Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Canllawiau anifeiliaid hela gwyllt

Rheoliadau hylendid ar gyfer cyflenwi anifeiliaid hela i'w bwyta gan bobl.

Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Gorffennaf 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Gorffennaf 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau

Dogfen ganllaw anifeiliaid hela gwyllt

Mae'r canllawiau anifeiliaid hela gwyllt yn berthnasol i’r canlynol:  

  • Cynhyrchwyr cynradd (er enghraifft, helwyr, aelodau o bartïon hela, ystadau saethu)
  • Gweithredwyr busnesau bwyd
  • Swyddogion Gorfodi:  Awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, Cynghorau Dosbarth yng Ngogledd 

Ceir gwybodaeth ychwanegol am wahanol sefyllfaoedd cyflenwi yn y canllawiau.

Pwysig

Cyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn nogfennau canllaw’r ASB

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wrthi’n diweddaru’r holl gyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd (UE), er mwyn adlewyrchu'n gywir y gyfraith sydd bellach mewn grym, ym mhob dogfen ganllaw newydd neu ddiwygiedig a gyhoeddir ar ôl i’r Cyfnod Pontio ddod i ben ddiwedd 2020. O dan rai amgylchiadau efallai na fydd bob amser yn ymarferol i ni ddiweddaru’r holl gyfeiriadau at yr UE ar yr adeg yr ydym ni’n cyhoeddi canllawiau newydd neu ddiwygiedig. 

Ac eithrio yng Ngogledd Iwerddon, dylid darllen unrhyw gyfeiriadau at Reoliadau'r UE yn y canllawiau hyn i olygu cyfraith yr UE a ddargedwir (retained EU law). Gallwch gyrchu cyfraith yr UE a ddargedwir trwy Archif Ar-lein Ymadael â’r UE Llywodraeth EM. Dylid darllen y gyfraith hon ochr yn ochr ag unrhyw ddeddfwriaeth Ymadael â'r UE a wnaed i sicrhau bod cyfraith yr UE a ddargedwir yn gweithredu'n gywir yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig (DU). Ceir deddfwriaeth Ymadael â’r UE ar legislation.gov.uk.  Yng Ngogledd Iwerddon, bydd cyfraith yr UE yn parhau i fod yn berthnasol mewn perthynas â’r rhan fwyaf o gyfraith hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, fel y rhestrir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon, ac ni fydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn berthnasol i Ogledd Iwerddon yn yr amgylchiadau hyn.

 

Gallwch ddarllen y ddogfen ganllawi anifeiliaid hela gwyllt yma.


Gofynion cyfreithiol

Rheolau hylendid penodol sy’n gymwys i fusnesau sy’n cynhyrchu bwyd sy’n dod o anifeiliaid, a nodir yn:

Rheolau cyffredinol mewn cysylltiad â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid na fwriedir eu bwyta gan bobl, a nodir yn:

Gofynion cyffredinol ar gyfer hylendid bwydydd sy’n gymwys i bob busnes bwyd, gan gynnwys cynhyrchwyr cynradd, a nodir yn:

Rheolau ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion a gweithredoedd cysylltiedig, a nodir yn:

Egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd a gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd, gan gynnwys olrhain bwyd a bwyd anifeiliaid, a nodir yn:

Anifeiliaid hela gwyllt

Yn y ddeddfwriaeth, diffinnir anifeiliaid hela gwyllt fel:

  • carnolion a lagomorffau gwyllt, yn ogystal â mamaliaid tir eraill sy’n cael eu hela i’w bwyta gan bobl ac a ystyrir yn anifeiliaid hela gwyllt o dan y gyfraith berthnasol

Carnolion gwyllt

Mae carnolion gwyllt yn famaliaid tir a gaiff eu hela i'w bwyta gan bobl.

Gall y rhain gynnwys:

  • carnolion fel ceirw gwyllt
  • baeddod gwyllt
  • rhai poblogaethau defaid a geifr gwyllt

Lagomorffiaid

Mae lagomorffiaid gwyllt yn famaliaid tir a gaiff eu hela i’w bwyta gan bobl.

  • cwningod
  • sgwarnogod
  • cnofilod (er enghraifft, gwiwerod)

Adar gwyllt

Adar gwyllt yw’r rheiny a gaiff eu hela i’w bwyta gan bobl. Enghraifft o hyn yw ffesant sydd wedi’i ddeor/magu mewn amgylchiadau wedi’u rheoli cyn ei ryddhau i’r gwyllt i’w hela.

Canllawiau anifeiliaid hela gwyllt (ffotograffau)

Mae'r canllawiau anifeiliaid hela gwyllt (ffotograffau) yn rhoi enghreifftiau o arfer da a gwael. Mae’r wybodaeth yn y ddogfen yn cwmpasu’r canlynol:

  • croeshalogi
  • dulliau cludo da a gwael
  • dulliau storio gwael
  • storio helgig mewn oergell
  • bwtrïoedd helgig
  • datganiadau unigolion cymwys
  • anifeiliaid hela gwyllt yn eu plu, wedi'u pluo a pharod i'w coginio

England, Northern Ireland and Wales

Datganiad unigolyn cymwys

Mae’n rhaid i unrhyw garcasau a gymerir i/a godir gan Sefydliad Trin Helgig Cymeradwy (AGHE) gael archwiliad cychwynnol gan unigolyn cymwys.

Mae’n rhaid atodi datganiad at y carcasau, ni waeth pwy a saethodd y carw.

Mae’n rhaid i’r datganiad hwn gynnwys gwybodaeth am canlynol:

  • rhywogaeth
  • rhyw
  • dyddiad
  • pryd a lle y’i saethwyd
  • rhif adnabod

Hefyd, mae’n rhaid cynnwys datganiad er mwyn disgrifio unrhyw nodweddion a ganfuwyd, a gall y datganiad hefyd gynnwys:

  • unrhyw ymddygiad anarferol
  • nodweddion y carcas
  • halogiad amgylcheddol

Mae’n rhaid i unigolyn cymwys lofnodi’r datganiad hwn.