Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mycotocsinau

Egluro peryglon Mycotocsinau a'r rheoliadau diogelwch bwyd sydd ar waith yn y Deyrnas Unedig mewn perthynas â nhw.

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mehefin 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mehefin 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae mycotocsinau yn grŵp o gemegau naturiol sy'n cael eu cynhyrchu gan rai mathau penodol o lwydni. Maen nhw'n gallu tyfu ar amrywiaeth o gnydau a bwyd, gan gynnwys grawnfwyd, cnau, sbeisys, ffrwythau wedi'u sychu, sudd afal a choffi, a hynny mewn amodau cynnes a llaith.

O safbwynt diogelwch bwyd, mae'r mycotocsinau sy'n peri'r pryder mwyaf yn cynnwys: 

  • afflatocsinau (B1, B2, G1, G2 a M1), 
  • ocratocsin A, 
  • patulin 
  • tocsinau sy'n cael eu cynhyrchu gan lwydni Fusarium, gan gynnwys ffumonisinau (B1, B2 a B3)
  • trichothecenes (yn bennaf nivalenol, deoxynivalenol, tocsin T-2 a HT-2) 
  • zearalenone
  • alcaloidau ergot, citrinin, sterigmatocystin a thocsinau altrnaria

Gall mycotocsinau effeithio ar iechyd pobl mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys achosi canser (mae rhai yn genowenwynig), niwed i'r arennau a'r iau, aflonyddwch gastroberfeddol, anhwylderau atgenhedlu neu atal y system imiwnedd. Afflatocsinau yw'r math mwyaf niweidiol o mycotocsin. Gallant achosi canser neu broblemau gyda threulio, atgenhedlu neu'r system imiwnedd.

Mae mycotocsinau yn digwydd yn naturiol, felly does dim modd osgoi eu presenoldeb mewn bwyd yn gyfan gwbl. Fodd bynnag, mae'n briodol rhoi mesurau rheoli ar waith i sicrhau bod lefel cysylltiad mycotocsinau â bwyd mor isel ag sy'n rhesymol bosibl. Mae'r mesurau rheoli hyn yn amrywio o sicrhau bod arferion da yn cael eu cynnal wrth dyfu, cynaeafu a storio bwyd, yn ogystal â sefydlu lefelau uchaf lle bo angen. 

Deddfwriaeth

Er mwyn diogelu defnyddwyr, mae rheolau a therfynau llym ar gyfer afflatocsinau, ochracsin A, patulin a thocsinau Fusarium mewn rhai bwydydd. Mae'r lefelau uchaf a ganiateir wedi'u nodi yn:

Mae mycotocsinau yn digwydd mewn mannau penodol oherwydd nad ydynt wedi'u dosbarthu'n gyfartal trwy'r bwyd. Er mwyn sicrhau bod y samplau profi yn gynrychioliadol o'r swp cyfan o fwyd mae darpariaethau ar gyfer samplu a dadansoddi o ran rheolaethau swyddogol lefelau uchaf ar gyfer mycotocsinau ar waith. Amlinellir hyn yn:

Mae'r darpariaethau ar gyfer samplu a dadansoddi yn berthnasol i gyrff gorfodi yn unig. Mae hyn yn cynnwys awdurdodau lleol, awdurdodau iechyd porthladdoedd a dadansoddwyr cyhoeddus. Fodd bynnag, mae'n bwysig  i weithredwyr busnesau bwyd fod yn ymwybodol o'r darpariaethau hyn wrth gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy.

Rydym ni wedi creu cyngor samplu ar hyn i awdurdodau gorfodi a gweithredwyr busnesau bwyd (Saesneg yn unig).

England, Northern Ireland and Wales

Os yw gweithredwr busnes bwyd yn dymuno dadansoddi samplau ar gyfer mycotocsinau yn y Deyrnas Unedig (DU), argymhellir defnyddio labordy achrededig ar gyfer dadansoddi mycotocsinau. Mae rhagor o wybodaeth am labordai achrededig ar gael ar wefan Gwasanaethau Achredu'r Deyrnas Unedig.

Amodau arbennig ar fewnforion 

Mae'r lefelau uchaf a ganiateir ar gyfer mycotocsinau yn berthnasol i'r bwydydd penodedig p'un a ydynt yn cael eu mewnforio neu eu cynhyrchu'n ddomestig. Caiff defnyddwyr eu diogelu gan amodau mewnforio arbennig ar gyfer rhai bwydydd o drydydd gwledydd penodol eraill lle mae'r risg o halogiad gan afflatocsinau yn uwch. Felly, bydd y bwydydd hyn yn destun gwiriadau ychwanegol a bydd yn rhaid iddynt fod â dogfennaeth benodol sy'n cadarnhau eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau. 

Mae hyn yn cynnwys tystysgrif dadansoddi a thystysgrif iechyd gan awdurdod cymwys y wlad tarddiad. 

Codau ymarfer –  Fusarium ac Ochratocsin A

Rydym ni wedi datblygu dau gôd ymarfer penodol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon er mwyn lleihau Fusarium a mycotocsinau ochratocsin A mewn grawnfwydydd. Fe gyhoeddon ni ganllaw i grynhoi'r codau ymarfer hyn ar gyfer ffermwyr grawnfwyd.

Mae'r codau ymarfer hyn yn y DU yn seiliedig ar set o egwyddorion cyffredinol er mwyn lleihau'r nifer o mycotocsinau a geir mewn grawnfwydydd.

Pwysig

Cyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn nogfennau canllaw'r Asiantaeth

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wrthi’n diweddaru’r holl gyfeiriadau at yr UE, er mwyn adlewyrchu'r gyfraith sydd bellach mewn grym yn gywir, ym mhob dogfen ganllaw newydd neu ddiwygiedig a gyhoeddir ar ôl i’r Cyfnod Pontio ddod i ben ddiwedd 2020. Mewn rhai amgylchiadau, efallai na fydd yn ymarferol i ni ddiweddaru’r holl gyfeiriadau at yr UE ar yr adeg yr ydym ni’n cyhoeddi canllawiau newydd neu ddiwygiedig.
 
Ac eithrio yng Ngogledd Iwerddon, dylid darllen unrhyw gyfeiriadau at Reoliadau'r UE yn y canllawiau hyn i olygu cyfraith yr UE a ddargedwir (retained EU law). Gallwch weld cyfraith yr UE a ddargedwir trwy Archif Ymadael â’r UE Llywodraeth EM. Dylid darllen y gyfraith hon ochr yn ochr ag unrhyw ddeddfwriaeth Ymadael â'r UE a wnaed i sicrhau bod cyfraith yr UE a ddargedwir yn gweithredu'n gywir yng nghyd-destun y DU. Mae deddfwriaeth Ymadael â’r UE i’w gweld ar legislation.gov.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd cyfraith yr UE yn parhau i fod yn berthnasol mewn perthynas â’r rhan fwyaf o gyfraith hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, fel a restrir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon, ac ni fydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn berthnasol i Ogledd Iwerddon o dan yr amgylchiadau hyn.