Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mewnforio ffrwythau a llysiau

Penodol i Gymru a Lloegr

Canllawiau ar beth yw cynnyrch risg uwch, labelu, deunydd pecynnu, diogelwch cemegol a rheolaethau ar iechyd planhigion.

Mae'n rhaid i ffrwythau a llysiau (rhai ffres, rhai wedi'u sychu, rhai mewn tun, rhai wedi'u prosesu neu rai wedi'u rhewi) a gaiff eu mewnforio o drydydd gwledydd fodloni'r un safonau hylendid, a bod yn destun i'r un gweithdrefnau diogelwch, â bwyd a gynhyrchir ym Mhrydain Fawr. Fel arfer, nid oes angen tystysgrif iechyd arnoch chi i fewnforio ffrwythau a llysiau.

Os ydych chi'n mewnforio ffrwythau a llysiau, cofiwch ddarllen Mewnforio cynhyrchion planhigion a chynhyrchion llysieuol hefyd i gael canllawiau ar fewnforio'r mathau hyn o gynhyrchion. 

Cynhyrchion ‘risg uwch’

Dim ond drwy borthladdoedd a meysydd awyr penodol sydd wedi’u hawdurdodi fel Mannau Rheoli ar y Ffin y gellir mewnforio rhai bwydydd a bwydydd anifeiliaid penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid a gaiff eu hystyried i beri ‘risg uwch’ i Brydain Fawr. Bydd y rhain yn destun rheolaethau swyddogol. Mae cynnyrch ‘risg uwch’ yn gynnyrch bwyd neu fwyd anifeiliaid y mae’n hysbys ei fod yn peryglu iechyd y cyhoedd, neu fod hynny’n dod i’r amlwg. 

Labelu

Mae gwybodaeth gyffredinol am labelu bwyd ar gael ar wefan GOV.UK. I gael cyngor ar labelu cynhyrchion penodol, cysylltwch ag Adran Safonau Masnach neu Adran Iechyd yr Amgylchedd eich awdurdod lleol. 

Deunydd pecynnu

Mae deunyddiau ac eitemau a ddaw i gysylltiad â bwyd, gan gynnwys y rhai a ddefnyddir ar gyfer pecynnu bwyd, yn cael eu rheoli gan gyfraith y Deyrnas Unedig (DU) a ddargedwir (retained UK law). Mae'r ddeddfwriaeth yn arbennig o drylwyr wrth reoli deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir eu defnyddio gyda bwyd. 

I gael gwybodaeth am ddiogelwch deunydd pecynnu, cysylltwch â'r Tîm Deunyddiau a Ddaw i Gysylltiad â Bwyd dros e-bost. 

Hylendid Bwyd

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am hylendid bwyd, gan gynnwys bwyd wedi'i rewi a hadau y bwriedir eu hegino, cysylltwch â'r Tîm Polisi Hylendid Bwyd dros e-bost.

Ychwanegion 


Mae rhai cynhyrchion yn cynnwys lliwiau, cyflasynnau (flavourings) neu felysyddion bwyd. Er ei bod yn bosibl bod yr awdurdod bwyd wedi cymeradwyo'r rhain yn y wlad tarddiad, efallai na fydd rhai ohonynt wedi'u cymeradwyo ym Mhrydain Fawr. 

I gael gwybodaeth am gyflasynnau, melysyddion, lliwiau a chyffeithyddion bwyd, cysylltwch â Thîm Ychwanegion Bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) dros e-bost.

Diogelwch cemegol

Halogion

Mae Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2013 yn darparu ar gyfer deddfu a gorfodi cyfraith y DU a ddargedwir sy'n gosod terfynau rheoleiddio ar gyfer halogion mewn bwyd, fel nitrad, mycotocsinau, metelau, 3-MCPD, deuocsinau a hydrocarbonau aromatig polysyclig neu PAHs.

Dyma ragor o wybodaeth am halogion cemegol

Plaladdwyr

I gael gwybodaeth am lefelau diogelwch plaladdwyr, cysylltwch â Chyfarwyddiaeth Rheoleiddio Cemegau yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). 

