Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Canllawiau ar awdurdodi ychwanegion bwyd

Gofynion o ran awdurdodi ychwanegion bwyd a’r hyn y mae angen i chi ei gyflwyno fel rhan o’ch cais.

Mae’r dudalen hon yn rhan o’r canllawiau ar wneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig.

Mae ychwanegion bwyd yn sylweddau sy'n cael eu hychwanegu at fwyd i gyflawni swyddogaeth dechnolegol benodol. Mae hyn yn cynnwys:

  • gwneud i fwyd edrych neu flasu'n well
  • ymestyn oes silff ac oes storio bwyd
  • cynnal cyfansoddiad maethol bwyd
  • helpu'r broses o gynhyrchu bwyd

Defnyddir ychwanegion, ymhlith pethau eraill, fel:

  • lliwiau
  • cyffeithyddion (preservatives)
  • gwrthocsidyddion
  • melysyddion
  • emwlsyddion
  • asiantau trin blawd

Gofynion deddfwriaethol

Mae angen awdurdodi ychwanegion bwyd cyn y gellir eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr. Mae'r gyfraith a gymathwyd (assimilated law) ar y weithdrefn awdurdodi gyffredin ar gyfer ychwanegion bwyd, ensymau bwyd a chyflasynnau bwyd yn amlinellu'r weithdrefn awdurdodi.

Dim ond mewn rhai bwydydd y caniateir i'r mwyafrif o ychwanegion gael eu defnyddio, a dim ond mewn meintiau penodol. Gallwch chi ddod o hyd i restr lawn o ychwanegion bwyd awdurdodedig a'r amodau defnyddio yn Rheoliad a gymathwyd (CE) 1333/2008. Mae'r rhestr o ychwanegion cymeradwy gyda'u rhifau E penodedig hefyd ar gael ar ein tudalen Ychwanegion ac E-rifau Cymeradwy. Dylech chi hefyd sicrhau bod unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n cael ei ddefnyddio yn cydymffurfio â gofynion y fanyleb.

Awdurdodiadau newydd

I wneud cais i awdurdodi ychwanegyn bwyd newydd neu i wneud cais am ddefnydd newydd o ychwanegyn bwyd sydd eisoes wedi'i awdurdodi ym Mhrydain Fawr, defnyddiwch ein gwasanaeth gwneud cais i awdurdodi cynnyrch rheoleiddiedig. Dyma lle gofynnir i chi uwchlwytho'r holl ddogfennau i gefnogi eich cais, a fydd yn ffurfio eich coflen. Ni chodir ffi am y cais.

Dylai eich cais i awdurdodi ychwanegyn bwyd gynnwys:

  • llythyr cysylltiedig yn rhoi amlinelliad o'r cais (yn nodi'r sylwedd, ei ddefnydd arfaethedig, a'r categorïau bwyd perthnasol y mae'r cais yn ymwneud â nhw)
  • coflen dechnegol
  • crynodeb o'r goflen
  • crynodeb cyhoeddus o'r goflen
  • gwybodaeth gyswlltyr ymgeisydd/ymgeiswyr ac arbenigwyr technegol

Os ydych chi am i rai rhannau o'r goflen gael eu trin yn gyfrinachol, mae angen i'ch cais gynnwys:

  • rhestr o'r rhannau yr hoffech iddynt gael eu trin yn gyfrinachol
  • cyfiawnhad dilysadwy ar gyfer pob rhan y gofynnir iddynt gael eu trin yn gyfrinachol
  • coflenni cyflawn heb rannau cyfrinachol

Mae gwybodaeth fanwl am yr holl ddata a gwybodaeth gyffredinol a phenodol sy'n ofynnol ar gyfer eich cais ar gael yn Rheoliad a gymathwyd (UE) 234/2011.

Canllawiau manwl

Yn flaenorol, datblygwyd canllawiau hefyd gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA). Mae'r canllawiau hyn yn parhau i fod yn berthnasol gan fod ein dull yn seiliedig ar brosesau'r UE. Dylech chi ddilyn y rhannau sy'n ymwneud â datblygu coflenni yn unig ac nid y broses ymgeisio:

Ceisiadau parhaus

Os gwnaethoch gyflwyno cais am ychwanegyn bwyd i'r UE cyn 1 Ionawr 2021 ac nad yw'r broses asesu ar gyfer y cais hwn wedi'i chwblhau, bydd angen i chi gyflwyno'ch cais i ni gan ddefnyddio ein gwasanaeth gwneud cais am gynhyrchion wedi’u rheoleiddio. Wrth lenwi'r ffurflen gais, gofynnir i chi ddarparu'ch rhif cwestiwn EFSA.

Faint o amser fydd fy nghais yn ei gymryd?

Mae'r gyfraith yn cynnwys dyddiadau ar gyfer camau allweddol yn y broses. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd ceisiadau'n cymryd o leiaf blwyddyn.

Bydd ansawdd y goflen a'r wybodaeth a ddarperir, yn effeithio'n sylweddol ar yr amser sydd ei angen ar gyfer asesu ac awdurdodi. Rydym ni’n annog ymgeiswyr i ddilyn y canllawiau a darparu cymaint o wybodaeth â phosibl i sicrhau y gallwn ni brosesu'ch cais mor effeithlon â phosibl. 

Ail-werthuso ychwanegion bwyd

Nid yw'r rhaglen ail-werthuso ar gyfer ychwanegion bwyd yn y gyfraith a gymathwyd. Fodd bynnag, byddwn ni’n monitro datblygiadau yn y dystiolaeth wyddonol sy'n cefnogi diogelwch ychwanegion bwyd. Lle bo angen, mae’n bosib y byddwn ni’n gofyn am wybodaeth ychwanegol gan bartïon â diddordeb fesul achos.

Awdurdodiadau presennol

Os yw eich ychwanegyn bwyd wedi'i awdurdodi gan y Comisiwn Ewropeaidd (CE) cyn 1 Ionawr 2021 a bod y ddeddfwriaeth angenrheidiol yn berthnasol, bydd yr awdurdodiad hwnnw'n parhau'n ddilys ym Mhrydain Fawr.

Cymorth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y weithdrefn awdurdodi neu'r gofynion gwneud cais, gallwch chi gysylltu â ni drwy regulatedproducts@food.gov.uk

Gwneud cais am awdurdodiad

Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein nawr i wneud cais am gynnyrch rheoleiddiedig.

Gogledd Iwerddon

Nodir cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) sy’n berthnasol i Ogledd Iwerddon ar ôl y cyfnod pontio yn Atodiad II i Brotocol Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn golygu, os ydych chi’n ceisio diweddaru’r rhestr o ddefnyddiau arfaethedig yng Ngogledd Iwerddon, bydd yn rhaid i chi barhau i ddilyn rheolau’r UE.