Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Gofynion rhewi ar gyfer cynhyrchion pysgod a physgodfeydd

Sut i rewi cynhyrchion pysgod a physgodfeydd y bwriedir eu bwyta’n amrwd neu wedi’u coginio’n ysgafn mewn busnesau bwyd a bwytai.

Pam mae angen rhewi?

Mae parasitiaid pysgod fel larfâu Anisakis (llyngyr parasitig) yn broblem mewn rhai rhywogaethau o bysgod gwyllt, gan gynnwys: 

  • eog
  • penwaig
  • penfras
  • rhywogaethau eraill o bysgod gan gynnwys maelgi (monkfish)

Rhaid gwirio’r holl gynhyrchion pysgod a physgodfeydd a chael gwared ar unrhyw rai sydd â pharasitiaid gweladwy cyn y gellir gwerthu’r cynnyrch pysgodfeydd. Yn ogystal â bod yn hyll, os cânt eu bwyta’n fyw, gall larfâu Anisakis achosi salwch mewn pobl neu adweithiau alergaidd i rai. Gall salwch gynnwys poen yn y stumog a theimlo’n gyfoglyd. 

Bydd coginio’n lladd y parasitiaid. Mae rhewi’n ffordd arall o ladd unrhyw barasitiaid:

  • nad ydynt wedi’u canfod mewn pysgod a chynhyrchion pysgodfeydd
  • na chânt eu coginio cyn bwyta’r pysgod a’r cynhyrchion pysgodfeydd

Mae ein hymchwil yn dangos bod risg isel o barasitiaid mewn eogiaid a gaiff eu ffermio.

Adolygodd Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop y dystiolaeth ar bresenoldeb parasitiaid mewn pysgod gwyllt a physgod a gaiff eu ffermio yn ei Safbwynt yn 2010. Mae’r Safbwynt hwn yn amlinellu triniaethau amser a thymheredd penodol sy’n ofynnol i ladd y parasitiaid.

Gofynion rhewi pysgod

Mae gofynion rhewi yn berthnasol i bob busnes bwyd sy’n rhoi cynhyrchion pysgod a physgodfeydd ar y farchnad fel bwytai, cyflenwyr pysgod a phrynwyr pysgod. Mae hyn i ddiogelu defnyddwyr rhag unrhyw effeithiau niweidiol y gall parasitiaid sy’n bresennol yn naturiol mewn pysgod eu hachosi. 

O dan ddeddfwriaeth hylendid bwyd, mae angen rhewi rhai cynhyrchion pysgodfeydd y bwriedir eu bwyta’n amrwd cyn eu defnyddio. 

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • swshi
  • sashimi
  • pysgod mwg oer lle nad yw’r broses fygu’n cyrraedd tymheredd craidd o 60°C am o leiaf funud

Hefyd, dylid rhewi unrhyw gynhyrchion a gaiff eu trin lle nad yw’r driniaeth brosesu’n lladd y parasitiaid cyn eu bwyta. Gallai’r rhain gynnwys:

  • gravlax
  • carpaccio
  • rhai cynhyrchion penwaig (herring) wedi’u piclo
  • rhai cynhyrchion pysgod wedi’u marinadu
  • cynhyrchion pysgodfeydd wedi’u halltu

Ar gyfer parasitiaid heblaw trematodau, mae’n rhai i’r driniaeth rewi gynnwys gostwng y tymheredd ym mhob rhan o’r cynnyrch i o leiaf naill ai:

  • –20°C am ddim llai na 24 awr
  • –35°C am ddim llai na 15 awr

Mae rhai eithriadau i’r gofynion rhewi yn berthnasol i bysgod a gaiff eu magu o dan rai amodau penodol gyda risg isel o gael eu heintio â pharasitiaid.

Eithriadau i’r gofynion rhewi a ganiateir

Nid oes angen i fusnesau bwyd ddefnyddio triniaeth rewi â chynhyrchion pysgodfeydd os ydynt yn bodloni’r amodau ar gyfer eithrio.

Amodau ar gyfer eithrio

 

Os caiff cynhyrchion pysgod a physgodfeydd eu trin â gwres ar dymheredd a fydd yn lladd parasitiaid cyn eu bwyta. Y tymheredd hwn yw 60°C am o leiaf funud ar gyfer y rhan fwyaf o barasitiaid, er y gall fod angen triniaeth wres lymach i ladd trematodau.

Rydym wedi awdurdodi eithriad rhewi ar gyfer pysgod a gaiff eu dal yn wyllt. Mae hyn yn gofyn am dystiolaeth o ddata epidemiolegol sy’n dangos nad yw tarddle’r pysgota’n peryglu iechyd o ran parasitiaid. Mae hyn yn berthnasol pan fo pysgod a ffermir wedi’u datblygu o embryonau sy’n cael eu bwydo ar ddeiet na all gynnwys parasitiaid hyfyw.

Ar gyfer pysgod a ffermir, mae’n rhaid bodloni un o’r amodau canlynol hefyd:

  • dim ond mewn amgylchedd sy’n rhydd o barasitiaid y mae embryonau wedi’u magu
  • gall y busnes bwyd wirio nad yw’r cynhyrchion pysgodfeydd yn cyflwyno unrhyw beryglon iechyd mewn perthynas â pharasitiaid

Gofynion o ran dogfennaeth

Wrth werthu, mae’n rhaid i chi ddarparu gwybodaeth am y math o broses rewi y mae’r cynnyrch pysgod neu’r pysgodfeydd wedi bod yn destun iddi. Mae’n rhaid i’r busnes sy’n cyflawni’r driniaeth fod wedi darparu’r wybodaeth hon. 

