Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Gwartheg a defaid glân

Safonau ar gyfer lefelau o lanweithrda derbyniol ac annerbyniol ar gyfer gwartheg a defaid a gaiff eu lladd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Rhagfyr 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Rhagfyr 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau

Amcanion

Nod y Polisi Da Byw Glân yw sicrhau dull cyson wrth gategoreiddio anifeiliaid a gyflwynir i'w lladd, a lleihau'r perygl o wenwyn bwyd a achosir gan facteria ar gotiau a chnu gwartheg a defaid.

Cyhoeddwyd y polisi ym mis Medi 1997 gan y Gwasanaeth Hylendid Cig gynt er mwyn gwella safonau hylendid yn dilyn yr achos o E. Coli O157 yn yr Alban ym 1996 a arweiniodd at farwolaeth.

Gall carthion a mwd ar gotiau neu gnu, yn enwedig rhai gwlyb, halogi cig y tu mewn i'r lladd-dy wrth dynnu'r got neu'r cnu.

Arolygu

Dylai gweithredwyr busnesau bwyd arolygu anifeiliaid mewn lladd-dai er mwyn sicrhau eu bod yn lân.
Ni ellir derbyn unrhyw ladd-dai sydd â lefel annerbyniol o risg halogi i ladd anifeiliaid i'w bwyta gan bobl oni bai eu bod wedi'u glanhau ymlaen llaw. 

Mae ein staff gweithredol yn gwirio gweithdrefnau'r gweithredwyr ar y cam cyn lladd.

Er mwyn atal cig rhag cael ei halogi, a lleihau'r perygl i iechyd y cyhoedd, byddwn ni’n gwrthod yr hawl i ladd unrhyw anifail nad yw'n bodloni'r safonau glendid gofynnol.

Mae'r meini prawf ar gyfer nodi glendid gwartheg a defaid wedi'u rhannu i bump gategori, sy'n amrywio o lân a sych hyd at frwnt a gwlyb.

Dim ond da byw sydd yng nghategori un a dau y gellir eu lladd er mwyn eu bwyta gan bobl heb gymryd unrhyw gamau pellach.

Mae categorïau un a dau yn cynnwys:

  • yn lân ac yn sych
  • ychydig yn fudr
  • sych neu laith

Rheoliadau hylendid

Yn dilyn cyflwyno Rheoliadau Hylendid Bwyd yr Undeb Ewropeaidd 2006 cyfraith yr UE a ddargedwir (retained UE law), gweithredwr y busnes bwyd sy'n gyfrifol am gynhyrchu bwyd diogel.
Mae gofyn i bob gweithredwr busnes bwyd roi mesurau rheoli priodol ar waith sy'n dangos eu bod yn rheoli diogelwch bwyd yn eu busnes.

Mae hyn yn cynnwys glendid anifeiliaid sydd am gael eu lladd. Mae gofyn i weithredwyr busnesau bwyd sy'n magu anifeiliaid hefyd sicrhau glendid anifeiliaid sy'n mynd i'w lladd cymaint ag sy'n bosibl.

Gwartheg glân

Gall da byw gario pathogenau – mae bacteria yn byw ar gotiau, yn system dreulio ac yn ysgarthion anifeiliaid iach.

Mae'r Polisi Da Byw Glân wedi gwella glendid gwartheg – mae wedi arwain at welliant yng nglendid gweladwy anifeiliaid sy'n cael eu lladd.

Mae gwartheg budr yn costio arian – p'un ai drwy anifeiliaid yn cael eu gwrthod neu drwy arafu’r broses adeg eu lladd; a chuddiau (hides) wedi'u difrodi oherwydd tail neu glipio diofal.

Mae angen ystyried deiet cyn lladd – gall rhoi sylw i fwyd anifeiliaid cyn lladd leihau ysgarthion yr anifail neu eu gwneud yn fwy cadarn, sy'n helpu i leihau halogi'r croen drwy ysgarthion.

Mae darparu digon o wellt yn gwella glendid gwartheg – mae gwirio gwellt ar y fferm, wrth gludo ac yn y llociau yn y lladd-dy yn helpu i gadw gwartheg yn lân.

Gall cneifio gael gwared â baw gweladwy – ond dyma fyddai'r cam olaf oherwydd gall cneifio roi straen ar yr anifail a gall niweidio eu croen ac achosi anaf i'r gweithredwr.

Mae gwartheg gwlyb yn arbennig o beryglus – maent yn mynd yn frwnt yn haws, ac mae cotiau gwlyb yn golygu mwy o facteria symudol.

Gall ffactorau cludo effeithio ar lendid gwartheg – mae amser teithio, dyluniad lori, a nifer yr anifeiliaid a gludir oll yn effeithio ar lendid y gwartheg sy'n cael eu cludo i'w lladd.

Mae cymysgu anifeiliaid anghyfarwydd yn cynyddu'r risg o anifeiliaid brwnt yn cyrraedd y lladd-dy ac felly gall croeshalogi ddigwydd yn ystod y broses drin – yn annhebyg i anifeiliaid cyfarwydd, bydd gwartheg anghyfarwydd yn rhwbio yn erbyn ei gilydd yn gyson, sy'n lledaenu halogiad drwy garthion rhwng anifeiliaid.

Mae bacteria yn goroesi'n well mewn amgylcheddau da byw – dylid cadw'r fferm, y dull o gludo, y farchnad a'r ardaloedd cadw mor lân â phosibl.

Pwysig
Cyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn nogfennau canllaw'r Asiantaeth

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wrthi’n diweddaru’r holl gyfeiriadau at yr UE, er mwyn adlewyrchu'r gyfraith sydd bellach mewn grym yn gywir, ym mhob dogfen ganllaw newydd neu ddiwygiedig a gyhoeddir ar ôl i’r Cyfnod Pontio ddod i ben ddiwedd 2020.  Mewn rhai amgylchiadau efallai na fydd bob amser yn ymarferol i ni ddiweddaru’r holl gyfeiriadau at yr UE ar yr adeg yr ydym ni’n cyhoeddi canllawiau newydd neu ddiwygiedig.
 
Ac eithrio yng Ngogledd Iwerddon, dylid darllen unrhyw gyfeiriadau at Reoliadau'r UE yn y canllawiau hyn i olygu cyfraith yr UE a ddargedwir (retained EU law). Gallwch weld cyfraith yr UE a ddargedwir trwy Archif Ymadael â’r UE Llywodraeth EM. Dylid darllen y gyfraith hon ochr yn ochr ag unrhyw ddeddfwriaeth Ymadael â'r UE a wnaed i sicrhau bod cyfraith yr UE a ddargedwir yn gweithredu'n gywir yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig (DU). Mae deddfwriaeth Ymadael â’r UE i’w gweld ar legislation.gov.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd cyfraith yr UE yn parhau i fod yn berthnasol mewn perthynas â’r rhan fwyaf o gyfraith hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, fel a restrir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon, ac ni fydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn berthnasol i Ogledd Iwerddon o dan yr amgylchiadau hyn.

Canllawiau gwartheg glân

Mae gennym ganllawiau ar sut i gynhyrchu gwartheg glân i'w lladd.

Canllawiau defaid glân

Wales