Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Newidiadau o ran labelu alergenau ar fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) ar gyfer arlwywyr digwyddiadau

Gwybodaeth i arlwywyr digwyddiadau am y drefn labelu newydd ar gyfer bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) a elwir hefyd yn Gyfraith Natasha.

Ar 1 Hydref 2021, newidiodd y gofynion ar gyfer labelu bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) ledled y Deyrnas Unedig (DU).

Mae’r ddeddfwriaeth newydd hon, y cyfeirir ati hefyd fel Cyfraith Natasha, yn berthnasol i unrhyw fusnes bwyd sy’n cynhyrchu bwyd PPDS gan gynnwys arlwywyr digwyddiadau, gwestai, bariau a thafarndai. 

Bwyd sy’n cael ei becynnu yn yr un man ag y caiff ei gynnig neu ei werthu i ddefnyddwyr yw bwyd PPDS. Mae’n eitem sengl wedi’i phecynnu, ac mae’n barod i’w chyflwyno i’r defnyddiwr cyn iddi gael ei harchebu neu ei dewis. Nid yw’n cynnwys bwyd wedi’i becynnu mewn symiau mwy (megis platiau o frechdanau wedi’u gorchuddio â chling ffilm). 

Mae’r newidiadau’n golygu y bydd angen labelu bwyd sy’n cael ei becynnu cyn i’r defnyddiwr ei archebu neu ei ddewis, ac sy’n cael ei werthu yn yr un safle ag y caiff ei becynnu (neu mewn safle lle mae busnes yn gweithredu mewn mwy nag un lleoliad, fel canolfan siopa).  

Gall bwyd sy’n cael ei werthu o safleoedd symudol hefyd fod yn fwyd PPDS. Gweler ein canllawiau ar newidiadau o ran labelu alergenau ar gyfer gwerthwyr symudol i gael mwy o wybodaeth. 

Yn achos arlwywyr digwyddiadau, gall hyn olygu newidiadau i’r drefn labelu ar gyfer bwydydd fel brechdanau, saladau a chynhyrchion eraill.

Yn y canllawiau hyn, byddwch chi’n gweld enghreifftiau o fwyd PPDS sy’n cael ei ddarparu’n aml gan arlwywyr digwyddiadau, yn ogystal â labeli enghreifftiol ac atebion i gwestiynau cyffredin gan y sector.

PPDS event caterer

Newidiadau ar gyfer arlwywyr digwyddiadau o ran labelu alergenau 

Bydd y gofynion labelu newydd yn helpu i ddiogelu defnyddwyr trwy ddarparu gwybodaeth am alergenau ar ddeunydd pecynnu a allai achub bywydau. Gelwir y ddeddfwriaeth hon hefyd yn Gyfraith Natasha.

Bydd yn ofynnol i unrhyw fusnes bwyd sy’n cynhyrchu bwyd PPDS ei labelu ag enw’r bwyd a rhestr gynhwysion lawn. Bydd rhaid i unrhyw gynhwysion alergenaidd gael eu pwysleisio yn y rhestr hon. 

Gall hyn gynnwys bwyd y mae defnyddwyr yn ei ddewis eu hunain, er enghraifft, o uned arddangos, yn ogystal â chynhyrchion sy’n cael eu cadw y tu ôl i gownter, neu rai mathau o fwyd a werthir mewn safleoedd symudol neu dros dro. 

Enghreifftiau o fwyd sy’n cael ei becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol  

Ymhlith y bwydydd PPDS y gall arlwywr digwyddiad neu fusnes bwyd cysylltiedig eu darparu y mae: 

  • brechdanau, cacennau, bara, pasteiod a phastis wedi’u pecynnu
  • platiau bwyd wedi’u hamgáu 
  • saladau wedi’u pecynnu 
  • cawl sydd eisoes mewn potiau.

Enghreifftiau o fwyd nad yw’n cael ei becynnu ymlaen llaw i’w werthu'n uniongyrchol 

Nid yw bwyd PPDS yn cynnwys bwyd nad yw mewn deunydd pecynnu, fel brechdanau, cacennau neu roliau sy’n cael eu harddangos yn rhydd. Nid yw bwyd sy’n cael ei becynnu ar gais y defnyddiwr yn fwyd PPDS.   

Nid bwyd PPDS yw’r enghreifftiau canlynol o fwyd:  

  • bwydydd agored, fel bowlenni o ffrwythau neu greision 
  • pizza heb ei becynnu, lasagne, cigoedd rhost neu fwydydd poeth eraill heb eu pecynnu ar gownteri poeth.

