Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Anisakis

Beth yw anisakis a sut i’w ganfod mewn pysgod a chynhyrchion pysgodfeydd.

Beth yw anisakis?

Parasit a gludir gan fwyd yw anisakis, sy’n heintio pysgod asgellog (finfish), a molysgiaid seffalopod fel môr-lawes (sgwid). Gall bwyta bwyd môr sydd wedi’i halogi ag anisakis wneud pobl yn sâl, neu achosi adweithiau alergaidd mewn rhai pobl. Gall rhai o symptomau’r salwch gynnwys poen yn y bol a theimlo’n gyfoglyd.

Y gofynion ar gyfer pysgod a chynhyrchion pysgodfeydd

Rhaid i’ch busnes sicrhau bod rhywun wedi bwrw golwg dros gynhyrchion pysgodfeydd at ddiben canfod parasitiaid (archwiliad gweledol) cyn iddynt gael eu rhoi ar y farchnad. Rhaid peidio â rhoi cynhyrchion pysgodfeydd sy’n amlwg wedi’u halogi â pharasitiaid ar y farchnad i’w bwyta gan bobl.

Mae gofynion hylendid ar gyfer cynhyrchion pysgodfeydd wedi’u nodi yn:

    Dulliau ar gyfer canfod anisakis

    Gallwch gael hyd i reolau manwl mewn perthynas â chynnal archwiliadau gweledol yn:

    Fodd bynnag, mae yna ddulliau eraill ar gyfer canfod larfâu anisakis mewn pysgod a chynhyrchion pysgodfeydd:

    1. Dull treulio artiffisial
    2. Dull peiriant UV
    3. Dadansoddiad dilyniannu

    Gwnaeth Canolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaeth (Cefas), wrth weithredu’n gynt fel Labordy Ymchwil Cenedlaethol (NRL) Prydain Fawr ar gyfer Anisakis, gwblhau gweithdy hyfforddi. Mae’r adroddiad dilynol yn amlygu’r hyn sydd ei angen yn ymarferol i weithredu’r dull peiriant UV, ynghyd ag elfennau’r broses y mae angen eu cynnwys yn benodol mewn dogfennaeth sicrhau ansawdd.

    Mae mwy o wybodaeth am y fethodoleg ar gyfer cynnal profion anisakis ar gael gan Labordy Ymchwil yr UE ar gyfer Parasitiaid. Yr NRL ar gyfer parasitiaid yng Ngogledd Iwerddon yw’r Adran Amaethyddiaeth, Bwyd a’r Môr yng Ngweriniaeth Iwerddon.

    Pa mor gyffredin yw anisakis yn Ewrop

    Cynhaliodd Cefas adolygiad llenyddiaeth i benderfynu pa mor gyffredin yw anisakis mewn cynhyrchion pysgod a physgodfeydd yn Ewrop. Nododd yr adolygiad fod presenoldeb rhywogaethau Anisakis yn dibynnu ar lawer o ffactorau amrywiol, gan gynnwys amrywiadau tymhorol, yn ogystal â’r math o bysgod a maint y pysgod a samplwyd.

    Canllawiau pellach

    Mae canllawiau pellach ar gael i weithredwyr busnesau bwyd ar rewi pysgod a chynhyrchion pysgodfeydd.