Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Gwartheg cig eidion glân i’w lladd: Canllaw i gynhyrchwyr

Atodiad 3: Diogelwch bwyd a HACCP

Diffiniad ac egwyddorion y system Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP).

Mewn system HACCP, nodir yr holl beryglon posib mewn perthynas â diogelwch bwyd ar bob cam o’r gadwyn gynhyrchu. Mae pwynt rheoli critigol yn bwynt, cam neu weithdrefn y mae’n rhaid ei reoli er mwyn atal, dileu neu leihau perygl bwyd i lefel dderbyniol. Er mwyn sicrhau diogelwch bwyd, caiff pob pwynt rheoli critigol ei fonitro i gadarnhau ei fod o fewn terfynau critigol.

Os oes perygl yr eir y tu hwnt i’r terfynau, rhaid cymryd camau unioni. Dylai’r dull systematig hwn, os caiff ei weithredu’n gywir, sicrhau bod bwyd yn cael ei gynhyrchu’n ddiogel. Dyma restru saith egwyddor y system HACCP:

  • cynnal dadansoddiad o beryglon a datblygu siartiau llif ar gyfer cynhyrchu
  • nodi’r pwyntiau rheoli critigol
  • pennu terfynau critigol – hynny yw, gosod lefelau targed y mae’n rhaid eu cyrraedd i sicrhau bod y pwynt rheoli critigol o dan reolaeth
  • sefydlu system i fonitro a yw’r pwynt rheoli critigol o dan reolaeth
  • sefydlu camau unioni i’w cymryd pan fydd gwaith monitro’n dangos nad yw pwynt rheoli critigol o dan reolaeth
  • sefydlu gweithdrefnau ar gyfer gwaith gwirio i gadarnhau bod y system HACCP yn gweithio’n gywir
  • sefydlu dogfennaeth/cofnodion ar gyfer yr holl weithdrefnau

Manteision defnyddio dull sy’n seiliedig ar HACCP:

  • gallu i fod yn rhagweithiol wrth nodi peryglon diogelwch bwyd cyn iddynt ddigwydd
  • gallu sicrhau diogelwch cynnyrch – hynny yw, gwartheg glân
  • nid yw’n ddinistriol
  • darparu tystiolaeth o ddiwydrwydd dyladwy
  • effeithiol o ran cost
  • sicrwydd diogelwch sy’n cynnwys yr holl staff