Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Lles anifeiliaid

Rydym ni'n cynnal gwiriadau rheolaidd ar ladd-dai yn y Deyrnas Unedig (DU), er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'n rheoliadau sy'n cynnal lles anifeiliaid.

Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Rhagfyr 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Rhagfyr 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau

Rôl yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wrth reoleiddio lles anifeiliaid 

Mae'r ASB yn gyfrifol am gymeradwyo pob lladd-dy yng Nghymru ac yn Lloegr, a gweithredu rheolaethau swyddogol mewn sefydliadau cig cymeradwy (lladd-dai, ffatrïoedd torri a sefydliadau trin helgig) sy'n ddarostyngedig i reolaethau milfeddygol yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon.

Mae'r ASB yn monitro ac yn gorfodi cydymffurfiaeth lles mewn lladd-dai cymeradwy ar ran Llywodraeth Cymru yng Nghymru ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn Lloegr trwy Gytundeb Lefel Gwasanaeth. Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud i'r ASB gan yr Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) trwy Gytundeb Lefel Gwasanaeth.

Mae rôl yr ASB yn canolbwyntio ar sicrhau bod y busnesau hynny'n cydymffurfio â'r holl ofynion penodol mewn deddfwriaeth hylendid a lles anifeiliaid.

Mae'r gofynion hyn yn cael eu monitro a'u gorfodi gan Filfeddygon Swyddogol yr ASB i sicrhau bod anifeiliaid yn osgoi unrhyw ddioddefaint, trallod neu boen yn ystod y broses ladd. Mae gan yr ASB ddull dim goddefgarwch tuag at achosion o dorri rheolau lles anifeiliaid a chyfarwyddir bob aelod o staff i gymryd camau gorfodi prydlon a chymesur pan nodir achosion o’r fath.

Cyfrifoldeb am les anifeiliaid

Gweithredwyr busnesau sy’n gyfrifol am les anifeiliaid a diogelwch bwyd mewn lladd-dai a nhw sydd hefyd yn gyfrifol am sicrhau iechyd a lles anifeiliaid sydd dan eu gofal.

Mae'r cyfrifoldeb a'r gofynion hyn wedi'u nodi yn y canllawiau ar reoliadau Lles Anifeiliaid adeg eu Lladd.

Rhaid i unigolion sy’n rhan o’r broses ladd a gweithrediadau cysylltiedig gael eu hyfforddi a'u trwyddedu'n briodol. Rhaid bod ganddyn nhw gymhwyster hyfedredd (proficiency) cyn gallu gwneud cais am Dystysgrif Cymhwysedd.

Mae angen trwydded Tystysgrif Cymhwysedd i ladd anifeiliaid mewn lladd-dy. Yr ASB sy’n dyfarnu’r drwydded ar ran Defra a Llywodraeth Cymru.

Mae’r Cymhwyster Bwyd a Diod (FDQ) yn cymeradwyo busnesau bwyd a darparwyr dysgu i gyflenwi ac asesu cymwysterau hyfedredd, yn ogystal â darparu hyfforddiant cymeradwy ar gyfer Tystysgrifau Cymhwysedd. Gallant ddarparu rhagor o wybodaeth i staff sy’n gweithredu busnesau er mwyn cwblhau'r cymhwyster gofynnol.

Gwiriadau lles yr ASB

Mae Milfeddygon Swyddogol yn cynnal gwiriadau i sicrhau nad oes unrhyw faterion yn ymwneud â lles yr anifeiliaid a gyflwynir i'w lladd.

Gall hyn ddigwydd:

  • pan fydd yr anifeiliaid ar y fferm
  • wrth eu cludo
  • pan fydd yr anifeiliaid yn cyrraedd y lladd-dy
  • hyd at y pwynt lladd

Mae'r gwiriadau hyn yn cynnwys sicrhau bod gan weithredwr y busnes weithdrefnau priodol ar waith i ddiogelu lles anifeiliaid. Mae arolygwyr hylendid cig yn eu cefnogi gyda'r dyletswyddau hyn.