Nid oes angen label ar fwyd rhydd ac mae’n rhaid iddo fodloni’r gofynion cyfredol o ran rhoi gwybodaeth am alergenau ar gyfer bwyd sydd heb ei becynnu ymlaen llaw,  lle mae’n rhaid i chi ddarparu gwybodaeth am yr 14 alergen gorfodol yn ysgrifenedig neu ar lafar. 

Bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw 

Efallai y byddwch chi hefyd yn gwerthu bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw a gafodd ei becynnu mewn safle gwahanol i’r man lle caiff ei gynnig i ddefnyddwyr, neu fwyd sydd wedi’i becynnu gan fusnes arall.  

Nid bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol yw hwn, ond bwyd ‘wedi’i becynnu ymlaen llaw’. Fodd bynnag, mae dal angen label arno gydag enw, rhestr gynhwysion, alergenau a manylion gorfodol eraill.   

Mae gennym ni wybodaeth bellach am labelu bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw a’r gofynion y mae’n rhaid i labeli bwyd eu bodloni. 

Canllawiau labelu ar gyfer arlwywyr digwyddiadau 

Mae angen i labeli ar fwyd PPDS ddangos enw’r bwyd a’r rhestr gynhwysion.  

Mae hyn yn cynnwys pwysleisio unrhyw un o’r 14 alergen a ddefnyddir yn y cynnyrch yn y rhestr gynhwysion, fel sy’n ofynnol gan gyfraith bwyd. Gellir pwysleisio’r alergenau yn y rhestr gynhwysion trwy  defnyddio print trwm, priflythrennau, lliwiau cyferbyniol neu destun wedi’i danlinellu. 

Mae ein canllawiau labelu ar gyfer bwyd PPDS yn cynnwys gwybodaeth fanwl am ofynion labelu, gan gynnwys enw’r bwyd, maint y print, a labelu sy’n rhybuddio am alergenau fel label ‘gallai gynnwys’. 

Cyfrifoldeb dros labelu bwyd mewn digwyddiadau wedi’u harlwyo 

Mae cyfrifoldeb ar weithredwyr busnesau bwyd sicrhau bod y bwyd maen nhw’n ei ddarparu yn ddiogel. Dylai arlwywyr sy’n cyflenwi bwyd ddarparu gwybodaeth alergenau i alluogi defnyddwyr i wneud dewisiadau bwyd diogel a gwybodus.

Bwyd y mae cwmni’n ei archebu i’w ddarparu mewn digwyddiad  

Os yw person neu sefydliad wedi archebu bwyd cyn digwyddiad ar ran unigolion eraill, dyma enghraifft o fwyd heb ei becynnu ymlaen llaw. Os ystyrir bod y bwyd rydych chi’n ei werthu heb ei becynnu ymlaen llaw, nid oes angen i chi ddarparu labeli gyda’r cynhwysion llawn, ond dylech chi ddarparu gwybodaeth orfodol am alergenau i unrhyw un sy’n bwyta’r bwyd, a sicrhau bod hon ar gael ar lafar neu’n ysgrifenedig. 

Mae bwyd dim ond yn cael ei ystyried yn fwyd PPDS os yw’n cael ei werthu i’r defnyddwyr o’r un safle lle y caiff ei becynnu (ond gweler y rheolau ar gyfer gwerthwyr symudol). Mae angen i’r ddau barti fod yn bresennol wrth archebu. 

Mae bwyd a gaiff ei becynnu cyn iddo gael ei archebu gan y ‘defnyddiwr terfynol’ yn fwyd PPDS. Yn ôl y gyfraith, gall ‘defnyddiwr terfynol’ fod yn ‘berson cyfreithiol neu naturiol’ na fydd yn defnyddio’r bwyd fel rhan o fusnes bwyd.  

Felly, os nad yw’r cwmni sy’n archebu’r bwyd ar gyfer digwyddiad yn fusnes bwyd, gellir ei ystyried yn  ‘ddefnyddiwr terfynol’ at ddibenion penderfynu a gafodd y bwyd ei becynnu cyn iddo gael ei archebu.  

Os yw’r bwyd yn cael ei werthu o bell, er enghraifft, dros y ffôn neu’r rhyngrwyd, nid yw’r rheolau newydd ar gyfer bwyd PPDS yn berthnasol. Bydd angen i fusnesau sy’n gwerthu bwyd PPDS fel hyn sicrhau bod gwybodaeth orfodol am alergenau ar gael i’r defnyddiwr cyn iddo brynu’r cynnyrch a hefyd wrth i’r bwyd gael ei ddosbarthu.

Prydau wedi’u paratoi ar gyfer cyfranogwyr sydd â gofynion dietegol penodol 

Os yw bwyd penodol wedi’i archebu ymlaen llaw, nid bwyd PPDS yw hwn. Mae dal angen i chi ddarparu gwybodaeth orfodol am alergenau ar ryw ffurf i’r defnyddiwr. 