Afflatocsinau 

Mae mewnforio rhai bwydydd o drydydd gwledydd penodol, fel ffigys wedi'u sychu a chynhyrchion ffigys wedi'u sychu o Dwrci, a ffrwythau wedi'u sychu, yn destun amodau arbennig oherwydd y risg o halogiad gan afflatocsinau. Mae hyn yn golygu mai dim ond trwy Fannau Rheoli ar y Ffin awdurdodedig (BCP) y gellir mewnforio llwythi i Brydain Fawr, lle cynhelir rheolaethau swyddogol.

Iechyd planhigion

Mae llawer o gynhyrchion planhigion sydd naill ai wedi'u gwahardd rhag dod i mewn i'r DU o wledydd y tu allan i'r Brydain Fawr, neu mae angen tystysgrif ffytoiechydol (phytosanitary) arnynt i wneud hynny.

Mae rheolaethau swyddogol a chyfyngiadau ar fewnforio, symud a chadw planhigion, plâu planhigion a deunyddiau eraill, fel pridd, yn hanfodol er mwyn atal lledaeniad organebau niweidiol.

Mae gwybodaeth am unrhyw ofynion iechyd planhigion, neu p’un a oes angen tystysgrif ffytoiechydol ar y ffrwythau neu'r llysiau yr ydych am eu mewnforio, ar gael gan Dîm Iechyd Planhigion yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar ei gwefan.

Fel arall, gallwch chi ddarllen ei thudalen we ar Reolaethau Iechyd Planhigion.

Hysbysebu honiadau maeth ac iechyd

I gael gwybodaeth am unrhyw ofynion safonau marchnata ar gyfer ffrwythau a llysiau ffres, cysylltwch ag Arolygiaeth Marchnata Garddwriaethol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) trwy eu gwefan.

Canllawiau'r diwydiant bwyd 

I gael gwybodaeth benodol am ofynion hylendid ar gyfer berwr dŵr (watercress), darllenwch ein Canllaw i’r diwydiant ar hylendid da – Berwr dŵr 2017 ar wefan Watercress, Good for Everybody.

Honiadau meddygol

Mae honiadau meddyginiaethol weithiau'n cael eu gwneud am rai ffrwythau a llysiau er enghraifft, y ffa gwyrthiol 'Lupinus Albus’. Mae cynhyrchion lle gwneir honiadau ar gyfer trin neu atal clefyd, neu sy'n cael ei weinyddu gyda'r bwriad o adfer, cywiro neu addasu swyddogaethau ffisiolegol trwy weithredu'n fferyllol, yn imiwnolegol neu'n fetabolig, yn dod o fewn y diffiniad o feddyginiaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am honiadau meddygol, cysylltwch â'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). 

Cynhyrchion organig

Os ydych chi'n mewnforio cynhyrchion organig (cynhyrchion amaethyddol byw neu heb eu prosesu, cynhyrchion amaethyddol wedi'u prosesu i'w defnyddio fel bwyd neu fwyd anifeiliaid, deunydd ysgogi llystyfiant a hadau i'w tyfu), o drydydd gwledydd, cysylltwch â'r Tîm Mewnforion Organig trwy wefan DEFRA.

Mewnforion o wledydd penodol 

Gwymon Hijiki

Mae'r ASB yn cynghori pobl i beidio â bwyta 'Hijiki', math o wymon, yn dilyn arolwg a oedd yn dangos ei fod yn cynnwys lefelau uchel o arsenig sydd â nodweddion carsinogenig hysbys. 

I gael rhagor o wybodaeth am wymon Hijiki, cysylltwch â'n Tîm Halogion Cemegol dros e-bost.

Letys ac ysbigoglys (spinach)

Mae'r ddeddfwriaeth halogion uchod hefyd yn berthnasol i lefelau diogelwch nitrad mewn letys ac ysbigoglys sy'n cael eu fewnforio i Brydain Fawr.

I gael gwybodaeth am y lefelau a'r gweithdrefnau profi hyn, cysylltwch â'n Tîm Halogion Cemegol dros e-bost.