Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Cyfraith Bwyd Gyffredinol

P’un a ydych chi’n fusnes bwyd neu’n ddefnyddiwr sydd â diddordeb mewn cyfraith bwyd, mae gofynion cyffredinol y dylech chi fod yn ymwybodol ohonynt.

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Ionawr 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Ionawr 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae’r trosolwg hwn yn ymdrin â phrif ddeddfwriaeth Prydain Fawr a deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd (UE) a ddargedwir yn y meysydd canlynol:

  • mewnforion ac allforion bwyd
  • diogelwch
  • olrheiniadwyedd
  • labelu, a galw a thynnu cynhyrchion yn ôl 

Rydym wedi crynhoi geiriad y ddeddfwriaeth dan sylw, felly dylid defnyddio hwn fel crynodeb cyffredinol o gyfraith diogelwch bwyd, ac nid fel cyngor cyfreithiol. Mae’n bwysig gwirio geiriad cywir y ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i’r sefyllfa rydych chi’n ymdrin â hi.

Gogledd Iwerddon

Mae’n rhaid i gynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid a gaiff eu rhoi ar farchnad Gogledd Iwerddon gydymffurfio â chyfraith bwyd yr UE. Mae cyfraith yr UE a ddargedwir (a gymathwyd) yn gymwys i Brydain Fawr yn unig. Yng Ngogledd Iwerddon, yn unol â Fframwaith Windsor(link is external) (Opens in a new window), mae cyfraith bwyd yr UE yn dal i fod yn gymwys.

Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

England, Northern Ireland and Wales

Deddfwriaeth Prydain Fawr

Prif nod Rheoliad cyfraith yr UE a ddargedwir (CE) 178/2002, 'Cyfraith Bwyd Gyffredinol' yw diogelu iechyd pobl a sicrhau budd y defnyddiwr mewn perthynas â bwyd. Mae'n berthnasol i bob cam cynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd a bwyd anifeiliaid gyda rhai eithriadau. Rhaid i fusnesau bwyd gydymffurfio â chyfraith diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid.

Er mwyn rhoi bwyd diogel ar y farchnad rhaid i fusnesau bwyd sicrhau:

  • y gallu i olrhain bwyd
  • cyflwyniad priodol o fwyd
  • y darperir gwybodaeth addas am fwyd
  • gweithdrefnau ar gyfer tynnu neu alw bwyd anniogel a roddir ar y farchnad yn ôl
  • bod bwyd a bwyd anifeiliaid sy'n cael ei fewnforio, ac yn cael ei allforio o Brydain Fawr, yn cydymffurfio â chyfraith bwyd. 

Rydym ni wedi creu nodiadau canllaw ar ddiogelwch bwyd, y gallu i olrhain, a thynnu a galw cynnyrch yn ôl, yn seiliedig ar y Gyfraith Bwyd Gyffredinol.

England, Northern Ireland and Wales

Darpariaethau’r Gyfraith Bwyd Gyffredinol

Mae Cyfraith Bwyd Gyffredinol yn cynnwys egwyddorion (Erthyglau 5 i 10) a gofynion (Erthygl 14 i 21). Rydym ni’n amlinellu'r darpariaethau allweddol ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd o fewn y Gyfraith Bwyd Gyffredinol sy'n berthnasol i weithredwyr busnesau bwyd.

Diogelwch

Mae Erthygl 14 yn datgan na ddylid rhoi bwyd ar y farchnad os yw'n anniogel. Mae bwyd yn cael ei ystyried yn anniogel os yw'n:

  • niweidiol i iechyd
  • anaddas i'w fwyta gan bobl

Mae'r erthygl hefyd yn nodi pa ffactorau sydd angen eu hystyried wrth bennu p'un a yw bwyd yn niweidiol i iechyd neu'n anaddas.

