Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Gwartheg cig eidion glân i’w lladd: Canllaw i gynhyrchwyr

Paratoi gwartheg i'w lladd

Canllawiau ar baratoi gwartheg i’w lladd.

Yn amlwg, dylid anelu at atal anifeiliaid rhag mynd yn fudr yn y lle cyntaf, ond gallai rhywfaint o lanhau fod yn angenrheidiol cyn lladd (cyfeiriwch at Atodiad 1 ar gyfer y Rheoliadau).

Mae nifer y gwartheg budr a gyflwynir i ladd-dai yn y DU yn gostwng o fis Mawrth ymlaen, gan fod gwartheg yn colli eu cotiau gaeaf ac unrhyw faw y maent yn eu cario’n naturiol. Fodd bynnag, ceir rhai bridiau cynhenid Prydeinig sy’n tueddu i beidio â cholli cotiau hir y gaeaf mor fuan â gwartheg eraill, ac felly maent yn fwy tebygol o fod angen sylw cyn eu lladd.

Ar gyfer gwartheg sy’n cael eu pesgi ar silwair, gwreiddiau, grawn bragu ac yn y blaen, ystyriwch newid i ddogn mwy sych, er enghraifft, dogn seiliedig ar rawnfwyd, wrth i wartheg ddod at gyflwr wedi pesgi. Archwiliwch bob anifail yn rheolaidd wrth eu pesgi a chyn iddynt adael y fferm, gan ddefnyddio’r enghreifftiau yn Atodiad 2.

Efallai y bydd angen tocio, neu gallai gwartheg lanhau eu hunain yn ddigonol os cânt eu symud o “iard farchnata” sy’n cynnwys gwellt gwely digonol. Mae ymchwil wedi dangos bod gwartheg sy’n cael eu bwydo ar wellt a dŵr yn unig, am hyd at 36 awr cyn eu cludo i’w lladd, yn dioddef o lai o achosion o halogi â thail yn ystod y cludo. Mae rhai manwerthwyr yn mynnu’r dull hwn o fwydo bellach. Ni ddylid ymestyn y cyfnod hwn gan nad oes unrhyw fudd ychwanegol i gynyddu’r cyfnod o amser y tu hwnt i 48 awr.

Dylech osgoi golchi gwartheg wedi’u pesgi cyn eu lladd. Rhaid i’r croen fod yn gwbl sych cyn i’r anifail adael y fferm gan fod gwlybaniaeth mewn croen wedi cael ei gysylltu â lefelau uwch o facteria ar y croen. Peidiwch byth â defnyddio pibell ddŵr bwerus i lanhau gwartheg. Mae hyn yn achosi gofid i’r anifail ac yn debygol o achosi cleisio a gostwng gwerth y carcas.

  • dylid asesu glendid gwartheg i’w pesgi a chymryd camau priodol
  • dylid ystyried deiet pesgi
  • dylid defnyddio ‘iard farchnata’ sy’n cynnwys gwellt gwely (gweler isod)ar gyfer gwartheg budr
  • dylid sicrhau crwyn sych

Yr Iard Farchnata

Os bydd angen glanhau gwartheg cyn eu lladd, efallai y bydd angen eu symud i iard farchnata. Dylai iard farchnata ddarparu’r amodau gorau posibl i annog glendid gwartheg: cyflenwadau digonol o wellt gwely o ansawdd da a digon o le (gweler Atodiad 4).

Yn ddelfrydol, dylai amodau o’r fath fodoli yn y corlannau pesgi arferol. Gall anifeiliaid sydd yn wlyb neu ychydig yn fudr fod yn addas ar gyfer y farchnad o fewn diwrnod neu ddau. Ond os bydd gwartheg yn fudr iawn, efallai y bydd angen 3 i 4 wythnos i’w glanhau mewn iard gyda gwellt gwely digonol. Mae tystiolaeth yn dangos bod cymysgu grwpiau o anifeiliaid yn cynyddu’r risg o drosglwyddo halogiad, ac felly dylid gwneud cyn lleied â phosibl o hyn.

Mae ymchwil hefyd wedi dangos y gall bacteria oroesi'n dda mewn amgylchedd sy’n cynnwys da byw, felly, yn ddelfrydol, dylai’r ardal gael ei glanhau a’i diheintio cyn i grŵp newydd o anifeiliaid gael eu cyflwyno. Mae dylunio a rheoli beudai yn dda yn annog glendid ac mae hyn yn amlwg yn bwysig.

  • dylid sicrhau y caniateir digon o amser yn yr iard farchnata i anifeiliaid gael eu glanhau
  • dylid darparu digon o wellt gwely
  • dylid cadw gwartheg ar y dwysedd cywir o ran stoc
  • dylid darparu deiet addas – bydd newidiadau sydyn mewn deiet yn achosi anhwylder ar y stumog

Tocio gwartheg cyn eu lladd

Os bydd gwartheg yn parhau i fod yn fudr, efallai y bydd angen eu tocio cyn iddynt gael eu lladd, a hynny er mwyn eu glanhau. Ewch ati i gael gwared ar ormodedd o fudreddi drwy docio, yn enwedig ar y frisged, yr ochrau, y bol, y coesau, y pen-gliniau a chymalau’r forddwyd (rhannau lle y mae’r risg o drosglwyddo halogiad i’r carcas yn uchel).

Mae angen bod yn ofalus iawn wrth docio i osgoi achosi niwed i’r anifail neu i staff. Rhoddir canllawiau pellach ar gyfer tocio yn Nhaflen Wybodaeth Amaethyddol Rhif 35 yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) (Atodiad 5) a dylid ei darllen a’i deall cyn ymgymryd â gwaith tocio.    

  • defnyddiwch welleifiau a gedwir yn dda gyda chrib benodol i atal y croen rhag torri
  • gwisgwch ddillad amddiffynnol addas: het galed ac esgidiau gyda dur yn y blaen
  • defnyddiwch dorrwr cylched a pheidiwch â thocio gwartheg gwlyb
  • dylid ffrwyno gwartheg yn ddiogel mewn gwasgfa briodol – gweler Taflen Wybodaeth Rhif 35 yr HSE yn Atodiad 5
  • byddwch yn llonydd, yn dawel ac yn hyderus drwygydol y broses docio
  • dechreuwch docio ar ran lân o'r cefn, i’r anifail ddod yn gyfarwydd â sŵn a theimlad y gwelleifiau, cyn symud i’r bol a’r coesau
  • byddwch yn barod i docio anifeiliaid sy’n arbennig o fudr dros gyfnod o sawl diwrnod i osgoi achosi straen diangen i’r anifail