants@food.gov.uk