Hylendid llaeth a gweddillion gwrthfiotig
Canllawiau ar gyfer cynhyrchwyr llaeth ar safonau hylendid a phrofi llaeth am weddillion gwrthfiotig.
Mae deddfwriaeth hylendid bwyd yn nodi dyletswydd busnesau bwyd i gynhyrchu bwyd yn ddiogel.
Canllawiau ar gyfer cynhyrchwyr llaeth
Mae ein canllawiau ar gyfer cynhyrchwyr llaeth yn helpu cynhyrchwyr llaeth i gyflawni'r safonau hylendid sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth, fel y maent yn berthnasol i ddaliadau cynhyrchu llaeth.
Maent yn cynnwys:
- gwybodaeth am eich rhwymedigaethau cyfreithiol
- canllawiau ar arfer da
- Dyddiadur Cynnyrch Llaeth i'ch helpu i gofnodi a chynnal cofnodion effeithiol
England, Northern Ireland and Wales
Profi llaeth am weddillion gwrthfiotig
Mae'n rhaid i gynhyrchwyr llaeth sicrhau nad yw llaeth amrwd o anifeiliaid sy'n cael eu trin â gwrthfiotigau neu yn y cyfnod cadw'n ôl yn mynd i mewn i'r gadwyn fwyd.
Rhaid i fusnesau bwyd brofi llaeth am wrthfiotigau ar wahanol bwyntiau yn y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys ar y fferm. Os canfyddir fod llaeth yn cynnwys gweddillion gwrthfiotig yn uwch na'r uchfaswm gweddillion a ganiateir, mae'n rhaid i fusnesau bwyd gychwyn gweithdrefnau i sicrhau nad yw llaeth amrwd yn cael ei roi ar y farchnad.
Mae ein canllawiau ar brofi llaeth am weddillion gwrthfiotig yn egluro:
- gofynion cyfreithiol
- beth mae methu prawf sgrinio gwrthfiotigau yn ei olygu a pha gamau y mae gofyn eu cymryd
- pwy y dylid eu hysbysu os oes prawf yn methu
England, Northern Ireland and Wales