Cyflwyno bwyd

Mae Erthygl 16 yn datgan na ddylai labelu, hysbysebu a chyflwyniad, gan gynnwys y lleoliad y mae bwyd yn cael ei arddangos, gamarwain defnyddwyr.

Y gallu i olrhain

Mae Erthygl 18 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr busnes bwyd gadw cofnodion o'r canlynol:

  • bwyd
  • sylweddau bwyd
  • anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd sy'n cael eu cyflenwi i'w busnes
  • busnesau y maent wedi'u cyflenwi gyda'u cynhyrchion 

Ym mhob achos, mae'n ofynnol i'r wybodaeth fod ar gael i awdurdodau cymwys yn ôl y gofyn.

Mewnforion

Mae Erthygl 11 yn mynnu bod yn rhaid i fwyd sydd wedi'i fewnforio i Brydain Fawr i'w roi ar y farchnad gydymffurfio â gofynion cyfraith bwyd, neu os oes cytundeb penodol rhwng Prydain Fawr a'r wlad sy'n allforio, rhaid cydymffurfio â'r gofynion hynny.

Allforion

Mae Erthygl 12 yn mynnu bod yn rhaid i fwyd a gaiff ei allforio (neu ei ail-allforio) o Brydain Fawr gydymffurfio â gofynion cyfraith bwyd, oni bai bod awdurdodau'r wlad sy'n mewnforio wedi gofyn fel arall, neu ei fod yn cydymffurfio â chyfreithiau, rheoliadau a gweithdrefnau cyfreithiol a gweinyddol eraill y wlad sy'n mewnforio.

Wrth allforio neu ail-allforio bwyd, cyn belled â nad yw'r bwyd yn niweidiol i iechyd neu'n anniogel, mae'n rhaid i awdurdodau cymwys y wlad sy'n mewnforio fod wedi cytuno y gall y bwyd gael ei allforio neu ei ail-allforio. Mae'n rhaid i'r awdurdodau cymwys gadarnhau hyn ar ôl iddynt gael eu hysbysu'n llawn ynghylch pam nad oedd modd rhoi'r bwyd ar y farchnad.

Lle mae cytundeb dwyochrog rhwng Prydain Fawr a gwlad arall, mae angen i fwyd sy'n cael ei allforio o Brydain Fawr gydymffurfio â'i ddarpariaethau.

Galw a thynnu cynnyrch yn ôl a rhoi gwybod amdano

Mae Erthygl 19 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr busnesau bwyd dynnu bwyd yn ôl nad yw'n cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd ac sydd wedi gadael eu rheolaeth. Mae'n rhaid i weithredwyr busnesau bwyd alw'r bwyd yn ôl os yw wedi cyrraedd y defnyddiwr.

'Tynnu bwyd yn ôl' yw pan fydd bwyd yn cael ei dynnu o'r farchnad, ac mae hyn yn cynnwys yn y man gwerthu. 'Galw bwyd yn ôl' yw pan ofynnir i gwsmeriaid ddychwelyd neu ddinistrio'r cynnyrch.

Mae'n rhaid i fusnesau bwyd hefyd hysbysu'r awdurdodau cymwys (ni a'r awdurdod lleol). Mae'n rhaid i fanwerthwyr a dosbarthwyr helpu gyda thynnu bwyd anniogel yn ôl a throsglwyddo gwybodaeth sy'n angenrheidiol i'w olrhain.

Pan fo gweithredwr y busnes bwyd wedi rhoi bwyd ar y farchnad sy'n niweidiol i iechyd, mae'n rhaid iddo hysbysu'r awdurdodau cymwys yn syth. Mae darpariaethau tebyg ar gyfer bwyd anifeiliaid.

