Cydnabyddiaeth ar sail perfformiad – Cynlluniau Sicrwydd Cymeradwy yr ASB
Nod y system 'cydnabyddiaeth ar sail perfformiad' yw lleihau'r baich ar fusnesau sy'n cydymffurfio gan olygu bod modd canolbwyntio gweithgarwch ar fusnesau nad ydynt yn cydymffurfio cystal. Bydd y rhai sy'n gymwys i gydnabyddiaeth ar sail perfformiad yn elwa trwy gael llai o ymweliadau gan yr awdurdod gorfodi.
Rydym ni wedi cyflwyno lleihau amlder yr arolygiadau (cydnabyddiaeth ar sail perfformiad) ar gyfer busnesau sy'n cydymffurfio sy'n aelodau o gynlluniau sicrwydd cymeradwy'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn y meysydd cynhyrchu cynradd (2006), hylendid llaeth (2011) a bwyd anifeiliaid (2014).
Pan gaiff cynllun sicrwydd ei gymeradwyo, gall aelodau sy'n cydymffurfio â'r cynllun hwnnw elwa o gydnabyddiaeth ar sail perfformiad, ar y sail eu bod yn cymryd camau cadarnhaol i leihau risgiau a chydymffurfio â gofynion deddfwriaethol, trwy broses ardystio trydydd parti.
Cynlluniau Sicrwydd Cymeradwy
Mae Cydffederasiwn y Diwydiannau Amaethyddol (AIC) yn sefydliad annibynnol, nid er elw sy'n gweithio ar ran aelodau yn y sector cyflenwi amaethyddol. Mae AIC yn cynrychioli amrywiaeth o sectorau yn y diwydiant bwyd anifeiliaid ac mae'n rheoli nifer o gynlluniau sicrwydd.
Mae gan AIC dri chynllun sydd wedi'u cymeradwyo gennym ni:
- Cynllun Sicrwydd Deunyddiau Bwyd Anifeiliaid (FEMAS)
- Cynllun Sicrwydd Masnachu ar gyfer Cnydau i'w Cynaeafu (TASCC)
- Cynllun Rhyngwladol Sicrwydd Bwyd Anifeiliaid (UFAS)
Mae AIC yn gweithredu i Femorandwm o Ddealltwriaeth (PDF) gyda'r ASB, Safonau Bwyd yr Alban a'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (VMD).
Cynllun sicrwydd y Tractor Coch
Mae Cynllun Sicrwydd y Tractor Coch yn gynllun sicrwydd ar hyd y gadwyn gyfan sy'n gweithredu safonau ar y fferm ac ar ôl giât y fferm, y gallu i olrhain, lles anifeiliaid a diogelu'r amgylchedd.
Mae Cynllun Sicrwydd y Tractor Coch hefyd yn gweithredu cynllun trwyddedu ar gyfer busnesau bwyd sydd am wneud honiad Tractor Coch. Mae rhagor o wybodaeth am ofynion trwyddedu Cynllun Sicrwydd y Tractor Coch ar gael ar eu gwefan.
Mae gan Cynllun Sicrwydd y Tractor Coch chwe chynllun sydd wedi'u cymeradwyo gennym ni:
- Cig eidion a chig oen
- Cnydau a betys siwgwr
- Llaeth
- Cynnyrch ffres
- Moch
- Dofednod
Mae Cynllun Sicrwydd y Tractor Coch yn gweithredu i Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth (PDF) gyda'r ASB.
Comisiwn Da Byw a Chig Gogledd Iwerddon
Mae Comisiwn Da Byw a Chig Gogledd Iwerddon (LMC) yn Gorff Cyhoeddus Anadrannol Gweithredol, a sefydlwyd o dan Ddeddf Comisiwn Marchnata Da Byw 1967. Mae'n gwasanaethu fel y corff statudol sy'n gyfrifol am gefnogi, hyrwyddo a sicrhau ansawdd sectorau cig eidion a chig defaid yng Ngogledd Iwerddon.
Mae gan LMC un cynllun sydd wedi'i gymeradwyo gennym ni:
Mae LMC yn gweithredu i Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth (PDF) gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Ngogledd Iwerddon.
Welsh Lamb and Beef Producers
Mae Welsh Lamb and Beef Producers Ltd (WLBP) yn gymdeithas gydweithredol amaethyddol a reolir gan ffermwyr sy'n cynnwys dros 7,000 o ffermwyr o Gymru. Mae WLBP yn ymdrechu i gryfhau hyder defnyddwyr trwy ddarparu sicrwydd o safonau ffermydd trwy'r Cynllun Sicrwydd Fferm Da Byw Cymru (FAWL).
Mae gan WLBP un cynllun sydd wedi'i gymeradwyo gennym ni:
Mae Welsh Lamb and Beef Producers Ltd yn gweithredu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gydag ASB Cymru.
Wales
Dilysu Cynlluniau Sicrwydd Cymeradwy
Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a hyder parhaus ar ôl cymeradwyo cynllun sicrwydd i ennill cydnabyddiaeth, byddwn ni'n gwirio cydymffurfiaeth â'n meini prawf.
Mae awdurdodau gorfodi yn gwirio canran o aelodau'r cynllun sicrwydd i wirio cydymffurfiaeth busnes. Bydd y gwiriadiadau hyn yn ein galluogi i fod â hyder yn y cynllun sicrwydd a'r statws cynllun cymeradwy.
Adroddiad eithriad yr Awdurdod Gorfodi
Pan fo awdurdod gorfodi yn tynnu sttws cydnabyddiaeth ar sail perfformiad oddi ar fusnes, dylai roi gwybod i'r ASB cynted â phosibl drwy ddefnyddio'r ffurflen adrodd am eithriad (MS Word - Saesneg yn unig).
Mae'r wybodaeth hon yn bwysig i helpu'r ASB i gyflawni ei rôl o wirio’r cynlluniau sicrwydd cymeradwy.
Darllenwch ein hysbysiad preifatwydd ar adroddiadau am eithriadau.
Hanes diwygio
Published: 7 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Ebrill 2026