Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Canllawiau diogelwch a hylendid bwyd ar gyfer banciau bwyd ac elusennau

Cludo bwyd yn ddiogel

Canllawiau ar gyfer cludo bwyd i'r defnyddiwr.

Rhaid i fwyd sy’n cael ei ddosbarthu i ddefnyddwyr fod yn ddiogel ac yn addas i'w fwyta. Rhaid i chi sicrhau’r canlynol:

  • caiff bwyd ei gludo mewn deunydd pecynnu neu gynwysyddion sy'n atal halogiad
    caiff bwydydd wedi'u hoeri a'u rhewi eu dosbarthu i ddefnyddwyr mewn ffordd sy'n sicrhau nad ydynt yn dod yn anniogel neu'n anaddas i'w bwyta (er enghraifft, trwy ddefnyddio bagiau a blychau oeri, neu faniau oergell)
    caiff bwydydd amrwd a bwydydd parod i'w bwyta eu cadw ar wahân

Dilynwch ein canllawiau diogelwch bwyd ar gyfer dosbarthu bwyd i gael rhagor o wybodaeth.