Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Broceriaid ac asiantau bwyd

Mae’r wybodaeth hon yn helpu broceriaid i ddeall eu rhwymedigaethau o dan gyfraith bwyd gan gynnwys yr angen i gofrestru fel busnes bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Rhagfyr 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Rhagfyr 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

Beth mae brocer bwyd yn ei wneud

Mae brocer bwyd yn fusnes sy’n prynu bwyd, yn cymryd perchnogaeth o fwyd neu’n meddu ar berchnogaeth gyfreithiol am fwyd i’w ailwerthu i fusnesau eraill fel:

  • gweithgynhyrchwyr
  • manwerthwyr
  • arlwywyr 
  • broceriaid eraill

Yn aml, y gwahaniaeth rhwng broceriaid bwyd a gweithredwyr busnesau bwyd eraill yw eu bod yn cymryd perchnogaeth gyfreithiol am y bwyd yn hytrach na meddiant corfforol.

Rydych chi’n dal i gael eich dosbarthu fel gweithredwr busnes bwyd. Mae hyn oherwydd eich bod chi’n ymwneud yn uniongyrchol â rheoli gweithgareddau sy’n gysylltiedig â bwyd, fel cyflenwi bwyd i fusnesau eraill, hyd yn oed os na fyddwch chi byth yn meddu’n bersonol ar y bwyd. Mae hyn yn cynnwys bwydydd a fydd yn mynd ymlaen i gael eu prosesu ymhellach gan weithgynhyrchwyr eraill. Mae broceriaid bwyd yn aml yn gweithredu fel endid canol yn y gadwyn cyflenwi bwyd.

Sut mae’n wahanol i asiant

Mae asiant bwyd yn gweithredu fel cynrychiolydd gweithredwr busnes bwyd heb unrhyw awdurdod i fasnachu yn ei enw ei hun, ac nid yw’n cymryd meddiant o’r bwyd, nac yn gofalu amdano, yn gyfreithiol nac yn ffisegol ar unrhyw adeg, nac yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ar weithgareddau sy’n gysylltiedig â bwyd na’u rheoli. Mae’r asiant yn gweithredu fel cyfryngwyr, gan hwyluso trafodion neu drafodaethau yn aml.

Dyma enghraifft ddangosol o’r gwahaniaeth rhwng brocer bwyd ac asiant bwyd:

Brocer bwyd: Brocer bwyd yw Xtra Supplies Cyf sy’n cael gafael ar fwyd gan weithgynhyrchwyr ac sydd wedyn yn ei gyflenwi i gadwyn genedlaethol o gyfanwerthwyr. Mae’r brocer bwyd yn gweithio o swyddfa yn unig a chaiff y bwyd ei gludo’n uniongyrchol i’r cyfanwerthwr o weithgynhyrchwyr bwyd gan ddefnyddio dulliau storio a rhwydwaith dosbarthu’r cyfanwerthwr. Gan fod Xtra Supplies Cyf yn cymryd perchnogaeth gyfreithiol o’r bwyd, mae’n weithredwr busnes bwyd, er na fydd efallai byth yn meddu’n bersonol ar y bwyd.

Asiant bwyd: Ar y llaw arall, os bydd Xtra Supplies Cyf ond yn gweithredu ar ffurf asiant i’r cyfanwerthwr, er enghraifft i hwyluso trafodaethau rhwng y gweithredwyr busnes bwyd, a bod yr holl drafodion yn cael eu cynnal yn enw’r cyfanwerthwr, gan olygu nad yw Xtra Supplies Cyf byth yn cymryd perchnogaeth o’r bwyd ei hun, asiant yw ac nid gweithredwr busnes bwyd.

Crynodeb o’r gwahaniaethau

Nodwedd Asiant bwyd Gweithredwr busnes bwyd
Perchnogaeth gyfreithiol o’r bwyd ❌ Na ✅ Ie
Meddiant ffisegol ❌ Na ✅ Weithiau (nid bob amser)
Cyfrifoldeb cyfreithiol ❌ Na (ar ran y gweithredwr busnes bwyd) ✅ Cyfrifoldeb llawn
Angen cofrestru ❌ Dim angen ✅ Rhaid cofrestru gyda’r awdurdod lleol
Yn destun arolygiadau ❌ Na ✅ Ie

Cofrestru fel busnes bwyd

Os ydych chi’n gwerthu bwyd ar-lein, mae’n ofyniad cyfreithiol i gofrestru’ch busnes gyda’ch awdurdod lleol 28 diwrnod cyn eich bod chi’n bwriadu masnachu.

Os ydych chi’n masnachu yn barod ac heb gofrestru, mae gofyn i chi gofrestru cyn gynted â phosib. Gallwch chi gofrestru’ch busnes yn rhad ac am ddim.

Cofrestru a rheoli 

Cyngor ar arfer da

Defnyddiwch gyflenwyr sydd ag enw da yn unig. Ar gyfer cyflenwyr newydd, gallech chi ymweld â'u cyfleusterau i sicrhau eu bod yn lân a bod eu cynhyrchion yn cael eu cynhyrchu i safon uchel.

Ystyriwch weithredu system reoli sy’n cael ei chydnabod gan y diwydiant, fel:

Ystyriwch ddod yn aelod o Gymdeithas Fasnach. Mae cymdeithasau masnach yn helpu eu haelodau drwy gynnig cyngor arbenigol, yn enwedig o natur dechnegol a chyfreithiol.

Darllenwch am egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP).

Gofynnwch i'ch awdurdod lleol am help ac ystyried y Cynllun Prif Awdurdod.