Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Gwartheg cig eidion glân i’w lladd: Canllaw i gynhyrchwyr

Glanhau gwartheg ar ôl eu lladd

Canllawiau ar gyfer glanhau gwartheg ar ôl eu lladd.

Gellir tocio gwartheg neu ddefnyddio dulliau glanhau eraill ar ôl lladd, yn y lladd-dy ar yr amod y gall y gweithredwr ddangos bod y dull o docio neu lanhau yn rheoli yn effeithiol unrhyw risgiau diogelwch bwyd a allai godi.

Mae hyn yn golygu, er enghraifft, reoli’r risg o’r blew a’r baw a allai syrthio wrth gwblhau’r weithred, a sicrhau bod croen wedi ei docio neu ei lanhau yn ddigon glân fel na chaiff y carcas ei halogi’n annerbyniol wrth ei drin.

Cludo gwartheg sydd wedi eu pesgi

Dylid glanhau a diheintio cerbydau rhwng llwythi i atal bacteria a chlefydau rhag goroesi yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth gyfredol, fel Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Lloegr) (Rhif 3) 2003, a’r Gorchymyn Rheoli Clefydau perthnasol.

Mae rheoliadau cyfatebol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon yn berthnasol. Dylai ffermwyr a chludwyr gysylltu â swyddfa leol yr Adran Amaethyddiaeth am gyngor ar reoliadau bioddiogelwch cyfredol. Dylai cyfraddau stoc ddilyn argymhellion Rheoliad y Cyngor (CE) a Gymathwyd 1/2005, Atodiad 1, Pennod VII a chaniatáu i rai anifeiliaid orwedd i lawr yn ddiogel. Dylid defnyddio rhaniadau, lle bo’n briodol, i atal anafiadau o ganlyniad i beidio â chludo digon o stoc.

Dylid darparu gwellt gwely digonol fel gwellt ffres glân. Dylid osgoi blawd llif gan ei fod yn glynu wrth grwyn, a gallai achosi problemau pan gaiff carcas yr anifail ei drin.

Dylai amser a phellter y daith fod yn unol â gofynion Rheoliad a Gymathwyd (CE) Rhif 1/2005 ar ddiogelu anifeiliaid wrth eu cludo a gweithrediadau cysylltiedig.

* Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003Cludo Anifeiliaid a Dofednod (Gorchymyn Glanhau a Diheintio (Gogledd Iwerddon) 2007. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd cyfraith yr UE yn parhau i fod yn berthnasol, fel y rhestrir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon.