Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mewnforio diodydd

Penodol i Gymru a Lloegr

Canllawiau ar drwyddedu, labelu, deunydd pecynnu a diogelwch cemegol wrth fewnforio diodydd.

Rhaid i ddiodydd nad ydynt yn cynnwys cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a gaiff eu mewnforio o drydydd gwledydd fodloni'r un safonau a gweithdrefnau hylendid a chyfansoddiad bwyd, neu rai cyfwerth, â bwyd a gynhyrchir ym Mhrydain Fawr. Fel arfer, nid oes angen tystysgrif iechyd arnoch chi i fewnforio diodydd o'r fath.

Mae rheolau llymach yn berthnasol i fewnforio diodydd sydd wedi'u gwneud o gynhyrchion anifeiliaid o wledydd y tu allan i Brydain Fawr. Mae'n rhaid iddynt ddod o sefydliadau sydd wedi'u cymeradwyo i safonau Prydain Fawr. Mae enghreifftiau yn cynnwys diodydd sy'n cael eu gwneud â llaeth neu gynhyrchion llaeth (fel 'Nesquik' neu smwddis) neu gyda chynhyrchion wy (fel advocaat neu eggnog).

Mae mewnforio diodydd o'r fath yn cael ei reoleiddio gan Reoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011, a rheoliadau tebyg yn yr Alban ac yn Lloegr. Dim ond trwy Fannau Rheoli ar y Ffin cymeradwy y caiff mewnforion ddod i mewn i Brydain Fawr. Yma, byddant yn cael eu gwirio i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r amodau iechyd anifeiliaid a iechyd y cyhoedd perthnasol.

Mae’r rhagor o wybodaeth ar gael gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Labelu

Mae gan GOV.UK ragor o wybodaeth am labelu bwyd ar ei wefan.

I gael cyngor ar labelu cynhyrchion penodol, cysylltwch ag Adran Safonau Masnach neu Adran Iechyd yr Amgylchedd eich awdurdod lleol.

Diodydd alcoholaidd

Cysylltwch â’r Adran Amaeth, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) i gael gwybodaeth am:

  • labelu a rhestru cynhwysion diodydd alcoholaidd
  • safonau marchnata ar gyfer diodydd gwirod (sy'n cynnwys labelu penodol a gofynion cyfansoddiadol)
  • polisi gwin domestig

Diodydd egni/chwaraeon

Gall rhai diodydd egni gynnwys cynhwysion y gellid eu hystyried i fod yn feddyginiaethau. Mae cynhyrchion fel hyn, lle gwneir honiadau o ran trin neu atal clefyd, neu sy'n cael eu rhoi i adfer, cywiro neu addasu swyddogaethau ffisiolegol, yn dod o fewn y diffiniad o feddyginiaeth.

Dylid cysylltu â'ch Swyddfa Safonau Masnach leol yn y lle cyntaf. Ar ôl adolygu'r wybodaeth hon, os daw'n amlwg na fyddai'r cynnyrch yn dod o dan y Rheoliadau Bwyd a'i fod yn gynnyrch meddyginiaethol, yna dylech chi gysylltu ag Adran Ffiniau Meddyginiaethau yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) ar-lein.

Hysbysebu honiadau maeth ac iechyd

I gael gwybodaeth am hysbysebu honiadau maeth ac iechyd ar fwyd, cysylltwch â Chanolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid yr Adran Iechyd.

Cyffeithyddion, lliwiau bwyd, cyflasynnau (flavourings) a melysyddion


Gall rhai diodydd gynnwys cyffeithyddion, lliwiau bwyd, cyflasynnau neu felysyddion. Er ei bod yn bod yn bosibl bod yr awdurdod bwyd wedi cymeradwyo'r rhain yn y wlad tarddiad, efallai na fydd rhai ohonynt wedi'u cymeradwyo ym Mhrydain Fawr, neu efallai nad yw'r caniatâd ar eu cyfer yr un fath er enghraifft, uchafsymiau defnyddio is, neu caniatâd i'w defnyddio mewn nifer fach o gynhyrchion yn unig.

I gael gwybodaeth am gyflasynnau, melysyddion, lliwiau bwyd a chyffeithyddion, cysylltwch â'n Tîm Ychwanegion Bwyd.