Os yw’r unigolyn wedi rhoi syniad am ei ofynion dietegol ymlaen llaw ond heb archebu bwyd penodol ymlaen llaw ac y cynigir iddo opsiynau bwyd sydd mewn deunydd pecynnu ar y diwrnod, bwyd PPDS yw hwn.

Cyflwyno’r wybodaeth am alergenau i’ch cwsmeriaid 

Gallwch chi barhau i ddarparu gwybodaeth am alergenau i gwsmeriaid ar lafar neu drwy arddangos gwybodaeth ar fwydlen, bwrdd du neu hysbysiad. 

Fodd bynnag, mae hyn yn ychwanegol at y gofynion o ran labelu bwyd PPDS. Mae gennym ni ragor o wybodaeth am ddarparu gwybodaeth am alergenau yn ein canllawiau alergenau ar gyfer busnesau bwyd.

Label bwyd PPDS enghreifftiol 

Mae ein canllawiau labelu ar gyfer bwyd PPDS yn cynnwys gwybodaeth fanwl am yr hyn i’w gynnwys ar label bwyd, a sut i’w gyflwyno a’i gynhyrchu.

Ceir un enghraifft o sut y gallai’r label  ymddangos isod, ond gallech chi ddewis ei gyflwyno mewn modd gwahanol cyn belled ag eich bod yn bodloni’r gofynion cyfreithiol. Rhaid i chi gynnwys enw’r bwyd, rhestr gynhwysion lawn, a phwysleisio unrhyw un o’r 14 alergen sy’n bresennol yn y bwyd.  

Label bwyd PPDS porc pei

Diffiniad ‘pecynnu’ 

Mae bwyd i’w ystyried yn fwyd PPDS os caiff ei becynnu fel hyn: 

  • mae’r bwyd wedi ei amgáu’n rhannol neu yn llwyr gan y deunydd pecynnu 
  • ni ellir newid y bwyd heb agor neu newid y pecyn; 
  • mae’r bwyd yn barod i’w werthu i’r defnyddiwr terfynol. 

Byddai’r canlynol yn enghreifftiau o’r math hwn o becynnu:

  • cacen wedi’i phecynnu’n llwyr mewn cling ffilm
  • bara wedi ei roi mewn bag papur a’r bag wedi ei blygu neu ei grychu i amgáu’r bara
  • rholiau mewn bag plastig sydd wedi’i glymu â chwlwm neu wedi’i selio

Nid yw bwyd i’w ystyried yn fwyd PPDS os nad oes ganddo ddeunydd pecynnu, neu os ydyw wedi ei becynnu mewn modd sy’n golygu y gellir ei newid heb agor neu newid y deunydd pecynnu (er enghraifft, cacen wedi ei gweini ar hambwrdd cardfwrdd agored).

Cwestiynau cyffredin gan arlwywyr digwyddiadau am labelu bwyd PPDS

Ble gallaf i ddod o hyd i’r gofynion penodol ar gyfer yr hyn i’w gynnwys ar label bwyd PPDS?

Mae ein canllawiau labelu ar gyfer bwyd PPDS yn cynnwys gwybodaeth fanwl am ofynion labelu, gan gynnwys enw’r bwyd, maint y print, a labelu er mwyn rhybuddio am alergenau, fel label ‘gallai gynnwys’. 

A oes angen labelu PPDS ar ddiodydd poeth, fel te neu goffi?

Nid yw diodydd poeth a wneir yn ôl archeb yn gynnyrch PPDS, ac nid oes angen labelu PPDS arnynt.

Ond os ydych chi’n arllwys ac yn rhoi caead ar ddiodydd cyn i ddefnyddwyr eu harchebu, gan ragweld prysurdeb, byddai’r diodydd yn gynnyrch PPDS a byddai angen eu labelu.

Sut mae labelu bwyd mewn bwffe yn gywir?

Mae p’un a yw bwyd ar gownter poeth neu mewn bwffe yn fwyd PPDS yn dibynnu ar p’un a gafodd ei becynnu, ble, a phryd.     

Mae’r rheolau PPDS newydd yn berthnasol i fwyd sy’n cael ei becynnu cyn i’r defnyddiwr ei archebu ar y safle lle caiff ei werthu. Os nad dyma’r sefyllfa, a bod y bwyd wedi'i becynnu yn ôl archeb ar y safle, neu os nad yw’r bwyd mewn deunydd pecynnu pan fo’r defnyddiwr yn ei archebu, ystyrir nad yw’r bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw. Os taw dyma’r sefyllfa, mae’r gofynion gwybodaeth alergenau ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw yn berthnasol. Dylech chi ddarparu gwybodaeth am yr 14 prif alergen ar lafar neu’n ysgrifenedig. 

