Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Canllawiau arddangos ar-lein ar gyfer y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Mae’r canllawiau hyn yn nodi sut i arddangos eich sgôr hylendid bwyd ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn rhoi gwybodaeth gywir i’ch cwsmeriaid, gan eu galluogi i deimlo’n hyderus wrth archebu bwyd.

Egwyddorion arweiniol

Mae bwyd yn cael ei werthu ar-lein trwy lawer o wahanol ddulliau ac ar draws gwahanol lwyfannau. Mae hyn yn golygu na fyddai defnyddio’r un dull a’r un maint ar gyfer arddangos sgoriau’n addas ar gyfer pob busnes.

Wrth benderfynu sut i arddangos eich sgôr hylendid bwyd ar-lein, sicrhewch fod ei lleoliad yn bodloni’r holl egwyddorion arweiniol. Mae hyn yn golygu y dylai eich sgôr:

  • ymddangos mewn man amlwg ar eich gwefan fel ei bod yn hawdd i gwsmeriaid ei gweld
  • bod yn ddigon mawr fel ei bod yn hawdd i’ch cwsmeriaid ei darllen. Dylech osgoi lleihau maint neu gydraniad y ddelwedd i’r fath raddau fel bod y sgôr yn mynd yn anodd ei darllen neu’n cael ei bicseleiddio
  • ymddangos cyn y pwynt lle bydd eich cwsmer yn dewis neu’n archebu bwyd. Dylech ystyried y gwahanol ddulliau y gallai cwsmeriaid eu defnyddio i fynd ar eich gwefan a sicrhau bod y sgôr yn ymddangos yn amlwg, hyd yn oed os na fyddant yn cyrraedd hafan eich gwefan

Fel canllaw cyffredinol, os gall y defnyddiwr ddewis bwyd neu osod archeb heb i’r sgôr hylendid bwyd fod yn ei faes golwg, ni ellir dweud bod y sgôr hylendid bwyd honno wedi’i lleoli mewn man ‘hawdd i’w gweld’.

Arddangos ar y wefan 

Mae llawer o fusnesau bwyd yn cymryd archebion yn uniongyrchol trwy eu gwefannau. Gallwch arddangos eich sgôr ym mhennyn eich gwefan, ar y fwydlen, neu mewn unrhyw fan cyn i gwsmer ddewis neu archebu bwyd. Rhaid i leoliad eich sgôr ar-lein fodloni’r egwyddorion arweiniol, sef:

  • A all eich cwsmeriaid weld sgôr eich busnes yn hawdd?
  • A all eich cwsmeriaid ddarllen sgôr eich busnes yn hawdd? 
  • A yw eich sgôr yn weladwy cyn y pwynt pan all cwsmeriaid ddewis neu archebu bwyd, p’un bynnag sy’n dod gyntaf ar lwybr y defnyddiwr?

Lawrlwytho eich sgôr 

Mae ystod o ddelweddau sy’n dangos sgoriau hylendid bwyd wedi eu dylunio mewn gwahanol feintiau a fformatau fel y gallwch eu haddasu i weddu i ofynion arddangos ar-lein eich busnes. Mae’r delweddau sy’n dangos y sgoriau ar gael i’w lawrlwytho, ac maen nhw ar ffurf ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg i fusnesau yng Nghymru.

Os ydych chi wedi cofrestru eich busnes bwyd ond heb gael sgôr eto, gallwch arddangos sticer ‘aros am sgôr’ ar gyfer busnesau yng Nghymru, neu’r sticer ‘aros am arolygiad’ ar gyfer busnesau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae delweddau wedi’u darparu ar gyfer pob sgôr, o ‘0 – Angen gwella ar frys’ i ‘5 – Da iawn’.

Cael cod ar gyfer eich sgôr

Os ydych yn arddangos eich sgôr ar eich gwefan, gallwch fewnosod y cod javascript ar gyfer y sgôr berthnasol yn hytrach na lawrlwytho ffeil y ddelwedd a’i storio’n lleol.

Mae hyn oherwydd bod y cod javascript wedi’i ddatblygu i ddiweddaru’n awtomatig os bydd eich sgôr yn newid. Felly, dim ond unwaith y bydd angen gwneud hyn.