Cynhyrchion organig

Os ydych chi'n mewnforio cynhyrchion organig (cynhyrchion amaethyddol byw neu heb eu prosesu, cynhyrchion amaethyddol wedi'u prosesu i'w defnyddio fel bwyd neu fwyd anifeiliaid, deunydd ysgogi llystyfiant a hadau i'w tyfu), o drydydd gwledydd, cysylltwch â Thîm Mewnforion Organig DEFRA trwy ei gwefan.

I gael gwybodaeth am reoleiddio cynhyrchion organig a safonau organig, (gan gynnwys labelu) o fewn y Deyrnas Unedig (DU), cysylltwch â'r Tîm Strategaeth Organig trwy wefan DEFRA.

Deunydd pecynnu

Mae deunyddiau ac eitemau a ddaw i gysylltiad â bwyd, gan gynnwys y rhai a ddefnyddir i becynnu bwyd, yn cael eu rheoli gan ddeddfwriaeth y DU a ddargedwir (retained UK law) sydd wedi'i gweithredu'n llawn ym Mhrydain Fawr. Mae'r ddeddfwriaeth yn arbennig o drylwyr wrth reoli deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir eu defnyddio gyda bwyd.

I gael gwybodaeth am ddiogelwch deunydd pecynnu, cysylltwch â'r Tîm Deunyddiau a Ddaw i Gysylltiad â Bwyd dros e-bost. 

Hylendid bwyd

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau cyffredinol am hylendid bwyd, cysylltwch â'r Tîm Polisi Hylendid Bwyd.

Plaladdwyr

I gael gwybodaeth am lefelau diogelwch plaladdwyr ar gyfer mewnforio, cysylltwch â Chyfarwyddiaeth Rheoleiddio Cemegau yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).

Diodydd meddal a suddion ffrwythau

Os yw'r cynnyrch yn defnyddio enw masnach, fel 'Root Beer', cysylltwch â Chanolfan Wybodaeth y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO).

Dŵr

Gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth am y gofynion ar gyfer dŵr potel ar wefan GOV.UK.

Halogion

Mae Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2013 yn darparu ar gyfer deddfu a gorfodi cyfraith y DU a ddargedwir sy'n gosod terfynau rheoleiddio ar gyfer halogion mewn bwyd, fel nitrad, mycotocsinau, metelau, 3-MCPD, deuocsinau a hydrocarbonau aromatig polysyclig neu PAHs.

Cyfyngiadau mewnforio

Y lefel o asid benzoig a ganiateir mewn diodydd meddal ym Mhyrdain Fawr yw 150 mg/l. Nid yw diodydd a fewnforir sy'n cynnwys lefelau uwch na hyn yn cydymffurfio â gofynion Prydain Fawr. Nid yw Olew Llysiau wedi'i Frominadu (Brominated) yn ychwanegyn bwyd sydd wedi'i ganiatáu ym Mhrydain Fawr. Ni yw calsiwm disodiwm EDTA (E385) ac asid Erythorbic (E315) yn ychwanegion a ganiateir mewn diodydd.

Lliwiau Southampton

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi gofyn i ddiwydiant bwyd y DU dynnu'r lliwiau hyn yn ôl yn wirfoddol:

  • Sunset yellow (E110)
  • Quinoline yellow (E104)
  • Carmoisine (E122)
  • Allura red (E129)
  • Tartrazine (E102)
  • Ponceau 4R (E124)

Os yw cynnyrch wedi'i labelu ac yn cynnwys un neu ragor o'r chwe lliw penodedig, bydd angen rhybudd ar y label fel sy'n ofynnol gan Erthygl 24 ac Atodiad V o Reoliad Rhif 1333/2008 i nodi y gall y lliwiau gael effaith andwyol ar weithgarwch a sylw plant.

Te dail Coca o Dde America

Mae'n anghyfreithlon i fewnforio cynhyrchion a wneir o ddail coca. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Uned Cyfathrebu Uniongyrchol yn y Swyddfa Gartref, trwy ei gwefan.

Te Hoasca o Frasil

Defnyddir te Hoasca o Frasil at ddibenion crefyddol. Mae cyfyngiadau ar fewnforio'r te hwn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Uned Cyfathrebu Uniongyrchol yn y Swyddfa Gartref, trwy ei gwefan.

Cysylltiadau Tîm

Tîm Deunyddiau a Ddaw i Gysylltiad â Bwyd

FoodContactMaterial@food.gov.uk

Tîm Polisi Hylendid Bwyd

foodhygiene.policy@food.gov.uk

Tîm Ychwanegion Bwyd 

foodadditives@food.gov.uk

Tîm Bwyd wedi'i Fewnforio

imported.food@food.gov.uk