Gellir rhoi’r broses rewi ar waith ar y pwynt mwyaf priodol yn y gadwyn fwyd. Er enghraifft, unwaith y mae’n hysbys a yw’r pysgod ffres i’w bwyta’n amrwd neu a fyddant yn cael eu coginio. Gall cytundebau masnachol rhwng cyflenwyr a chwsmeriaid nodi pwy sy’n cymryd cyfrifoldeb am y rhwymedigaeth rhewi.

Os caiff cynhyrchion sydd i’w bwyta’n amrwd eu gwerthu heb driniaeth rewi, mae’n rhaid iddynt ddeillio o diroedd pysgota neu ffermydd pysgod sy’n bodloni’r amodau eithrio. 

Rhaid i unrhyw ddatganiadau eithrio (gan gynnwys unrhyw weithdrefnau sydd wedi’u cymeradwyo) gyd-fynd â phob swp o bysgod sydd wedi’u ffermio i’w gwerthu, naill ai’n ffisegol neu’n electronig.

Nid oes angen unrhyw ddogfennau yn ymwneud â’r eithriad neu’r driniaeth rewi ar gyfer cynhyrchion sy’n cael eu gwerthu i’r defnyddiwr terfynol.

Eithriadau rhewi awdurdodedig yn y Deyrnas Unedig

Pysgod gwyllt

Nid oes unrhyw eithriadau awdurdodedig cyfredol ar gyfer pysgod gwyllt yn y DU. Mae parasitiaid fel Anisakis yn effeithio ar rai rhywogaethau pysgod yn nyfroedd y DU fel:

  • penfras
  • macrell
  • penwaig
  • maelgi

Pysgod wedi’u ffermio

Mae yna eithriad rhewi cyffredinol ar gyfer:

  • lleden Ffrengig yr Iwerydd
  • eog yr Iwerydd
  • brithyll seithliw

Mae’r rhywogaethau hyn yn cael eu magu gan ddefnyddio dulliau ffermio sydd â risg isel o gael eu heintio â pharasitiaid.

Gellir hefyd gydsynio i eithrio pysgod sy’n cael eu magu gan ddefnyddio’r un dull cynhyrchu ag eog. Mae’r broses hon yn defnyddio pyllau môr wedi’u codi a chaiff pysgod eu bwydo ar ddeiet artiffisial sy’n cael ei reoli na ellir ei heintio â pharasitiaid larfaidd. Gall prosesau cynhyrchu cyfatebol ar gyfer systemau dŵr croyw hefyd fod yn gymwys i gael eu heithrio.

Mae’r rhain yn systemau ar y tir sy’n defnyddio tanciau neu byllau ar y lan, nid yn y môr. Gallant gynnig amodau magu amgen a fyddai’n bodloni’r amodau eithrio rhag rhewi gan y byddent yn rhydd rhag parasitiaid.

Rydym yn ystyried unrhyw eithriadau rhewi yn y dyfodol ar gyfer pysgod wedi’u ffermio gan ddefnyddio unrhyw ddulliau cynhyrchu eraill fesul achos.

Prynu

Gallwch ofyn am fanylion y triniaethau a ddefnyddiwyd gan y cyflenwr wrth brynu pysgod neu gynnyrch pysgodfeydd a fyddai’n gofyn am driniaeth rewi.

Dylai’r gwerthwr allu cadarnhau’r manylion cyn i chi brynu. 

Os na chafodd triniaeth rewi ei defnyddio, gallwch wneud hynny eich hun. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hyn sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith yn y rhwymedigaethau rheoli diogelwch bwyd ar gyfer busnesau bwyd o dan Reoliad (CE) a gymathwyd 852/2004.

Mae gofynion mwy penodol yn Atodiad III, Adran VIII, Pennod V, paragraff D o Reoliad (CE) a gymathwyd 853/2004 (fel y’i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (UE) a gymathwyd Rhif 1276/2011). 

Os nad oes unrhyw ddogfennau i ddangos yr wybodaeth hon, gallwch dybio nad oes unrhyw driniaeth wedi’i defnyddio.

Gwerthu

Wrth werthu eich cynnyrch i fusnes bwyd arall, mae angen i chi roi gwybod i’r prynwr am y triniaethau rhewi rydych chi wedi’u defnyddio. Heb hyn, ni fydd y prynwr yn gwybod a oes angen iddo wneud cais am driniaeth rewi ei hun.

Mewnforio o wledydd nad ydynt yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd 

Os nad ydych chi’n defnyddio triniaeth rewi i gynnyrch pysgod neu bysgodfeydd sydd wedi’i fewnforio, mae angen i chi wirio bod yr amodau tarddiad yn bodloni’r eithriadau trin priodol.

Gall y cynnyrch pysgodfeydd ddod â dogfennau dilys o’r wlad allforio.

Cysylltwch â ni

Os ydych chi am drafod unrhyw faterion yn y canllaw hwn, e-bostiwch y cyswllt perthnasol isod.

Cymru: food.policy.wales@food.gov.uk

Gogledd Iwerddon: infofsani@food.gov.uk

Lloegr: LAHygieneEnquiries@food.gov.uk