Er mwyn lleihau risg bod anifeiliaid yn dioddef yn ystod y broses, mae ein staff gweithredol yn gwirio:

  • dadlwytho a thrin yr anifeiliaid
  • lle cânt eu cadw cyn eu lladd
  • sut mae anifeiliaid yn cael eu hatal a’u trin
  • lleoliad yr offer stynio
  • effeithiolrwydd y stynio a'r gwaedu

Mae hyn yn cynnwys monitro lladd drwy ddulliau crefyddol gan gynnwys cyfleusterau atal arbennig a all fod yn eu lle at y diben hwn.

Yng Nghymru, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i orfodi deddfwriaeth lles anifeiliaid.

Yn Lloegr, rydym yn gorfodi deddfwriaeth ar gyfer lles anifeiliaid adeg eu lladd. Gwneir hyn gyda Defra yn Lloegr.

Mae'r Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn gorfodi deddfwriaeth lles anifeiliaid ar gyfer lles anifeiliaid yng Ngogledd Iwerddon.

Defnydd gorfodol o deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai 

Daeth rheoliadau ar ddefnydd gorfodol o deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yn Lloegr i rym ym mis Mai 2018. Mae’n rhaid i weithredwr busnes: 

  • osod offer teledu cylch cyfyng yn ei ladd-dy
  • cadw delweddau teledu cylch cyfyng am 90 diwrnod
  • sicrhau bod y delweddau ar gael i'n harolygwyr

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddeddfwriaeth sy'n gofyn am deledu cylch cyfyng gorfodol yng Nghymru

Canllawiau

Canllawiau i weithredwyr busnesau ar sut i gydymffurfio â'r rheoliadau teledu cylch cyfyng

Manylion y rheoliadau

Rhaid i offer teledu cylch cyfyng ddangos y lladd a gweithrediadau cysylltiedig yn glir ac yn llawn ym mhob rhan o'r lladd-dy lle mae anifeiliaid byw yn bresennol, megis ardaloedd lle maent yn cael eu dadlwytho, eu cadw, eu trin, eu stynio a'u lladd, hyd at y pwynt lle mae'r asesiad ar gyfer absenoldeb bywyd yn cael ei wneud.

Dylai lluniau fod yn ddigon eglur i unigolion a gweithrediadau gael eu nodi. Dylai'r gyfradd ffrâm gofnodi symudiad parhaus.

Rhaid i'r holl offer teledu cylch cyfyng sydd wedi'u gosod yn barod fodloni'r un gofynion yn y rheoliadau ag offer sy’n cael ei osod yn newydd.

Rhaid i fusnesau gadw recordiadau teledu cylch cyfyng am o leiaf 90 diwrnod. 

Lladd-dai newydd

Rhaid i ladd-dai newydd fodloni holl ofynion y rheoliadau a chânt eu hasesu yn ystod eu cais am gymeradwyaeth i weithredu.

Mynediad i'r offer Teledu Cylch Cyfyng a’r recordiadau

Rhaid i ladd-dai roi mynediad i arolygwyr yr ASB i'w cyfleusterau teledu cylch cyfyng a'u recordiadau fel y gallant gynnal gwaith monitro effeithiol a gwirio safonau lles anifeiliaid. Defnyddir teledu cylch cyfyng fel adnodd ychwanegol; nid yw'n disodli arsylwadau swyddogol ymarferol uniongyrchol.

Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i fusnesau na'u cynrychiolwyr fod yn bresennol pan adolygir recordiadau. Gall gweithredwyr busnesau benderfynu cael aelod o staff yn bresennol pan fydd recordiad yn cael ei wylio neu ei gopïo, neu pan fydd offer yn cael ei atafael.

Gorfodi 

Gall ein harolygwyr gyhoeddi rhybudd gorfodi os yw gweithredwyr busnesau yn torri'r rheoliadau teledu cylch cyfyng.