Gallwch chi ddarparu’r wybodaeth hon trwy labelu’r alergenau sydd mewn prydau unigol, neu drwy arddangos arwydd sy’n cyfarwyddo defnyddwyr i ofyn i staff am wybodaeth am alergenau. 

Os ydych chi’n gweini bwyd ar ffurf bwffe, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am alergenau ar gyfer pob eitem o fwyd ar wahân. Ni ddylech chi ei darparu ar gyfer y cinio yn ei gyfanrwydd. 

Os yw’r bwyd bwffe yn cael ei becynnu cyn iddo gael ei archebu gan y defnyddiwr, dyma enghraifft o fwyd PPDS. O ganlyniad, mae’n rhaid darparu rhestr gynhwysion lawn yn uniongyrchol ar ddeunydd pecynnu'r cynnyrch neu ar label sydd ynghlwm â’r deunydd pecynnu, gyda’r alergenau wedi'u pwysleisio yn y rhestr gynhwysion.  

Mae bwyd PPDS yn fwyd sy’n cael ei gyflwyno i’r defnyddiwr fel eitem sengl, felly bydd yn cynnwys eitemau wedi’u pecynnu’n unigol ond nid platiau o fwyd y bwriedir eu gweini i wahanol ddefnyddwyr neu eu rhannu rhwng grwpiau o bobl. Felly, byddai brechdanau wedi’u pecynnu’n unigol yn cael eu hystyried yn fwyd PPDS, ond nid un plât mawr o frechdanau a fwriadwyd ar gyfer gwahanol ddefnyddwyr sy’n bwyta bwffe.  

A oes angen i mi labelu bwyd os ydw i’n paratoi ac yn ei lapio a’i gadw o dan lamp boeth cyn iddo gael ei archebu?

Os ydych chi’n pecynnu bwyd ymlaen llaw gan ragweld y bydd defnyddwyr yn ei archebu, bydd angen labeli PPDS ar y cynhyrchion hyn. 

A oes angen i mi labelu eitemau bwyd unigol wedi’u lapio mewn cling film? 

Os ydych wedi dewis pecynnu eitemau unigol mewn cling ffilm ac os yw hyn yn bodloni diffiniad deunydd pecynnu (gweler uchod), mae’n fwyd PPDS a rhaid ei labelu.  

A oes angen i mi labelu plât o fwyd wedi’i orchuddio â chling ffilm cyn digwyddiad os yw’r cling ffilm yn cael ei dynnu pan fydd y bwyd yn cael ei weini? 

Nac oes. Os tynnir y cling ffilm cyn i’r bwyd gael ei gyflwyno i’r defnyddiwr, nid yw’r gofynion labelu bwyd PPDS yn berthnasol. Fodd bynnag, os darperir bwyd i’r defnyddiwr mewn deunydd pecynnu o hyd, ac os yw’n  unol â  diffiniad bwyd PPDS, bydd angen iddo gael labelu PPDS.

A oes modd ysgrifennu labeli bwyd â llaw? 

Gellir ysgrifennu labeli bwyd â llaw cyn belled â’u bod yn bodloni’r gofynion cyfreithiol ar gyfer y ffont, gan gynnwys maint y ffont. Dylai’r labeli fod yn hawdd eu gweld ac yn eglur ddarllenadwy. Gellir pwysleisio alergenau gan ddefnyddio print trwm, priflythrennau, lliwiau cyferbyniol neu drwy danlinellu. 

Mae ein canllawiau labelu ar gyfer bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw yn cynnwys gwybodaeth fanwl am ofynion labelu.

A oes angen labelu bwyd sy’n cael ei arddangos o dan gromen (dome) ddiogelu?

Os mai eitem sengl yw’r bwyd o dan gromen ddiogelu, sy’n cynnwys y bwyd a’r deunydd pecynnu y’i rhoddwyd ynddo, ac sy’n barod i’w gyflwyno i’r defnyddiwr, bwyd PPDS yw hwn. 

Os tynnir y gromen cyn i’r bwyd gael ei gyflwyno i’r defnyddiwr, nid bwyd PPDS mohono. Dyma enghraifft o fwyd heb ei becynnu ymlaen llaw.

Er enghraifft, os oes gennych chi bryd swshi wedi’i orchuddio â chromen ddiogelu sy’n cael ei gyflwyno i’r defnyddiwr gyda’r gromen drosto, bwyd PPDS yw hwn. 

Os oes gennych chi gacen fawr o dan gromen, a’r bwriad yw ei rhannu’n dafelli unigol a’u gweini ar blatiau ar wahân, nid bwyd PPDS fyddai hwn gan nad yw’r gacen fawr a’r deunydd pecynnu y cafodd ei storio ynddo yn ‘eitem sengl’. Nid bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw yw hwn.