Ffitrwydd i weithio
Mae’r cyngor isod yn berthnasol i holl weithredwyr busnesau bwyd y DU, ac eithrio cynhyrchwyr cynradd (fel ffermwyr a thyfwyr).
Gall pobl sy’n gweithio o amgylch bwyd agored wrth ddioddef o heintiau penodol (yn bennaf bacteria a feirysau fel salmonela neu norofeirws) halogi bwyd, dŵr neu arwynebau.
Gall hyn wedi arwain at ledaenu’r haint i staff eraill a chwsmeriaid sydd wedyn yn bwyta bwyd halogedig neu’n dod i gysylltiad ag arwynebau halogedig.
Cyfrifoldeb gweithredwyr busnesau bwyd
Dylid darllen pob cyfeiriad at ddeddfwriaeth naill ai fel cyfraith a gymathwyd yng Nghymru a Lloegr, neu gyfraith yr UE yng Ngogledd Iwerddon, fel y bo’n berthnasol.
Cyfrifoldeb y gweithredwr busnes bwyd yw sicrhau ei fod yn dilyn y gofynion yn Atodiad 1, 4(e) i Reoliad (CE) 852/2004 ar hylendid bwydydd, sef
- ‘to ensure that staff handling foodstuffs are in good health and undergo training on health risks;’ (footnote 1)
ac ym Mhennod VIII (2)
- ‘No person suffering from, or being a carrier of a disease likely to be transmitted through food or afflicted, for example, with infected wounds, skin infections, sores or diarrhoea is to be permitted to handle food or enter any food-handling area in any capacity if there is any likelihood of direct or indirect contamination. Any person so affected and employed in a food business and who is likely to come into contact with food is to report immediately the illness or symptoms, and if possible, their causes, to the food business operator.’ (footnote 2)
Mae mwy o wybodaeth am y rheoliadau hyn ar gael ar ein tudalen ar y gyfraith bwyd gyffredinol.
Dolur rhydd a/neu chwydu yw prif symptomau salwch y gellir ei drosglwyddo trwy fwyd.
Rhaid i reolwyr wahardd staff sydd â’r symptomau hyn rhag gweithio gyda bwyd agored neu o’i gwmpas, fel arfer am 48 awr ar ôl i’r symptomau ddod i ben yn naturiol.
Gallai cosbi staff am fod yn sâl, er enghraifft drwy beidio â’u talu pan gânt eu gwahardd o’r gwaith, arwain at staff yn gweithio pan fyddant yn sâl, a gallai hynny arwain at broblemau diogelwch bwyd. Gall cymhellion i gymryd llai o ddiwrnodau salwch gael effaith debyg. Mae tâl salwch statudol ar gael mewn llawer o achosion, er bod angen tystysgrif gan feddyg teulu fel arfer.
Mae’n bosib y bydd staff sy’n cael eu gwahardd am gyfnodau hirach oherwydd clefydau heintus mwy difrifol hefyd yn gallu cael cymorth ariannol gan eu hawdurdod lleol.
Cyfrifoldeb unigolion sy’n trin bwyd
Rhaid i staff sy’n trin bwyd neu sy’n gweithio mewn man trin bwyd:
- golchi a sychu eu dwylo cyn trin bwyd, neu arwynebau sy’n debygol o ddod i gysylltiad â bwyd, yn enwedig ar ôl mynd i’r toiled
- rhoi gwybod am unrhyw symptomau salwch i’r rheolwyr ar unwaith, gan gynnwys:
- dolur rhydd neu chwydu
- poen yn y stumog, teimlo’n gyfoglyd, twymyn neu’r clefyd melyn
- rhywun sy’n byw gyda chi sydd â dolur rhydd neu sy’n chwydu
- croen, trwyn neu wddf heintiedig
Rhaid i staff beidio â gweithio gyda bwyd agored nac o’i gwmpas, fel arfer am 48 awr ar ôl i’r symptomau ddod i ben yn naturiol.
Glanhau a chroeshalogi
Os yw pobl wedi bod i’r gwaith wrth ddioddef heintiau penodol, mae’n bwysig sicrhau bod y mannau y maen nhw wedi dod i gysylltiad â nhw wedi’u glanhau’n effeithiol, er mwyn helpu i atal lledaeniad yr haint i staff eraill neu ddefnyddwyr.
I gael mwy o wybodaeth am lanhau a chroeshalogi, gweler ein tudalennau:
Adnoddau defnyddiol mewn perthynas â ffitrwydd i weithio
UKHSA – Rheoli Heintiau Gastroberfeddol
Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch – Atal heintiau yn y gwaith
Ein canllaw ar hylendid personol a ffitrwydd i weithio:
England, Northern Ireland and Wales
Ein pecyn Arlwyo Diogel – eich canllaw i wneud bwyd yn ddiogel yng Ngogledd Iwerddon:
Northern Ireland
Ein holiadur ar ffitrwydd i weithio:
Hanes diwygio
Published: 30 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Mai 2025