Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Gwartheg cig eidion glân i’w lladd: Canllaw i gynhyrchwyr

Gwartheg Cig Eidion Glân i’w lladd: Cyflwyniad

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer pawb sy’n ymwneud â’r gadwyn cyflenwi cig eidion, er enghraifft ffermwyr, cludwyr, milfeddygon a gweithredwyr lladd-dai a marchnadoedd. Ei nod yw darparu cyngor ar gynhyrchu gwartheg glân i’w lladd.

Gall fod yn dasg anodd cynhyrchu gwartheg glân i’w lladd, oherwydd tywydd gwlyb, misoedd o gadw gwartheg dan do yn y gaeaf a chost/cyflenwadau gwellt gwely. Fodd bynnag, os caiff crwyn eu halogi â thail adeg lladd, mae risg wirioneddol y gall y cig gael ei halogi â bacteria niweidiol, fel E.coli O157, Campylobacter a Salmonela.

Ni all hyd yn oed y safonau uchaf o ran hylendid lladd-dai warantu y gellir atal halogi’r carcas a chroeshalogi carcasau gerllaw yn ystod y broses o’u trin. Mae canlyniadau ymchwil wedi dangos po fwyaf budr yw’r croen, y mwyaf yw’r potensial i’r carcas gael ei halogi a bydd y risg i iechyd pobl yn uwch. Gallai crwyn gwlyb hefyd gynyddu’r risg oherwydd y gallai bacteria gael eu trosglwyddo’n haws.

Pan fyddant yn cyrraedd lladd-dai yn y DU, caiff anifeiliaid eu hasesu gan weithredwr y safle i bennu a ydynt yn ddigon glân i gael eu lladd. Rhaid i swyddog yr Asiantaeth Safonau Bwyd* gadarnhau bod gweithredwr y lladd-dy yn cynnal safonau glendid derbyniol wrth ddidoli gwartheg fel na pheryglir diogelwch cig.

Efallai y bydd angen i'r gweithredwr gadw anifeiliaid budr yn y llociau er mwyn eu glanhau, a gallai hyn olygu costau ychwanegol ar gyfer cynhyrchwyr a gweithredwyr lladd-dai. Mae sicrhau bod gwartheg yn lân pan gânt eu cyflwyno iʼw lladd er budd y cynhyrchwyr aʼr gweithredwyr lladd-dai. Mae Atodiad 1 yn rhoi manylion y ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i dda byw glân sy’n cael eu lladd ac mae’n gywir adeg ei gyhoeddi.

Peryglon diogelwch bwyd

Gall  E. coli O157 a bacteria niweidiol eraill fel Salmonela a Campylobacter fyw yn llwybr traul gwartheg heb achosi salwch iddynt, a gallant gael eu gollwng yn eu tail. Nid oes modd i ffermwyr na’u milfeddygon weld bacteria niweidiol yn cael eu cario gan fuchesi neu ddiadelloedd. Mae E. coli O157 yn un math penodol o E. coli sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, oherwydd y gall niferoedd bach iawn achosi clefydau difrifol, marwol hyd yn oed, ymhlith pobl.

*Yng Ngogledd Iwerddon caiff gwaith goruchwylio a gorfodi mewn Safleoedd Cymeradwy eu cyflawni gan Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd.