Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cyflenwi cig ac offal Qurbani yn ystod Eid al-Adha

Penodol i Gymru a Lloegr

Datganiad ar y cyd gan Is-grŵp y Gweithgor Partneriaeth i hwyluso cyflenwi cig ac offal Qurbani i’r gymuned Fwslimaidd yn ystod Eid al-Adha 2023.

Cefndir

Mae aelodau Is-grŵp y Gweithgor Partneriaeth (PWG SG) ar gyflenwi uniongyrchol yn parhau i gydweithio i ddatblygu dull hirdymor cynaliadwy a chymesur ar gyfer cyflenwi cig ac offal Qurbani yn ystod Eid al-Adha, ac mae’r trafodaethau’n parhau i fod yn gynhyrchiol.

Yn 2022, lansiodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ymgynghoriad 12 wythnos ar y dull hirdymor, gan gyhoeddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad wedyn.

Mae aelodau’r PWG SG yn cydnabod bod gwaith ar y dull hirdymor yn parhau. Maent hefyd yn cydnabod bod cyflenwi uniongyrchol i ddefnyddwyr terfynol o ladd-dai yn weithgaredd rheoleiddiedig ac yn cefnogi’r angen i sicrhau bod modd cyflenwi cig ac offal Qurbani i’r gymuned Fwslimaidd yn ystod Eid al-Adha 2023 o dan amodau sy’n sicrhau lefelau priodol o ddiogelwch i iechyd y cyhoedd. 

Felly, mae PWG SG wedi cytuno y bydd y mesurau lliniaru a arweinir gan y diwydiant a roddwyd ar waith yn ystod Eid al-Adha 2020, 2021 a 2022 yn cael eu cymhwyso eto yng Nghymru a Lloegr yn ystod Eid al-Adha 2023 (rhagwelir y bydd yn cychwyn ar 28 Mehefin 2023 ar hyn o bryd).  

Bydd rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar wefan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB).

Y tu allan i gwmpas y datganiad ar y cyd hwn:  
  • Gwerthu a chyflenwi Busnes i Fusnes o dan Reoliad (UE) a ddargedwir 2017/1981. 
  • Gofynion Covid-19 mewn perthynas â chanllawiau i fusnesau ar gadw pellter cymdeithasol yn unol â chyngor perthnasol y llywodraeth ar y pryd.  

Cyflenwi cig ac offal Qurbani yn uniongyrchol yn ystod Eid al-Adha 2023  

Rydym wedi datblygu dogfennaeth weithredu fanylach (Gweithdrefnau Gweithredu Qurbani (EID 01-11) (Saesneg yn unig)) i gefnogi gweithredwyr busnesau bwyd a swyddogion sy’n ystyried yr egwyddorion lliniaru risg canlynol: 

  • Oeri cig yn rhannol cyn ei gyflenwi’n uniongyrchol  
  • Gwirio cyflenwad i ddefnyddwyr terfynol yn unig, neu eu cynrychiolwyr, gyda datganiad gan y cwsmer neu brawf olrhain ar gyfer yr holl werthiannau/cyflenwi perthnasol 
  • Rhoi gwybodaeth am iechyd a chyngor i ddefnyddwyr 
  • Rhoi mesurau ar waith i leihau croeshalogi, gan gynnwys deunydd lapio addas 
  • Arddangos samplu microbiolegol addas a/neu hanes hylendid 
  • Cynnwys dyddiad ac amser y lladd ar label y Qurbani  
  • Mesurau lliniaru ychwanegol ar gyfer cyflenwi cig offal

Cymeradwywyd y dull hwn gan Brif Weithredwr yr ASB a’r Tîm Rheoli Gweithredol. 

Sefydliadau a gynrychiolir ar y PWG SG: