Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Os oes gennych unrhyw bryderon neu wybodaeth yn ymwneud â thwyll neu droseddoldeb mewn cadwyni cyflenwi bwyd, neu os ydych yn dymuno chwythu’r chwiban ynghylch busnes bwyd yr ydych yn gweithio iddo, ffoniwch linell gymorth Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol ar 0207 276 8787 (9am i 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener) neu rhowch wybod drwy ein gwasanaeth ar-lein.

Llaeth yfed amrwd

Gwybodaeth i unrhyw un sy'n ystyried neu sydd eisoes yn yfed llaeth amrwd neu gynhyrchion wedi'u gwneud o laeth amrwd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Mawrth 2020
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Mawrth 2020
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae'r rhan fwyaf o'r llaeth rydym ni'n ei yfed yn y Deyrnas Unedig yn cael ei drin â gwres er mwyn lladd bacteria niweidiol. Nid yw llaeth amrwd yn cael ei drin fel hyn – mae'n mynd yn syth o'r fuwch i'r botel. 

Gall llaeth yfed amrwd ddod o: 

  • wartheg
  • defaid
  • geifr 
  • byfflos

Ein cyngor ar laeth a hufen yfed amrwd

Rydym ni'n cynghori y gall llaeth a hufen amrwd neu heb ei basteureiddio gynnwys bacteria niweidiol sy'n achosi gwenwyn bwyd. Mae pobl sydd â system imiwnedd wannach yn arbennig o agored i wenwyn bwyd ac ni ddylen nhw ei yfed. 

Mae'r bobl hyn yn cynnwys:

  • menywod beichiog
  • babanod a phlant bach
  • pobl hŷn
  • pobl â system imiwnedd wannach na'r arfer fel cleifion canser

Llaeth yfed amrwd a'r gyfraith

Mae gwerthu llaeth a hufen yfed amrwd yn gyfreithlon yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Dim ond drwy'r dulliau canlynol y gellir ei werthu yn uniongyrchol i'r defnyddiwr:

  • ffermydd cynhyrchu llaeth cofrestredig ar gât y fferm neu drwy fusnes arlwyo yn y ffermdy
  • ffermwyr mewn marchnadoedd ffermwyr
  • dosbarthwyr sy'n defnyddio cerbyd fel siop, fel rownd laeth
  • ar-lein yn uniongyrchol
  • peiriannau gwerthu ar y fferm

Mae'n anghyfreithlon gwerthu llaeth a hufen amrwd mewn unrhyw leoliad arall.

Mae gwerthu llaeth a hufen amrwd wedi cael ei wahardd yn gyfan gwbl yn yr Alban.

Sut rydym ni'n diogelu pobl sy'n dewis yfed llaeth amrwd

Mae rheoliadau hylendid ar waith i ddiogelu defnyddwyr. Mae'n rhaid i laeth yfed amrwd sydd ar werth:

  • ddod o fuches sy'n iach ac yn rhydd rhag brwselosis a thwbercwlosis
  • dod o fferm sy'n cydymffurfio â rheolau hylendid ac sy'n cael ei harolygu ddwywaith y flwyddyn
  • fod â label arno gyda'r rhybudd iechyd priodol

Mae ein harolygwyr hefyd yn cynnal rhaglen samplu a dilysu ar gyfer llaeth yfed amrwd. Caiff profion eu cynnal ar ran yr ASB gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr.

Rydym ni'n adolygu'r rheolaethau ar laeth a hufen yfed amrwd yn rheolaidd. Rydym ni am gefnogi dewis defnyddwyr ond mae'n rhaid i ni gydbwyso hyn ochr yn ochr â diogelu iechyd y cyhoedd.