Mae'n drosedd os nad yw gweithredwyr busnesau:

  • yn defnyddio offer teledu cylch cyfyng sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau teledu cylch cyfyng
  • yn cadw delweddau am 90 diwrnod o'r dyddiad a gymerwyd
  • yn sicrhau bod delweddau teledu cylch cyfyng ar gael i arolygwyr eu gwylio, eu copïo a’u hatafael
  • yn cydymffurfio â rhybudd gorfodi

Diogelu data

Gweithredwr busnes yw rheolydd y data a bydd angen iddo gydymffurfio â gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Os bydd ein harolygwyr yn copïo neu'n atafael recordiad teledu cylch cyfyng, bydd yr ASB yn dod yn rheolydd y data ar gyfer y gyfran honno o'r recordiad a bydd angen iddi hefyd gydymffurfio â gofynion GDPR. Bydd y recordiad yn cael ei ddychwelyd i weithredwr y busnes cyn gynted ag sy'n ymarferol pan benderfynir nad oes ei angen mwyach ar gyfer ymchwiliadau neu achos llys.

Data Lles Anifeiliaid – ein gwiriadau

Cymru a Lloegr

Rydym ni wedi cyhoeddi setiau Data Agored newydd mewn perthynas â chamau gorfodi ym maes lles anifeiliaid a chydymffurfio â lles anifeiliaid fel cyfran o’r trwybwn. Mae tair set ddata a dyma’r dolenni:

Mae’r set ddata o ddiffyg cydymffurfio yn dangos nifer y digwyddiadau a arweiniodd at gamau gorfodi yng Nghymru a Lloegr ym mhob ardal o’r lladd-dai, yn ogystal â nifer a natur yr achosion o ddiffyg cydymffurfio yr aseswyd eu bod wedi digwydd naill ai ar y fferm neu wrth gludo, ac wedi’u rhannu â’r awdurdod cymwys.

Mae’r setiau data cydymffurfio yn cymharu nifer yr anifeiliaid, fesul rhywogaeth, sydd wedi dioddef neu brofi trallod fel y’u cofnodwyd yn y data diffyg cydymffurfio. Gwneir hyn yn erbyn y cyfanswm sydd naill ai’n cydymffurfio (ar y fferm ac wrth gludo) neu sydd wedi’i brosesu i gydymffurfio (lladd-dai) â deddfwriaeth lles anifeiliaid berthnasol.

Yn hanesyddol, rydym ni wedi canolbwyntio ar les anifeiliaid o bersbectif gorfodi/diffyg cydymffurfio; fodd bynnag, rydym bellach yn cyhoeddi safbwynt mwy cytbwys.

Rydym ni wedi cynhyrchu dogfennau ategol a fydd yn cael eu cyhoeddi ynghyd â’r Data Agored. Mae'r canllawiau hyn yn ymdrin â chefndir y data, deall yr hierarchaeth ym maes gorfodi, a sut y caiff sgoriau eu dyrannu.

Arolwg cenedlaethol

Mae'r ASB wedi cynnal nifer o arolygon ar ran Defra a Llywodraeth Cymru.

Cynhaliwyd arolygon lles anifeiliaid wythnos o hyd mewn lladd-dai yn 2011, 2013, 2015 a 2018 i roi sicrwydd bod:

  • gweithredwyr busnesau bwyd yn cymryd camau gweithredol i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol a chyflawni safonau lles angenrheidiol anifeiliaid
  • Milfeddygon Swyddogol a thimau rheng flaen yn cyflawni eu rolau'n effeithiol, gyda monitro priodol a chymryd camau gorfodi perthnasol pe bai gweithredwr busnes bwyd yn methu â chydymffurfio

Mae canlyniadau arolygon lles anifeiliaid a gynhaliwyd yn 2011, yn 2013 ac yn 2015 ar gael yn yr archifau cenedlaethol a'r dualen we: Anifeiliaid fferm: data o'r arolwg o ddulliau lladd 2015 

Cyhoeddwyd canlyniadau arolwg lles anifeiliaid 2018 gan Defra