Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Gwartheg cig eidion glân i’w lladd: Canllaw i gynhyrchwyr

Cadw gwartheg yn lân yn ystod y broses o besgi

Mae deiet, beudai, iechyd gwartheg a'r tywydd yn effeithio’n arbennig ar lendid gwartheg

Mae deiet, beudai, iechyd gwartheg a'r tywydd yn effeithio’n arbennig ar lendid gwartheg.

Bydd defnyddio’r cyngor yn y llyfryn hwn o gymorth o ran cadw gwartheg yn lân i’w lladd a gall mabwysiadu ymagwedd sy’n nodweddiadol o Ddadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP) tuag at reoli a chynhyrchu gwartheg leihau’r risg o halogi ymhellach (gweler Atodiad 3 am ragor o wybodaeth ar HACCP).

Pesgi ar laswellt

Mae gwartheg a besgir ar laswellt yn gymharol lân, ond gall hafau gwlyb a phriddoedd trwm, a ddraenir yn wael, arwain at anifeiliaid mwdlyd, gwlyb. Mae heintiau sy’n ymwneud â llyngyr gastroberfeddol a phori glaswellt irlas, yn cynyddu’r risg o sgwrio a halogi gan dail. Mae defnyddio gormod o wrtaith nitrogen a gorfwydo mwynau hefyd yn achosi i wartheg fod yn rhydd ac yn fudr. Mewn tywydd gwael a phan fydd amodau tir yn wael, efallai y bydd angen cadw anifeiliaid dan do am gyfnod cyn eu lladd, i’w glanhau a’u sychu. Mae angen cymryd gofal i leihau’r risg o anhwylder ar y stumog a sgwrio o ganlyniad i newid mewn deiet a llety. Argymhellir darparu mynediad rhydd at wellt neu wair cyn ac ar ôl symud yr anifeiliaid dan do.

Dylid ystyried y canlynol wrth gynhyrchu a phesgi gwartheg cig eidion ar laswellt:

  • cynllunio rhaglen wrteithio briodol cyn troi’r gwartheg allan
  • cynllunio rhaglen briodol o reoli parasitiaid gyda’ch ymgynghorydd milfeddygol cyn troi’r gwartheg allan (sicrhewch eich bod yn cydymffurfio â chyfnodau diddyfnu yng nghyswllt cyffuriau gwrthlynghyrol)
  • darparu mynediad rhydd at wellt neu wair pan fo stoc yn pori ar borfa laswelltog, yn ystod cyfnodau hir o dywydd gwlyb a chyn ac ar ôl mynd â’r gwartheg dan do
  • symud porthwyr cylch a phorthwyr isel yn aml i osgoi sathru a lleidiogrwydd
  • trin diffygion penodol o ran mwynau a fitaminau y gwyddys eu bod yn digwydd yn eich buches gan osgoi cyflenwi ategion cyffredinol y rhoddir mynediad rhydd atynt 
  • cyflenwi magnesiwm i stoc sy’n agored i niwed yn ystod cyfnodau risg yn unig

Deiet

Deietau sy’n seiliedig ar silwair a gwreiddiau 

Deietau sy’n seiliedig ar silwair a gwreiddiau sy’n fwyaf tebygol o arwain at fudreddi gweledol gan eu bod yn achosi llawer iawn o dail gwlyb.

Mae silwair y gellir ei dreulio’n dda ac sy’n cynnwys protein yn ofynnol ar gyfer perfformiad cynhyrchu da, ond er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o wartheg budr, dylid gwneud y canlynol:

  • defnyddio maint priodol o wrtaith ar gaeau silwair, ac ni ddylid defnyddio gwrtaith o fewn chwe wythnos i’r dyddiad torri disgwyliedig
  • gwywo’r silwair yn dda pan fydd y tywydd yn caniatáu gwneud hynny
  • dadansoddi silwair cyn bwydo. Gallai hyn ganiatáu i chi glustnodi’r silwair mwyaf priodol ar gyfer grwpiau pesgi a lloi ifanc
  • defnyddio dadansoddiad i gydbwyso lefelau protein ac ynni’n gywir yn y dognau
  • rhoi mynediad rhydd i’r gwartheg at wellt o borthwr cylch neu gafn (nid o’r gwellt gwely yn unig). Fel arall, cynhwyswch wellt wedi’i dorri mewn wagen gymysgu
  • ychwanegu sodiwm bicarbonad at ddognau sy’n cynnwys silwair asidig
     

Deietau sy’n seiliedig ar wair

Mae deietau sy’n seiliedig ar wair yn cynhyrchu gwartheg cymharol lân ond yn anaml y byddant yn opsiwn ar gyfer anifeiliaid pesgi perfformiad uchel, oherwydd eu gwerth maethol isel.

