Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Gwartheg cig eidion glân i’w lladd: Canllaw i gynhyrchwyr

Atodiad 5: Gofynion deddfwriaethol ar gyfer lles gwartheg

Manylion a dolenni i’r gofynion deddfwriaethol sy’n ymwneud â lles gwartheg.

Mae Deddf Lles Anifeiliaid 2006 a Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Lloegr) 2007 (O.S. 2007 Rhif 2078)(troednodyn), yn ei gwneud yn drosedd i achosi neu ganiatáu poen neu drallod diangen.

Mae halogi’r croen â thail yn peryglu lles yr anifail trwy achosi niwed iʼr croen, poen a pheryglon haint. Yn ogystal, gall anifeiliaid sy'n cael eu cyflwyno mewn cyflwr budr gael eu llocio i’w glanhau. Gall y trin ychwanegol hwn achosi straen diangen i’r anifail.

Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Lloegr) 2007(footnote) yn ei gwneud yn ofynnol i dda byw gael cyflenwad digonol o ddŵr yfed ffres a bwyd bob dydd.

Rhaid i’r deiet fod yn iachus, yn addas ar gyfer y rhywogaeth, a rhaid bwydo’r anifail yn ddigonol i gynnal iechyd da a diwallu anghenion maeth.

Pan gedwir unrhyw dda byw, ac eithrio dofednod, mewn adeilad, rhaid iddynt gael eu cadw mewn ardal orwedd, neu gael mynediad bob amser iddi, sydd wedi’i draenio’n dda neu wedi’i chynnal a’i chadw'n dda gyda gwellt gwely sych (Cod Argymhellion ar gyfer Lles Da Byw – Gwartheg).

  • Rhaid bwydo anifeiliaid â deiet iachus sy’n briodol ar gyfer eu hoedran a’u rhywogaeth, a rhaid eu bwydo’n ddigonol i gynnal eu hiechyd da, bodloni eu hanghenion o ran maeth a hybu lles cadarnhaol.  
  • Rhaid i bob anifail naill ai gael mynediad at gyflenwad dŵr addas a chael cyflenwad digonol o ddŵr yfed ffres bob dydd neu allu bodloni ei anghenion o ran yfed digon drwy ddulliau eraill. Dylai fod digon o ddŵr ar gael i o leiaf 10% o wartheg dan do ei yfed ar unrhyw adeg.
  • Dylai anifeiliaid sy’n pori gael mynediad at nifer priodol o gafnau dŵr (rhaid iddynt fod yn ddigon mawr ac o’r dyluniad cywir) neu ryw ffynhonnell arall o ddŵr yfed y gall yr anifeiliaid ei defnyddio’n rhwydd lle bynnag y maent yn pori
  • Rhaid i offer bwydo a dyfrio gael eu dylunio, eu hadeiladu, eu gosod a’u cynnal fel bod halogiad bwyd a dŵr ac effeithiau niweidiol cystadleuaeth rhyngddynt yn cael eu lleihau i’r eithaf.
  • Dylid cadw pob tramwyfa goncrit mewn cyflwr da. Lle defnyddir lloriau delltog, dylech dalu sylw i’r math o slotiau, er mwyn sicrhau nad ydynt yn llithrig. Dim ond llociau slotiedig o faint sy’n addas ar gyfer yr anifail y cawsant eu dylunio ar ei gyfer y dylech eu defnyddio, a dylai rhan o’r llety fod yn gadarn gyda pheth deunydd gwely addas arall. 
  • Pan gedwir unrhyw anifeiliaid mewn adeilad, rhaid eu cadw mewn ardal orwedd, neu fod â mynediad iddi bob amser, sydd naill ai â gwellt gwely sych wedi’i gynnal a’i gadw’n dda neu sydd wedi’i ddraenio'n dda.
  • Dylid sicrhau bod cylchrediad aer, lefelau llwch, tymheredd, lleithder cymharol a chrynodiadau nwy o fewn terfynau nad ydynt yn niweidiol i’r anifeiliaid
  • Dylid cadw teirw sy’n cael eu magu i’w lladd mewn grwpiau bach – dim mwy nag 20 o anifeiliaid yn ddelfrydol. Fel rheol, ni ddylid ychwanegu teirw at grwpiau a ffurfiwyd eisoes, ac ni ddylid ychwaith ychwanegu un grŵp o deirw at grŵp arall i’w hanfon i’w lladd. Dylid cadw grwpiau o deirw yn ddigon pell oddi wrth wartheg benywaidd.
  • Dylid cynllunio’r cylchdro pori a defnyddio cynhyrchion meddyginiaethol neu frechlynnau effeithiol i reoli parasitiaid mewnol. Dylai anifeiliaid gael eu trin am barasitiaid yn unol â chyngor y milfeddyg