Sgoriau hylendid bwyd ar gyfer busnesau
Canllawiau i fusnesau ar y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, sut i apelio, sut i gyhoeddi ymateb i sgôr hylendid a sut i wneud cais am ailarolygiad
Beth yw'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd?
Ennill sgôr uwch
Mae'r sgôr uchaf o 5 o fewn cyrraedd pob busnes. Os nad ydynt yn ennill y sgôr hon, bydd y swyddog diogelwch bwyd yn nodi'r gwelliannau y mae gofyn iddynt eu rhoi ar waith a darparu cyngor ymarferol ar sut i gael sgôr uwch.
Rydym ni'n darparu canllawiau busnes i helpu i reoli hylendid bwyd a gwybodaeth ddefnyddiol am arolygiadau cyfraith bwyd.
Cyhoeddi sgoriau
Ar ôl arolygiad, bydd y sgôr yn cael ei lanlwytho gan yr awdurdod lleol er mwyn ei chyhoeddi ar wefan www.food.gov.uk/sgoriau. Bydd sgôr o '5 - da iawn' yn cael ei chyhoeddi cyn gynted ag y bydd yr wybodaeth yn cael ei lanlwytho gan eich awdurdod lleol. Caiff sgoriau o 0-4 eu cyhoeddi 3-5 wythnos ar ôl dyddiad yr arolygiad er mwyn caniatáu amser i gyflwyno apêl (gweler yr adran ar fesurau diogelu isod).
Ar gyfer busnesau yng Nghymru a Lloegr, gall perchennog neu reolwr y busnes ofyn i gael cyhoeddi'r sgôr cyn diwedd y cyfnod apelio. Rhaid gwneud y cais hwn yn ysgrifenedig i'ch awdurdod lleol (gweler isod am fanylion cyswllt). Rhaid i chi gynnwys y manylion canlynol: pwy ydych chi; enw a chyfeiriad y busnes; eich gwybodaeth gyswllt; dyddiad yr arolygiad; a'r sgôr a ddyfarnwyd. Bydd yr awdurdod lleol yn adolygu'r cais ac fel rheol, yn cyhoeddi'r sgôr yn gynnar. Nid yw'r cyfleuster hwn ar gael o dan y cynllun statudol yng Ngogledd Iwerddon.
Gallwch chi ddefnyddio'r ffurflen berthnasol isod, anfon e-bost neu ysgrifennu at eich awdurdod lleol yn uniongyrchol.
Wales
Os ydych chi'n berchennog neu'n rheolwr busnes bwyd ac mae'r enw neu'r cyfeiriad a ddangosir ar ein gwasanaeth sgoriau hylendid bwyd yn anghywir, dylech chi gysylltu â'r awdurdod lleol a ddyfarnodd y sgôr i chi a gofyn iddynt wneud y newidiadau angenrheidiol.
Dod o hyd i dîm diogelwch bwyd eich awdurdod lleol.
Mesurau Diogelu
Gall busnesau wneud cais i apelio, cyflwyno 'hawl i ymateb' a gwneud cais am arolygiad ailsgorio gan eu hawdurdod lleol.
Apelio
Cyn apelio, dylai perchnogion neu reolwyr busnesau gysylltu â swyddog diogelwch bwyd yr awdurdod lleol gyntaf i ddeall pam cafodd y sgôr ei rhoi. Os yw perchennog neu reolwr y busnes yn dal i gredu nad yw’r sgôr yn deg neu’n gywir, gall gyflwyno apêl ysgrifenedig i'w awdurdod lleol. Mae manylion ar sut i wneud hyn ar gael yn y llythyr hysbysbu am sgôr sy'n cael ei ddanfon at y busnes.
Wales
Hawl busnes i ymateb
Mae'r hawl i ymateb yn galluogi'r busnes i roi gwybod i gwsmeriaid sut mae wedi gwella ei safonau hylendid neu os oedd amgylchiadau anarferol ar waith adeg yr arolygiad. Bydd yr ymateb yn cael ei gyhoeddi ar-lein, ochr yn ochr â'r sgôr, gan yr awdurdod lleol.
Wales
Cais am arolygiad ailsgorio
Gall perchennog/rheolwr y busnes ofyn am ailymweliad i gael sgôr newydd pan fydd yr holl welliannau hylendid angenrheidiol wedi'u gweithredu. Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae pob awdurdod lleol yn codi ffi i adfer costau'r arolygiad ailsgorio o dan eu cynlluniau statudol. Mae rhai awdurdodau lleol yn Lloegr yn codi ffi i adfer costau cynnal arolygiad ailsgorio.
Safon brand
Mae’r Safon Brand yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn gyson wrth weithredu’r cynllun. Mae’n rhoi cyngor a chanllawiau i awdurdodau lleol ar bob agwedd ar weithredu’r cynllun.
Y nod yw sicrhau y gall defnyddwyr bod yn hyderus, o weld sgoriau busnesau bwyd a gweld brand y cynllun, bod yr awdurdod lleol yn gweithredu’r cynllun fel y bwriadwn.
Y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd: Canllawiau ar weithredu - y Safon Brand (Saesneg yn unig)
Hyrwyddo hylendid da
Mae gennym ni becyn cymorth cynllun sgorio hylendid bwyd i fusnesau sy'n rhoi syniadau ac ysbrydoliaeth i chi ar sut i hyrwyddo'ch sgôr hylendid bwyd ar-lein a thrwy ddulliau traddodiadol.
Hanes diwygio
Published: 15 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Awst 2022