Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Gwartheg cig eidion glân i’w lladd: Canllaw i gynhyrchwyr

Pa mor lân yw fy ngwartheg?

Bydd penderfyniadau gweithredwyr o ran glendid yn cynnwys asesu faint o dail a baw sy’n bresennol yn ogystal â pha mor wlyb yw’r croen.

Bydd penderfyniadau gweithredwyr o ran glendid yn cynnwys asesu faint o dail a baw sy’n bresennol yn ogystal â pha mor wlyb yw’r croen.

Gellir defnyddio system o ddidoli anifeiliaid i gategorïau gwahanol er mwyn gwerthuso a oes modd i’r anifeiliaid symud ymlaen i gael eu lladd. Mae Atodiad 2 yn dangos enghreifftiau o wartheg yr aseswyd eu bod yn ddigon glân i symud ymlaen i’w lladd a gwartheg sy’n rhy fudr, yn enwedig os ydynt yn wlyb, i gael eu lladd. Mae’r enghreifftiau hyn yn darparu canllawiau ar gyfer y lefelau o lendid gwartheg a ddisgwylir pan fyddant yn cyrraedd y lladd-dy.

Maeʼn bosibl y bydd angen i unrhyw anifeiliaid nad ydynt yn bodloni gofynion sylfaenol y lladd-dy o ran glendid gael eu cadw yn y llociau gan y gweithredwr er mwyn iddynt sychu ac o bosibl byddant angen eu tocio neu dderbyn triniaeth arall cyn iddynt gael eu lladd. Mae posibilrwydd hefyd y bydd y gwartheg yn cael eu gwrthod.

Mae amser ychwanegol a dreulir yn y llociau, tocio, lleihau cyflymder y llinell a gwrthod anifeiliaid i gyd yn golygu costau ychwanegol i gynhyrchwyr a gweithredwyr. Felly mae er lles pawb i sicrhau bod gwartheg yn lân pan gânt eu cyflwyno iʼw lladd.