Deddfwriaeth genedlaethol

Lloegr

Yn Lloegr, mae Rheoliadau Diogelwch Bwyd a Hylendid (Lloegr) 2013(link is external) (Opens in a new window) (fel y diwygiwyd) yn darparu ar gyfer gorfodi darpariaethau penodol o Reoliad cyfraith yr UE a gymathwyd (CE) 178/2002 ac ar gyfer y ddeddfwriaeth hylendid bwyd. Mae hefyd yn darparu cyfraith genedlaethol ar gyfer: cludo olew neu fraster hylif a siwgr amrwd ar y môr;(link is external) (Opens in a new window) cyflenwad uniongyrchol gan y cynhyrchydd o feintiau bach o gig o ddofednod neu lagomorffau a laddwyd ar y fferm; rheoli tymheredd mewn sefydliadau manwerthu; cyfyngiadau ar werthu a chyflenwi llaeth buwch i’w yfed yn amrwd a rhanddirymiadau sy'n ymwneud â sefydliadau cynhyrchiant is (lladd-dai).

Mae Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004(link is external) (Opens in a new window) yn gorfodi rhai o ddarpariaethau Rheoliad a gymathwyd (CE) 178/2002. Maent hefyd yn diwygio Deddf Diogelwch Bwyd 1990 i’w chysoni â Rheoliad a gymathwyd (CE) 178/2002.

Gogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Gogledd Iwerddon) 2006(link is external) (Opens in a new window) yn darparu ar gyfer gorfodi darpariaethau penodol o’r ddeddfwriaeth hylendid bwyd.

Mae Rheoliadau Bwyd Cyffredinol (Gogledd Iwerddon) 2004(link is external) (Opens in a new window) yn darparu ar gyfer gorfodi darpariaethau penodol o Reoliad (CE) Rhif 178/2002(link is external) (Opens in a new window). Gwnaeth y Rheoliadau hyn hefyd ddiwygio Gorchymyn Diogelwch Bwyd (Gogledd Iwerddon) 1991(link is external) (Opens in a new window) i sicrhau ei fod yn gydnaws â Rheoliad (CE) Rhif 178/2002.

England, Northern Ireland and Wales

Troseddau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990

Y prif droseddau diogelwch bwyd a diogelu'r cyhoedd a gafodd eu creu gan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 oedd:

  • Adran 7 – achosi i fwyd fod yn niweidiol i iechyd drwy:
    • ychwanegu darn neu sylwedd i'r bwyd
    • defnyddio darn neu sylwedd fel cynhwysyn wrth baratoi bwyd
    • tynnu unrhyw gyfansoddyn o'r bwyd
    • prosesu neu drin y bwyd
    • gyda'r bwriad y bydd yn cael ei werthu i'w fwyta gan bobl
  • Adran 14 – gwerthu bwyd nad yw o'r natur, y sylwedd na'r ansawdd y disgwylir gan y prynwr.
  • Adran 15 – disgrifio neu gyflwyno bwyd yn anghywir yn bwrpasol.
  • Dan adran 20, os yw trosedd wedi'i chyflawni oherwydd gweithrediad neu fethiant unigolyn arall, yr unigolyn hwnnw sy'n euog o'r drosedd.
  • Dan adran 21, mewn trosedd dan ddarpariaethau Rhan 2 y Ddeddf (sy'n cynnwys y troseddau a restrir uchod), bydd angen i weithredwr y busnes bwyd brofi ei fod wedi cymryd pob mesur rhagofalus rhesymol, ac wedi rhoi sylw dyladwy i osgoi cyflawni'r drosedd.

Deddfwriaeth hylendid bwyd

Mae deddfwriaeth hylendid bwyd yn debyg i'r ddeddfwriaeth ar ofynion cyffredinol ac egwyddorion cyfraith bwyd ond yn benodol, mae'n ymwneud â diogelwch microbiolegol bwyd.

Mae'r ddeddfwriaeth yn nodi'r rheolau hylendid bwyd ar gyfer pob busnes bwyd, gan roi rheolaethau effeithiol a chymesur ar waith drwy gydol y gadwyn fwyd, o gynhyrchu cynradd hyd at werthu neu gyflenwi'r i'r defnyddiwr.