Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Canllawiau ar gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM)

Canllawiau ar gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM): Diffiniad

Diffinio cig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM).

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Gorffennaf 2025

Diffino cig wedi’i wahanu’n fecanyddol

Rhoddir y diffiniad o MSM ym Mhwynt 1.14 o Atodiad I i’r Rheoliadau: Mae ‘cig wedi’i wahanu’n fecanyddol’ neu ‘MSM’ yn golygu’r cynnyrch a geir trwy dynnu cig oddi ar esgyrn sy’n dwyn cnawd ar ôl tynnu’r esgyrn, neu o garcasau dofednod, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol sy’n arwain at golli neu addasu strwythur ffeibr y cyhyrau.

Mae’r Llysoedd wedi ystyried a dehongli’r diffiniad o MSM. Rhaid cymhwyso’r dehongliad hwnnw wrth benderfynu a yw MSM wedi cael ei gynhyrchu/yn cael ei gynhyrchu/yn mynd i gael ei gynhyrchu. 

Mae Adran V o Atodiad III i’r Rheoliadau yn nodi gofynion penodol y mae’n rhaid eu bodloni o ran cynhyrchu briwgig, paratoadau cig ac MSM. Mae gofynion ynghylch sefydliadau cynhyrchu, deunyddiau crai, hylendid (yn ystod ac ar ôl cynhyrchu), a labelu. 

Ar gyfer cynnyrch y pennir mai MSM ydyw yn unol â dehongliad y Llysoedd, rhaid bodloni gofynion Adran V o Atodiad III er mwyn iddo gael ei roi ar y farchnad yn gyfreithlon. 

Dylai gweithredwyr busnesau bwyd ystyried unrhyw ofynion deddfwriaethol ychwanegol (er enghraifft, gofynion labelu) yn ôl yr angen.

Dyfarniadau llys ar MSM (‘y Dyfarniadau’)

Mae’r Llysoedd wedi cyhoeddi’r dyfarniadau canlynol sy’n berthnasol i ddehongli’r diffiniad o MSM a nodir yn Atodiad I, Pwynt 1.14 i’r Rheoliadau:

Dim ond y Llysoedd all roi datganiadau awdurdodol o ofynion cyfraith bwyd. Gan fod y Dyfarniadau wedi ystyried cynhyrchu MSM o dan y Rheoliadau, nid yw eu perthnasedd wedi’i gyfyngu i broses benodol a ddefnyddir nac i unrhyw fath neu frand penodol o offer sydd â swyddogaeth gwahanu mecanyddol.

Dehongli’r diffiniad o MSM gan y Llysoedd

Mae’r Llysoedd wedi dehongli bod y diffiniad o MSM yn seiliedig ar dri maen prawf cronnus, y mae’n rhaid eu darllen ar y cyd â’i gilydd, wrth benderfynu ai MSM yw cynnyrch. Caiff cynnyrch sy’n bodloni’r tri maen prawf isod ei ddosbarthu fel MSM:

  1. y defnydd o esgyrn y mae’r cyhyrau cyfan eisoes wedi’u gwahanu oddi wrthynt, neu garcasau dofednod y mae cig yn parhau i fod ynghlwm wrthynt;
  2. y defnydd o ddulliau gwahanu mecanyddol i adfer y cig hwnnw;
  3. colli neu addasu strwythur ffeibr cyhyrau’r cig sydd wedi’i adfer trwy ddefnyddio’r prosesau hynny.  

Y defnydd o esgyrn y mae’r cyhyrau cyfan eisoes wedi’u gwahanu oddi wrthynt, neu garcasau dofednod y mae cig yn parhau i fod ynghlwm wrthynt

Mae’r maen prawf cyntaf yn cyfeirio at dynnu’r cig sydd ar ôl ar esgyrn anifeiliaid ar ôl i’r cam cychwynnol o gigydda ddigwydd ac y mae’r cyhyrau cyfan eisoes wedi’u gwahanu oddi wrtho. Ystyr cam cychwynnol cigydda yw unrhyw beth ar ôl y toriad cyntaf, y weithred gyntaf o dynnu neu wahanu esgyrn neu ddarnau o gig oddi wrth garcasau.

Ar gyfer cig heblaw dofednod, bydd unrhyw asgwrn a dynnir o’r carcasau neu ddarnau o gig gydag esgyrn sy’n mynd trwy broses gwahanu fecanyddol, ar ôl cam cychwynnol y cigydda/torri, yn arwain at gynhyrchu MSM, os yw hefyd yn arwain at golli neu addasu strwythur ffeibr y cyhyrau.

