Cyflwyniad i newidiadau labelu alergenau ar gyfer bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol (PPDS)
Yr hyn y mae angen i fusnesau ei wybod am y rheolau labelu alergenau ar gyfer bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol (PPDS)
Nod y cyflwyniad hwn yw eich helpu i ddeall a oes angen i'ch busnes ddilyn y gofynion labelu alergenau, a elwir hefyd yn Gyfraith Natasha, a beth sydd angen i chi ei wneud i gydymffurfio â'r gyfraith.
England, Northern Ireland and Wales
England, Northern Ireland and Wales
Mae'n ofynnol i unrhyw fusnes sy'n cynhyrchu bwyd PPDS ei labelu gydag enw'r bwyd a rhestr lawn o gynhwysion, gan bwysleisio’r cynhwysion alergenaidd ar y rhestr.
Mae'r labelu yn helpu i ddiogelu eich defnyddwyr drwy ddarparu gwybodaeth am alergenau a all achub bywydau ar y deunydd pecynnu.
Mae angen i fusnesau wirio a oes angen labelu PPDS ar eu cynhyrchion a'r hyn y mae angen iddynt ei wneud i gydymffurfio â'r gyfraith.
Beth yw bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol neu fwyd PPDS?
Mae bwyd PPDS yn cael ei becynnu yn yr un lle ag y mae'n cael ei gynnig neu ei werthu i ddefnyddwyr ac mae yn y deunydd pecynnu hwn cyn i’r cwsmer ei archebu neu ei ddewis.
Gall gynnwys bwyd y mae defnyddwyr yn ei ddewis eu hunain (er enghraifft, o uned arddangos), yn ogystal â chynhyrchion sy'n cael eu cadw y tu ôl i gownter a rhywfaint o fwyd sy'n cael ei werthu mewn safleoedd symudol neu dros dro.
Pwysig
Bwyd nad yw'n PPDS
- Unrhyw fwyd nad yw mewn deunydd pecynnu neu sy'n cael ei becynnu ar ôl cael ei archebu gan y defnyddiwr. Mae'r rhain yn fathau o fwyd heb ei becynnu ymlaen llaw ac nid oes angen label arnynt gydag enw, cynhwysion ac alergenau wedi'u pwysleisio. Rhaid parhau i ddarparu gwybodaeth am alergenau ond gellir gwneud hyn trwy ddulliau eraill, gan gynnwys ar lafar.
- Bwyd wedi'i becynnu gan un busnes a'i gyflenwi i fusnes arall. Mae hwn yn fwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw ac mae'n rhaid iddo fod wedi’n labelu llawn yn barod, gan gynnwys enw'r bwyd a rhestr gynhwysion lawn, gyda chynhwysion alergenaidd yn cael eu pwysleisio.
Gwerthu o bell
Nid yw'r gofynion labelu newydd yn berthnasol i fwyd PPDS a werthir o bell, fel bwyd y gellir ei brynu dros y ffôn neu ar y rhyngrwyd.
Mae angen i fusnesau sy'n gwerthu bwyd PPDS fel hyn sicrhau bod gwybodaeth orfodol am alergenau ar gael i'r defnyddiwr cyn iddo brynu'r cynnyrch a hefyd wrth i’r bwyd gael ei ddosbarthu.
Rhaid i chi ddarparu gwybodaeth am alergenau:
- cyn i’r cwsmer brynu'r bwyd – gall hyn fod yn ysgrifenedig (ar wefan, catalog neu fwydlen) neu ar lafar (dros y ffôn)
- wrth ddosbarthu’r bwyd – gall hyn fod yn ysgrifenedig (sticeri am alergenau ar fwyd neu gynnwys copi o fwydlen) neu ar lafar (dros y ffôn)
Dylai gwybodaeth am alergenau fod ar gael i gwsmer yn ysgrifenedig ar bwynt rhwng y cwsmer yn archebu’r bwyd a’r cwsmer yn cael y bwyd.