Os byddwch yn dewis lawrlwytho ffeil y ddelwedd yn uniongyrchol, dylech sicrhau eich bod yn gwneud y newidiadau perthnasol i’r sgôr ar draws pob un o’ch llwyfannau digidol, os bydd eich sgôr yn newid.

Gwefannau trydydd partïon

Ar gyfer busnesau sy’n cymryd archebion trwy lwyfan neu wefan cydgasglu trydydd parti, mae’n bosib y bydd eich sgôr wedi’i harddangos ar lwyfan y trydydd parti hwnnw’n barod.

Os nad yw eich sgôr wedi’i harddangos yn gywir, dylech gysylltu â’r llwyfan cydgasglu i ddiweddaru hyn.

Dylai gweithredwyr a datblygwyr gwefannau trydydd parti adolygu Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) er mwyn cael cyngor mwy penodol ar sut i sicrhau bod eu llwyfannau’n bodloni gofynion arddangos y CSHB.

Arddangos ar y cyfryngau cymdeithasol 

Mae llawer o fusnesau bwyd yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo eu cynhyrchion a chymryd archebion ar-lein.

Wrth gymhwyso’r egwyddorion arweiniol o sicrhau bod sgoriau’n hawdd eu gweld a’u darllen cyn archebu bwyd, dylech chi drin eich tudalennau busnes ar y cyfryngau cymdeithasol fel y prif fan gwerthu ar gyfer eich cwsmeriaid.

Yn yr un modd â safleoedd ffisegol, dylech arddangos eich sgôr ar eich holl sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys lle y gellir wneud archebion trwy wasanaeth negeseuon. 

Mae yna lawer o wahanol opsiynau ar gyfer arddangos sgoriau ar-lein ar draws y cyfryngau cymdeithasol. Isod, rydym yn rhoi argymhellion ar gyfer sut y gallwch sicrhau cydymffurfiaeth ar draws gwahanol lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol.

Facebook

Mae rhai busnesau’n cymryd archebion trwy neges uniongyrchol ar Facebook neu drwy Facebook Marketplace.

Wrth werthu bwyd ar Facebook, dylech sicrhau:

  • bod eich sgôr yn cael ei harddangos yn barhaol ac mewn modd sefydlog ar eich proffil ac y gall cwsmeriaid ei gweld pan fyddan nhw’n yn ymweld â’ch tudalen
  • bod y sgôr yn ddigon mawr fel y gellir ei darllen yn hawdd ac nad yw’n lleihau’n sylweddol pan fydd cwsmer yn defnyddio Facebook ar ddyfais symudol

Gellir cyflawni hyn trwy arddangos eich sgôr fel rhan o lun clawr eich proffil Facebook, fel neges Facebook wedi’i phinio, neu yn yr hysbyseb ei hun ar Facebook Marketplace.

Mae’r delweddau a geir isod at ddibenion enghreifftiol yn unig.

Llun clawr Facebook 

Gallwch arddangos eich sgôr yn amlwg trwy fewnosod y ddelwedd berthnasol o’r sgôr yn llun clawr eich proffil. Dylid ychwanegu hon at ochr dde’r llun clawr fel nad yw’n gwrthdaro â’ch llun proffil.

Gellir mewnosod y sgôr yn hawdd ar eich llun clawr trwy ddefnyddio offer golygu delweddau ar-lein rhad ac am ddim fel PIXLR neu Canva.

Delwedd Facebook gyffredinol

Neges Facebook wedi’i phinio 

Gallwch uwchlwytho eich sgôr fel neges unigol cyn belled â’i bod wedi’i phinio i’ch proffil fel ei bod yn ymddangos yn amlwg ar frig eich tudalen.

Bydd methu â phinio’r neges yn golygu y bydd negeseuon yn y dyfodol yn gwthio’r sgôr ymhellach i lawr ffrwd eich tudalen gan ei gwneud hi’n anodd i gwsmeriaid ddod o hyd iddi. Ni fyddai hyn yn bodloni egwyddorion arweiniol y CSHB mewn perthynas ag arddangos sgoriau.

Trwy ychwanegu neges wedi’i phinio, gallwch sicrhau bod gan eich sgôr le parhaol ar eich proffil a chynnwys unrhyw gyd-destun ychwanegol yn y testun cysylltiedig.