O ran dofednod, mae elfen gyntaf y diffiniad o MSM yn nodi “carcasau dofednod”. Mae hyn yn golygu carcasau dofednod y mae cig yn parhau i fod ynghlwm wrthynt. Bydd tynnu cig o gorff cyfan yr aderyn a defnyddio unrhyw esgyrn neu ddarnau o gig gydag esgyrn fel deunyddiau crai yn arwain at gynhyrchu MSM, os bydd hefyd yn arwain at golli neu addasu strwythur ffeibr y cyhyrau.

Nid oes unrhyw wahaniaeth yn y cynnyrch terfynol ni waeth ai carcas dofednod cyfan, hanner carcas dofednod, neu darnau dofednod ag asgwrn, sy’n mynd trwy’r broses wahanu fecanyddol berthnasol.

Defnyddio dulliau gwahanu mecanyddol i adfer y cig hwnnw

Mae’r dulliau gwahanu mecanyddol i adfer cig o’r deunyddiau crai y cyfeirir atynt yn y maen prawf cyntaf fel arfer yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, orfodi’r deunyddiau crai o dan bwysau trwy ridyll neu ddyfais debyg i wahanu’r asgwrn o feinwe’r cig.

Mae’r gofynion a nodir yn y Rheoliadau yn gwahaniaethu rhwng dau isdeip o gig MSM gan ddibynnu ar y technegau cynhyrchu a ddefnyddir. Mae gan bob isdeip ofynion cyfreithiol penodol ynghylch sut y mae’n rhaid ei gynhyrchu a’i ddefnyddio. Nodir y rhain yn y drefn berthnasol ym mharagraffau 3 a 4, Pennod III, Adran V, Atodiad III i’r Rheoliadau.

Colli neu addasu strwythur ffeibr y cyhyrau

Nid yw’r diffiniad o MSM yn y Rheoliadau yn ystyried faint o golled neu addasiad sydd i strwythur ffeibr y cyhyrau; yn hytrach, mae’n ystyried a oes colled neu addasiad o gwbl. 

Bydd unrhyw golled neu addasiad i strwythur ffeibr y cyhyrau yn arwain at MSM, waeth beth fo’r graddau, i’r graddau y mae’r golled neu’r addasiad hwnnw, oherwydd y broses a ddefnyddir, yn fwy na’r hyn sydd wedi’i gyfyngu’n llym i’r pwynt torri.

Mae’r pwynt torri hwn yn golygu’r cam cychwynnol pan fydd cyhyrau cyfan yn cael eu datgysylltu oddi wrth garcas anifail neu’r weithred gychwynnol o dynnu neu wahanu esgyrn/darnau o gig oddi wrth garcasau.

Mae gwahanu cig oddi wrth esgyrn yn fecanyddol yn cynhyrchu gwahanu, llafnu neu dorri, sy’n addasu neu’n colli strwythur ffeibr y cyhyrau mewn mannau y tu hwnt i’r pwynt torri cychwynnol a ddefnyddir i ddatgysylltu cyhyrau cyfan neu dynnu cig o’r carcas. Mae’r broses hon yn arwain at MSM, os bodlonir y meini prawf cyntaf hefyd.

Ar gyfer cig dofednod, hyd yn oed os yw carcas cyfan, y mae cig yn parhau i fod ynghlwm wrtho, yn cael ei wahanu’n fecanyddol, bydd y llafnu neu’r torri sy’n gysylltiedig â’r broses yn arwain at golli neu addasu strwythur ffeibr y cyhyrau ac, felly, bydd yn arwain at MSM.

Nid MSM fydd cig a dynnir o garcas os caiff ei dynnu trwy ddulliau mecanyddol yn ystod cam cyntaf torri cig o’r carcas cyfan, ond fel arfer, bydd yn MSM os caiff ei dynnu trwy ddulliau mecanyddol wedi hynny. Felly, wrth ddefnyddio prosesau mecanyddol, mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng MSM a’r cynnyrch a geir trwy dorri cyhyrau cyfan. Nid yw’r olaf yn dangos colled neu addasiad mwy cyffredinol o strwythur ffeibr y cyhyrau, ond mae’n datgelu colled neu addasiad o strwythur ffeibr y cyhyrau sydd wedi’i gyfyngu’n llym i’r pwynt torri. O ganlyniad, er enghraifft, nid yw cyhyrau sy’n cael eu datgysylltu o’r carcas trwy dorri’n fecanyddol yn gyfystyr ag MSM.

Y deunyddiau crai a’r prosesau a ddefnyddir fydd yn pennu a yw strwythur ffeibr y cyhyrau wedi’i golli neu ei addasu. Mae’n hawdd gwybod a yw carcas neu ran o garcas wedi mynd trwy’r broses gychwynnol o dynnu cig o garcas, ac felly nid oes angen cymhwyso prosesau ymchwilio microsgopig manwl.