Dylid labelu prydau tecawê yn glir fel bod cwsmeriaid yn gwybod pa brydau sy'n addas ar gyfer y rhai hynny sydd ag alergedd.
Pwysig
Enghreifftiau o fwyd PPDS
Gall bwyd wedi'i becynnu i'w werthu'n uniongyrchol (PPDS) gynnwys y canlynol:
- Brechdanau a chynhyrchion becws sy'n cael eu pecynnu ar y safle cyn i ddefnyddiwr eu dewis neu eu harchebu.
- Bwyd cyflym wedi'i becynnu cyn ei archebu, fel byrgyr o dan lamp boeth lle na ellir newid y bwyd heb agor y deunydd pecynnu.
- Cynhyrchion sy'n cael eu pecynnu ymlaen llaw ar y safle yn barod i'w gwerthu, fel pizzas, cyw iâr rotisserie, saladau a photiau pasta.
- Byrgyrs a selsig wedi'u pecynnu ymlaen llaw gan gigydd ar y safle yn barod i'w gwerthu i'r defnyddiwr.
- Samplau o gwcis a roddir i ddefnyddwyr am ddim a gafodd eu pecynnu ar y safle.
- Bwydydd sy’n cael eu pecynnu ac yna'u gwerthu mewn man arall gan yr un gweithredwr mewn stondin farchnad neu safle symudol.
- Bydd hefyd angen labelu bwyd PPDS mewn ysgolion, cartrefi gofal, ysbytai a lleoliadau tebyg eraill.

Beth sydd angen bod ar y label?
Mae angen i'r label ddangos enw'r bwyd a'r rhestr gynhwysion gyda'r 14 alergen y mae'n ofynnol eu datgan yn ôl y gyfraith wedi'u pwysleisio.
Rhaid i'r rhain fod yn unol â'r gofynion cyfreithiol sy'n berthnasol i enwi'r bwyd a rhestru cynhwysion.
Rhaid i fusnesau bwyd sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion gwybodaeth a labelu bwyd perthnasol presennol ar gyfer y wlad y maent yn gweithredu ynddi.
Dyma ein gwybodaeth am yr 14 alergen a sut i gyfeirio atynt, lle byddwch chi'n dod o hyd i'r rheolau manwl am gynnwys, ffurf a chyflwyniad enw, cynhwysion a gwybodaeth am alergenau.

Sut i fodloni'r gofynion
Os yw'ch busnes yn gwerthu neu'n cyflenwi bwyd PPDS mae angen i chi gydymffurfio â'r gyfraith.
Defnyddiwch ein hadnodd penderfynu ar gyfer labelu alergenau a chynhwysion ar fwyd.
Pwysig
Rydym ni wedi diweddaru ein canllawiau alergenau ar gyfer busnesau bwyd i gynnwys y gofynion newydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn adran gofynion labelu a gwybodaeth am alergenau bwyd y Canllawiau Technegol
Mae gennym ni hefyd wybodaeth am labelu alergenau ar gyfer gweithgynhyrchwyr bwyd.
Amlinellir y gofynion labelu alergenau yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr yr UE.
Pwysig
Cyfraith Natasha - pam cafodd newidiadau i wybodaeth am alergenau eu cyflwyno?
Cyn 1 Hydref, gellid darparu'r wybodaeth am alergenau ar gyfer y cynhyrchion hyn mewn unrhyw fodd. Mae hyn yn cynnwys cael eich hysbysu ar lafar gan staff.
Mae llywodraethau ledled y Deyrnas Unedig wedi penderfynu y bydd angen darparu gwybodaeth am gynhwysion ac alergenau ar labeli’r bwydydd hyn o 1 Hydref 2021.
Mae hyn yn dilyn marwolaeth Natasha Ednan-Laperouse, a gafodd adwaith alergaidd a achoswyd drwy fwyta baguette nad oedd yn rhaid cynnwys label alergenau arno ar y pryd.
England, Northern Ireland and Wales
England, Northern Ireland and Wales
Hanes diwygio
Published: 18 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Ebrill 2023