Mae’r dognau hyn yn cynhyrchu swm bychan o dail sych ac felly bydd gwartheg yn edrych yn lân ar y cyfan. Fodd bynnag, gall problemau iechyd, gan gynnwys sgwrio, ddigwydd os caiff deiet grawnfwyd dwys ei gyflwyno neu ei newid yn rhy gyflym, os nad oes cydbwysedd maeth ynddo, os oes diffyg ffeibr hir yn y deiet, neu os yw’r grawnfwydydd wedi’u malu’n rhy fân.

  • sicrhewch fod y ddogn yn cynnwys cydbwysedd cywir o brotein, egni, mwynau a fitaminau
  • darparwch fynediad rhydd at wair o gafn neu borthwr cylch (nid o’r gwellt gwely yn unig)
  • defnyddiwch rawnfwydydd sydd wedi’u rholio’n ysgafn, nid wedi’u malu’n fân  

Ffactorau dietegol eraill

Mae gorfwydo mwynhau, yn arbennig magnesiwm a halen, yn cynyddu’r risg o halogi’r crwyn â thail drwy achosi sgwrio ysgafn a chynnydd o ran cynhyrchu wrin. Dylai mynediad at fwynau a halen gael ei gyfyngu gan fod gan wartheg dueddiad i fwyta mwy nac sydd ei angen arnynt. Mae trin grawn a gwellt gyda soda costig yn cynyddu bwyta gormod o halen a chynhyrchu mwy o wrin, a gall achosi sgwrio ysgafn, gan gynyddu’r risg o fudreddi.

Gall newidiadau sydyn mewn bwyd arwain at anhwylder ar y stumog, sgwrio, perfformiad gwartheg gwael a budreddi.

Dylech anelu at:

  • fwydo mwynau a grëir yn ôl y math o ddeiet ac ar lefelau sy’n briodol ar gyfer y math o stoc
  • osgoi rhoi cyflenwad rhydd o fwynau neu lyfleoedd halen
  • osgoi porthiannau sydd wedi’u trin â soda costig mewn dognau pesgi
  • gwneud newidiadau i ddeiet yn raddol bob amser

Cadw gwartheg dan do

Yn y DU, mae nifer y gwartheg budr a wrthodir adeg eu lladd yn uwch rhwng mis Hydref a mis Ebrill. Mae beudai a gaiff eu dylunio a’u rheoli’n wael yn ffactorau sy’n cyfrannu’n sylweddol at hyn. Mae’n anoddach cadw gwartheg yn lân mewn iardiau delltog nag mewn iardiau sy’n cynnwys gwellt gwely, ond gall system ddelltog a reolir yn dda gynhyrchu gwartheg glanach na iard wellt a reolir yn wael.

Dyluniad cyffredinol adeiladau

Mae awyru, draenio ac wynebwedd dda yn ystyriaethau pwysig ar gyfer adeilad da i wartheg. Gall lleithder ac anwedd mewn adeiladau lle ceir awyru gwael achosi gwartheg butrach. Mae lloriau anwastad, draenio gwael a thoeau, gwteri a chafnau dŵr sy’n gollwng hefyd yn achosi crwyn gwlyb a budr. Anelwch at sicrhau’r canlynol:

  • bod beudai wedi’u hawyru’n dda
  • bod lloriau concrid ar oleddf digonol i ganiatáu draenio digonol, a bod dŵr budr o’r mannau hyn yn cael ei waredu i atal llygredd
  • bod lloriau’n rhydd o dyllau, a bod toeau, gwteri a chafnau dŵr yn cael eu cynnal yn dda
  • bod cafnau bwyd wedi’u codi goruwch uchder gwelyau, neu osod bariau bwydo ar uchder addas uwchben y llawr, i osgoi llygru bwydydd gan dail
  • bod iardiau sy’n gwbl gaeedig wedi’u lleoli gyda’r echelin hydredol yn rhedeg o’r gogledd i’r de
  • bod iardiau a’u blaenau’n agored yn wynebu tua’r de neu’r de ddwyrain

Iardiau delltog

Gall cadw gormod o stoc a dim digon o stoc gyfyngu ar sathru tail trwy’r dellt gan arwain at fudreddi.