Delwedd Facebook - postiad wedi'i binio

Facebook Marketplace 

Mae rhai busnesau bwyd a defnyddwyr unigol yn gwerthu bwyd yn uniongyrchol trwy Facebook Marketplace.

I arddangos sgôr ar Facebook Marketplace, dylech gynnwys delwedd o’ch sgôr yn yr holl hysbysebion a’r testun cysylltiedig.

Gellir gwneud hyn trwy ychwanegu’r sgôr fel troshaen at y ddelwedd gyntaf yn yr hysbyseb, neu drwy gynnwys delwedd o’r sgôr lawn yn y carwsél.

Gellir ychwanegu delwedd o’r sgôr yn hawdd at ddelwedd yr hysbyseb gan ddefnyddio offer golygu delweddau ar-lein rhad ac am ddim fel PIXLR neu Canva.

Facebook Marketplace (Hysbyseb) - Cymraeg

Instagram

Ar Instagram, dylech arddangos eich sgôr ar eich proffil mewn modd amlwg a sefydlog.

Yn ogystal ag arddangos llun o’ch sgôr, gallwch gynnwys disgrifiad ysgrifenedig o’ch sgôr ym mlwch bywgraffiad eich cyfrif, ond ni ddylid trin y testun fel dewis amgen yn lle defnyddio llun o’ch sgôr.

Fel Facebook, gallwch hefyd binio neges i frig eich proffil Instagram.

Os na fyddwch chi’n pinio’r neges, bydd unrhyw negeseuon yn y dyfodol yn gwthio’ch sgôr ymhellach i lawr eich tudalen. Byddai hyn yn ei gwneud hi’n anodd i gwsmeriaid ddod o hyd i’ch sgôr, ac ni fyddai’n bodloni egwyddorion arweiniol y CSHB mewn perthynas ag arddangos sgoriau.

Trwy binio neges, gallwch sicrhau bod gan eich sgôr le parhaol ar eich proffil Instagram.

X (Twitter yn flaenorol)

Wrth gymhwyso’r egwyddorion arweiniol at dudalen proffil X eich busnes, dylech:

  • arddangos eich sgôr mewn modd parhaol a sefydlog ar eich proffil
  • sicrhau bod y sgôr yn ddigon mawr fel y gellir ei darllen yn hawdd ac nad yw’n lleihau’n sylweddol pan fydd cwsmer yn defnyddio X ar ddyfais symudol

Gellir cyflawni hyn trwy arddangos eich sgôr fel rhan o ddelwedd pennyn eich proffil neu fel neges wedi’i phinio.

Delwedd pennyn X 

Gallwch arddangos eich sgôr yn amlwg trwy ei mewnosod yn eich delwedd pennyn. Dylid ychwanegu hon at ochr dde’r ddelwedd pennyn fel nad yw’n gwrthdaro â’ch llun proffil.

Gall dewis delweddau addas i fewnosod eich sgôr ynddynt wella eich gweithgarwch hyrwyddo a’i gwneud hi’n haws i gwsmeriaid pan fyddan nhw’n mynd ar eich tudalen.

Gellir ychwanegu delwedd o’r sgôr yn hawdd gan ddefnyddio offer golygu delweddau ar-lein rhad ac am ddim fel PIXLR neu Canva.

Pennyn Twitter

Neges wedi’i phinio

Gallwch ychwanegu eich sgôr fel neges unigol, ond dylai hon gael ei phinio i’ch proffil fel ei bod yn ymddangos yn amlwg ar frig eich tudalen.

Bydd methu â phinio’r neges yn golygu y bydd negeseuon yn y dyfodol yn gwthio’r sgôr ymhellach i lawr eich ffrwd gan ei gwneud hi’n anodd i gwsmeriaid ddod o hyd iddi. Ni fyddai hyn yn bodloni egwyddorion arweiniol y CSHB mewn perthynas ag arddangos sgoriau.

Trwy ychwanegu neges wedi’i phinio, gallwch sicrhau bod gan eich sgôr le parhaol ar eich proffil a chynnwys unrhyw gyd-destun ychwanegol yn y testun cysylltiedig.

Trydariad wedi'i binio