page
    
    
      
  
      
            Tystysgrif iechyd ar gyfer anifeiliaid hela sy'n cael eu ffermio
Mae'n rhaid i unrhyw weithredwr busnes bwyd sy'n ffermio anifeiliaid hela gydymffurfio â'r canllawiau a nodir ar y dudalen hon.
Rhaid i'r gweithredwr busnes bwyd neu'r ffermwr lenwi tystysgrif iechyd i ardystio:
- gwybodaeth am yr anifail
 - dyddiad ac amser y lladd
 - anifeiliaid hela/ratidau wedi'u ffermio sydd wedi'u lladd a'u gwaedu'n gywir
 
Mae'r wybodaeth hon yn ofynnol fel rhan o'r dull gadwyn gyfan a fferm-i-fforc o sicrhau diogelwch bwyd. Mae'n ofynnol o dan y Rheoliad Hylendid sy'n nodi'r rheolau hylendid ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid.
Mae'r wybodaeth yn y dystysgrif enghreifftiol yn dwyn ynghyd y pethau hyn:
- canlyniadau tystysgrif yr archwiliad ante-mortem
 - gwybodaeth am y gadwyn fwyd
 - ardystiad bod ratidau ac anifeiliaid hela wedi'u ffermio wedi'u lladd a'u gwaedu'n gywir
 - cadarnhad o ddyddiad ac amser y lladd
 
Tystysgrif iechyd ar gyfer anifeiliaid hela wedi'u ffermio
England, Northern Ireland and Wales