Dylai gwartheg bach gael eu cadw mewn gofod llai (tynnach) i ddechrau, gan roi mwy o le iddynt, yn ôl eu maint, wrth iddynt dyfu.

Pan fydd anifeiliaid yn cael eu symud i'w lladd, mae angen lleihau’r lle ar gyfer y gwartheg sy’n weddill. Gall fod yn bosibl cyfuno grwpiau o fustych neu heffrod, er y dylid osgoi eu cymysgu lle bo’n bosibl, yn enwedig mewn grwpiau sy’n agos at gael eu lladd.

Ar gyfer teirw, dylid lleihau maint y gorlan gan ddefnyddio gatiau symudol. Ni ddylid cymysgu anifeiliaid sy’n anghyfarwydd â’i gilydd, yn enwedig grwpiau o deirw, oherwydd yr aflonyddwch a’r ymddygiad ymosodol a achosir gan hyn, a fydd yn achosi budreddi yn ogystal â gostyngiad mewn perfformiad a mwy o risg o gael anaf.

Mae faint o le a roddir ar gyfer bwydo hefyd yn ystyriaeth.

Pan ddarperir dogn sefydlog i wartheg, dylai lle digonol wrth y porthwr fod ar gael i bob anifail ar unrhyw adeg, a gallai hyn atal y gyfradd stoc gywir rhag cael ei chyflawni. Nid yw anifeiliaid sy’n bwyta DG OLELWXP angen cymaint o le ar gyfer bwydo (lleiafswm o 50% ar unrhyw adeg benodol). Nodir cyfraddau stoc a’r lle bwydo gorau posib yn Atodiad 4.

Anelwch at gyflawni’r canlynol:

  • cyfraddau stoc sy’n briodol ar gyfer maint y gwartheg
  • storio slyri a system wacau aml sy’n ddigonol i atal dellt rhag blocio
  • ardaloedd o lawr solet naill ben i’r dellt ar oleddf i leihau’r risg o dail yn casglu
  • defnyddio offer yfed o dethi yn hytrach na chafnau dŵr gan eu bod yn lleihau ardaloedd a gaiff eu rhwystro lle y gall tail gasglu
  • rheiliau gwaelod gatiau a rhaniadau corlannau sydd 200-250mm uwchlaw’r llawr
  • symud gwartheg i “iard farchnata” sy’n cynnwys gwellt gwely wrth iddynt agosáu at gyflwr sydd wedi pesgi os bydd angen eu glanhau
  • peidio â chymysgu anifeiliaid o grwpiau gwahanol
  • cymysgu cyn lleied â phosibl tua diwedd y broses o besgi

Iardiau sy’n cynnwys gwellt gwely

Mae gormod o stoc, dim digon o wellt gwely neu daenu gwellt dan draed yn anaml ymhlith y prif resymau dros fudreddi mewn iardiau sy’n cynnwys gwellt gwely.

Ni fydd darparu mwy o wellt yn gwneud iawn am gadw gormod o stoc. Bydd peiriannau malu gwellt yn darparu gwellt gwastad yn gyflym, ond dangosodd ymchwil fod rhaid defnyddio digon o wellt os yw anifeiliaid am gael eu cadw’n lân.

Gellir ystyried sglodion pren mawr yn hytrach na gwellt fel gwelyau ar gyfer gwartheg sy’n cael eu pesgi. Mae anifeiliaid yn tueddu i ymgarthu a throethi’n amlach yn yr ardal gadw/bwydo sy’n aml yn mynd yn wlyb a budr iawn mewn iardiau sydd â gwellt ar lawr ym mhob man. Felly mae'n well darparu safle concrid clir sy’n hawdd ei gadw’n lân.

