Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Canllawiau ar awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid

Canllawiau ar awdurdodi ychwanegyn bwyd anifeiliaid (feed additive) a'r hyn sydd angen i chi ei gyflwyno fel rhan o gais ar gyfer ychwanegyn bwyd anifeiliaid.

Mae'r dudalen hon yn rhan o'r Canllawiau ar wneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig

Mae ychwanegion bwyd anifeiliaid yn gynhyrchion sydd wedi'u hawdurdodi at ddibenion penodol mewn bwyd anifeiliaid, er enghraifft:

  • bodloni gofynion maethol yr anifeiliaid
  • gwella ansawdd bwyd anifeiliaid ac ansawdd bwyd sy’n dod o anifeiliaid (hynny yw cig, pysgod, llaeth, wyau)
  • gwella perfformiad ac iechyd yr anifeiliaid

Rhaid awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid cyn eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, a dim ond at y diben a nodir yn yr awdurdodiad y gellir eu defnyddio. Os bwriedir i ychwanegyn bwyd anifeiliaid gyflawni mwy nag un swyddogaeth, mae angen awdurdodiad ar wahân ar gyfer pob swyddogaeth. Yn gyffredinol maent wedi'u hawdurdodi am ddeng mlynedd.

Cofrestr Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid 

Mae'r Gofrestr Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid yn nodi rhestr o ychwanegion bwyd anifeiliaid y caniateir eu defnyddio ym Mhrydain Fawr ac yn cyfeirio at y ddeddfwriaeth ychwanegion bwyd anifeiliaid unigol. Nid yw'r gofrestr yn disodli Rheoliad (CE) a gymathwyd Rhif 1831/2003, sef y sylfaen gyfreithiol ar gyfer rhoi ychwanegion bwyd anifeiliaid unigol ar y farchnad a’r defnydd o ychwanegion bwyd anifeiliaid unigol.

Deddfwriaeth ychwanegion bwyd anifeiliaid

Mae Rheoliad (CE) a gymathwyd Rhif 1831/2003 a Rheoliad y Comisiwn (CE) a gymathwyd Rhif 429/2008 yn amlinellu’r weithdrefn awdurdodi ar gyfer y sylweddau hyn ac yn nodi: 

  • rheolau ar awdurdodiadau ychwanegion bwyd anifeiliaid
  • amodau defnyddio ar gyfer ychwanegion
  • darpariaethau ar labelu ychwanegion bwyd anifeiliaid a'u rhag-gymysgeddau y mae'n rhaid cadw atynt
  • gofynion manwl ar gyfer cyflwyno cais

Cyn gorffen awdurdodiad, rhaid i'r labordy cyfeirio werthuso’r dull dadansoddol a ddarperir gan yr ymgeisydd. Mae'r tasgau a roddir i'r labordy cyfeirio wedi'u nodi yn Rheoliad y Comisiwn (CE) a gymathwyd Rhif 378/2005 ac maent yn cynnwys cynnal samplau o ychwanegion bwyd anifeiliaid trwy gydol y cyfnod awdurdodi.

Proses ymgeisio

I wneud cais i awdurdodi ychwanegyn bwyd anifeiliaid ym Mhrydain Fawr:

  1. Defnyddiwch ein gwasanaeth gwneud cais i awdurdodi cynnyrch rheoleiddiedig. Dyma lle bydd gofyn i chi uwchlwytho'r holl ddogfennau i gefnogi'ch cais, gan ystyried y gofynion yn y gyfraith a gymathwyd ac fel sy'n briodol yn dilyn canllawiau Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA).
  2. Dylech hefyd lanlwytho dogfennaeth ar y dull dadansoddol ac unrhyw wybodaeth berthnasol sydd ei hangen ar gyfer y labordy cyfeirio i werthuso'r dull. Os yw'n berthnasol, cyflwynwch Lythyr Cydnabod Dim Ffi yr UE neu gyfeiriwch at unrhyw werthusiad a allai fod eisoes wedi'i gynnal gan labordy Cyfeirio'r UE ar yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid dan sylw. Gwnewch yn glir yn eich cais os ydych o'r farn bod Erthygl 5(4) o Reoliad y Comisiwn (CE) a gymathwyd Rhif 378/2005 yn berthnasol a bod yr amodau ar gyfer gosod yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar y farchnad yn dod o fewn cwmpas dull sydd wedi’i werthuso yn flaenorol.
  3. Ar ôl cael eich cais, byddwn ni’n cysylltu â chi i gytuno a nodi'r broses ar gyfer talu unrhyw ffioedd am yr asesiad dadansoddol fel y nodir yn y ddeddfwriaeth. Byddwn ni hefyd yn darparu manylion ar sut i anfon y tri sampl (a safonau) lle bo hynny'n berthnasol i'r Labordy Cyfeirio.

