Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cynllun Rheoli Cenedlaethol Amlflwydd

Sut rydym yn ymwneud â gwahanol awdurdodau a sefydliadau i orfodi rheoliadau.

I’w nodi: Ar ôl i’r DU ymadael â’r UE ym mis Ionawr 2020, cafodd y cyfrifoldeb am Gynllun Rheoli Cenedlaethol Amlflwydd Prydain Fawr (GB MANCP) a’i adroddiad blynyddol ei drosglwyddo’n ffurfiol i Defra. Fel yr arweinydd ar fasnach ryngwladol, mae Defra bellach yn rheoli’r gwaith o gasglu, cynnal a chadw a chyhoeddi’r dogfennau hyn.  
  
Mae Gogledd Iwerddon yn cynhyrchu ei hadroddiad ar wahân ei hun (Adroddiad Blynyddol ar Reolaethau Swyddogol), a gyflwynir yn uniongyrchol i Gomisiwn yr UE, yn unol â Phrotocol Gogledd Iwerddon. 
  
Mae Defra wrthi’n creu gwefan newydd i gynnal MANCP Prydain Fawr ac adroddiadau blynyddol terfynol o 2020 ymlaen. Bydd y dudalen we hon yn parhau i fod yn weithredol fel dalfan nes bydd y gwaith hwn wedi’i gwblhau.
 
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â’r MANCP, a’i adroddiadau blynyddol i  mancp@defra.gov.uk

Mae Cynllun Rheoli Cenedlaethol Amlflwydd integredig y Deyrnas Unedig (UK MANCP) yn cael ei baratoi yn unol â gofynion Erthyglau 109 i 111 o Reoliad (UE) 2017/625 a ddargedwir. O dan y rheoliad hwn, mae’n ofyniad cyfreithiol bod gan y DU gynllun rheoli cenedlaethol. Diben y MANCP yw dangos bod systemau rheoli effeithiol ar waith ar gyfer monitro a gorfodi:

  • cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid
  • rheoliadau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid
  • cyfraith iechyd planhigion, gan gynnwys diogelu iechyd defnyddwyr mewn perthynas â chynhyrchion amddiffyn planhigion

Mae’r Cynllun Rheoli yn cynnwys gwybodaeth am strwythur, rolau a chyfrifoldebau’r awdurdodau cymwys amrywiol sy’n ymwneud â monitro cydymffurfiaeth a gorfodi. Mae’n rhoi trosolwg o sut mae awdurdodau cymwys a chyrff eraill yn cydweithio, a hynny er mwyn:

  • diogelu iechyd y cyhoedd, anifeiliaid a phlanhigion
  • diogelu defnyddwyr
  • hyrwyddo lles anifeiliaid

Mae’r MANCP yn cael ei lunio gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) gyda chyfraniadau gan:

  • Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a’i hasiantaethau
  • Safonau Bwyd yr Alban
  • Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Cyfarwyddiaeth Rheoleiddio Cemegion yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
  • Amaethyddiaeth, Bwyd a Chymunedau Gwledig Llywodraeth yr Alban
  • Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru
  • Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yng Ngogledd Iwerddon

Datblygu ac adolygu’r cynllun

Yn unol â Rheoliad (UE) 2017/625 a ddargedwir, mae MANCP y DU yn cael ei adolygu yn flynyddol.

Cafodd y MANCP ei ddiweddaru ym mis Rhagfyr 2019 i ystyried cyflwyno’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol (UE) 2017/625 newydd a ddargedwir ar 14 Rhagfyr 2019, a ddiddymodd ac a ddisodlodd Reoliad (CE) Rhif 882/2004. Mae’r MANCP hwn ar waith tan fis Mawrth 2023.

England, Northern Ireland and Wales

 

Adroddiad Blynyddol ar y cynnydd tuag at weithredu MANCP y DU

Mae cynnydd ar weithredu’r MANCP yn cael ei fonitro’n barhaus a chaiff adroddiadau blynyddol eu paratoi a’u cyhoeddi gan yr ASB gyda chyfraniadau gan holl awdurdodau cymwys y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig.

O adroddiad blynyddol MANCP 2020 ymlaen bydd Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn llunio eu hadroddiadau eu hunain ar wahân yn unol â Phrotocol Gogledd Iwerddon.  

England, Northern Ireland, Scotland and Wales

England, Northern Ireland, Scotland and Wales

England, Northern Ireland and Wales