Anelwch at gyflawni’r canlynol:

  • digon o le ar gyfer maint a nifer y gwartheg. Nodir y meintiau gorau yn Atodiad 4
  • ychwanegu gwellt gwely digonol yn rheolaidd gan roi digon o wellt i sicrhau glendid
  • ardal gadw/bwydo lân a chrafu rheolaidd
  • gwellt gwely wedi'i storio dan orchudd, wedi’i lapio neu ei orchuddio’n dda â phlastig a’i gadw ar safle sy’n draenio’n rhydd

Cadw mewn cuddyglau

Nid yw cuddyglau’n cael eu hargymell ar gyfer gwartheg sy’n tyfu ac i’w pesgi gan fod angen cynyddu maint y cuddygl wrth i’r anifail dyfu. Os yw cuddyglau’n rhy fach, mae gwartheg yn tueddu i orwedd mewn tramwyfeydd budr tra bo cuddyglau sy’n rhy fawr yn galluogi anifeiliaid i ymgarthu ar y gwely. Mae'r ddwy broblem yn arwain at fudreddi.

Iechyd gwartheg 

Mae unrhyw salwch neu anhwylder sy’n achosi sgwrio’n cynyddu’r risg o grwyn budr. Mae anifeiliaid chwyslyd hefyd yn mynd yn fudr yn haws. Yn ogystal, mae unrhyw salwch yn lleihau gallu cyffredinol yr anifail i wrthsefyll clefydau; felly mae gwartheg sâl yn fwy tueddol o gael haint arall, er enghraifft E. coli a Salmonela.

O’r herwydd, mae rheolaeth dda dros iechyd buches yn gyffredinol yn bwysig o ran lleihau’r risg i wartheg gario organebau pathogenaidd ar adeg eu lladd, a allai arwain at wenwyn bwyd mewn pobl.   

Dylai cynllun iechyd ataliol cyffredinol da ar fferm gynnwys:

  • deiet cytbwys
  • atal coccidiosis a salmonelosis drwy hylendid da a defnydd priodol o feddyginiaeth filfeddygol
  • trin llyngyr yn briodol mewn beudai i atal ostertagiasis dros y gaeaf (mae rhaid i gyffuriau i gael gwared ar lyngyr fel ivermectin hefyd reoli parasitiaid allanol)
  • atal diffyg copr – un o achosion cyffredin sgwrio
  • cyflenwad priodol o atchwanegiadau  mwynau/fitaminau priodol sydd wedi’u cydbwyso’n gywir
  • atal niwmonia
  • hylendid cyffredinol a hwsmona da

Tocio gwartheg pan gânt eu cadw dan do

Mae tocio cefnau gwartheg pesgi yn y beudai (tua 5cm bob ochr i’r asgwrn cefn) yn helpu i leihau chwysu a’r risg o grwyn gwlyb a budr. Dylid tocio cynffonau yn y beudy i osgoi baw rhag cael ei fflicio dros y croen.

Os oes agen tocio blew budr ar fol ac ochrau gwartheg, dylid aros nes bod yr anifail yn barod i’w ladd cyn tocio. Mae anifeiliaid a aiff i’r farchnad o fis Mawrth ymlaen yn debygol o fwrw unrhyw flew hir ac unrhyw faw sy’n glynu wrtho, yn naturiol.

Dangoswyd bod tocio’n cael gwared ar faw gweladwy cyn lladd, ond gall tocio’r rhannau hyn ynghynt olygu y gall baw wedyn lynu wrth y croen lle y bydd yn anos ei lacio. Mae angen bod yn ofalus iawn wrth docio i atal anafu staff neu anifeiliaid y fferm, ac ni ddylid gwneud hyn oni bai bod cyfleusterau ac offer digonol ar gael.

Mae Taflen Wybodaeth Amaethyddol Rhif 35 yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn amlinellu ymarfer diogel o ran tocio. Gweler Atodiad 5.

  • ni ddylid tocio yn y beudy ond pan fo angen atal anifeiliaid rhag chwysu (5cm bob ochr i’r asgwrn cefn)
  • dylai tocio i lanhau ar gyfer lladd gael ei wneud cyn agosed at y dyddiad lladd ag sydd bosib
  • dylid cadw cynffonau’n fyr