Canllawiau manwl ar wneud cais 

Yn flaenorol, mae EFSA wedi datblygu canllawiau technegol ar y gofynion ar gyfer coflenni (dossiers) cais. Mae'r canllawiau hyn yn gyffredinol yn parhau i fod yn berthnasol gan fod ein dull yn seiliedig ar brosesau'r UE. Dylech chi ddilyn y rhannau sy'n ymwneud â datblygu coflenni yn unig ac nid y broses ymgeisio:

Awdurdodiadau presennol

Os cafodd eich ychwanegyn bwyd anifeiliaid ei awdurdodi gan y Comisiwn Ewropeaidd (EC), a bod y Rheoliad wedi dod i rym cyn 1 Ionawr 2021 a bod y ddeddfwriaeth angenrheidiol yn berthnasol, bydd yr awdurdodiad hwnnw'n parhau'n ddilys ym Mhrydain Fawr.

Ail-awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid

Bydd angen parhau i gyflwyno ceisiadau i'r UE am ychwanegion bwyd anifeiliaid presennol o dan Erthygl 10 o Reoliad 1831/2003 ond nid oes dyddiadau cau ar unwaith ar gyfer gwneud hyn. Byddwn ni’n adolygu'r ychwanegion bwyd anifeiliaid hyn ac yn darparu gwybodaeth bellach am ofynion cyflwyno a therfynau amser maes o law.

Pob cais arall am ychwanegyn bwyd anifeiliaid 

Yn yr un modd, nid oes angen cyflwyno ceisiadau adnewyddu a gyflwynwyd yn flaenorol i’r UE cyn 1 Ionawr 2021 ac na chwblhawyd y broses asesu ar eu cyfer hyd nes y gofynnir amdanynt. Dylid cyflwyno ceisiadau ar ôl 1 Ionawr 2021 i ni gan ddefnyddio ein gwasanaeth gwneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • awdurdodiadau newydd (Erthygl 4 o Reoliad 1831/2003)
  • addasu awdurdodiad (Erthygl 13)
  • adnewyddu awdurdodiadau (Erthygl 14) - i'w gyflwyno o leiaf flwyddyn cyn dyddiad dod i ben yr awdurdodiad.

Wrth lenwi'r cais, gofynnir i chi ddarparu'ch rhif cwestiwn EFSA lle bo hynny’n berthnasol.

Awdurdodiadau brys

Gellir cyflymu’r broses o ran awdurdodiad brys ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid er mwyn sicrhau bod lles anifeiliaid yn cael ei ddiogelu. Gellir rhoi awdurdodiadau brys am uchafswm o bum mlynedd.

Faint o amser fydd fy nghais yn ei gymryd? 

Mae'r ddeddfwriaeth yn cynnwys dyddiadau ar gyfer camau allweddol yn y broses. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd ceisiadau'n cymryd o leiaf blwyddyn. 
 
Bydd ansawdd y goflen a'r wybodaeth a ddarperir yn effeithio'n sylweddol ar yr amser sydd ei angen ar gyfer asesu ac awdurdodi. Rydym ni’n annog ymgeiswyr i ddilyn y canllawiau a darparu cymaint o wybodaeth â phosibl i sicrhau y gallwn ni brosesu'ch cais mor effeithlon â phosibl. 

Cymorth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y weithdrefn awdurdodi neu'r gofynion gwneud cais, gallwch chi gysylltu â ni drwy regulatedproducts@food.gov.uk

Gwneud cais am awdurdodiad

Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein nawr i wneud cais am gynnyrch rheoleiddiedig.

Gogledd Iwerddon

Nodir cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) sy'n berthnasol i Ogledd Iwerddon ar ôl y cyfnod pontio yn Atodiad II Protocol Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn golygu, os ydych chi'n ceisio awdurdodiad newydd ar gyfer ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar farchnad Gogledd Iwerddon bydd yn rhaid i chi barhau i ddilyn rheolau'r UE.