Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Sut i apelio yn erbyn penderfyniad a wneir gan awdurdod lleol

Os nad ydych chi'n cytuno â phenderfyniad yr arolygydd awdurdod lleol sydd wedi arolygu eich busnes, mae yna sawl ffordd wahanol y gallwch chi apelio yn ei erbyn.

Apelio camau gorfodi cyfreithiol neu ffurfiol

Os ydych chi am apelio yn erbyn hysbysiad cyfreithiol neu gamau gorfodi ffurfiol, dylech ddarllen y dogfennau a roddwyd gyda'r hysbysiad. Dylai'r rhain gynnwys canllawiau ar beth sydd angen ei wneud i apelio, gan gynnwys o fewn faint o amser y dylech ei chyflwyno. Bydd hyn yn cynnwys apêl i'r llys ynadon.

Apelio am gyngor gan arolygydd awdurdod lleol

Os yw arolygydd wedi rhoi cyngor ysgrifenedig i chi yn gofyn i chi weithredu i wella rhywbeth yn eich busnes bwyd (ond heb gyflwyno rhybudd gorfodi) ac rydych chi'n anghytuno ag ef, dylech drafod hyn gyda'r arolygydd yn gyntaf.

Os na allwch chi ddatrys y mater gyda'r person yr ydych wedi bod yn delio â nhw, gofynnwch iddyn nhw am enw eu rheolwr (bydd yr wybodaeth hon fel arfer ar lythyrau gan awdurdodau lleol). Yna gallwch chi ofyn i siarad â nhw, neu os yw'n well gennych, ysgrifennu atynt i weld os oes modd datrys y mater.

Mae gan bob cyngor weithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion neu apeliadau yn erbyn gweithredoedd eu swyddogion. Os ydych chi'n anghytuno â chanlyniad hyn, gallech chi fynd at eich cynghorydd lleol neu gysylltu â'ch ombwdsmon llywodraeth leol neu wasanaethau cyhoeddus.

Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd

Os ydych chi'n fewnforiwr bwyd a bwyd anifeiliaid i'r Deyrnas Unedig (DU) ac rydych chi'n pryderu am weithgaredd gorfodi neu'n bwriadu apelio yn erbyn unrhyw hysbysiadau neu gamau a gymerwyd, ac os ydych chi'n ansicr a ddylid apelio neu sut i wneud hyn, gallwch chi ofyn am farn gyfreithiol annibynnol; er enghraifft, gan Ganolfan Cyngor ar Bopeth, cyfreithiwr neu gynghorydd cyfreithiol annibynnol arall. 

Pan fo modd i chi apelio yn erbyn hysbysiad sy'n ymwneud â bwyd neu fwyd anifeiliaid wedi'i fewnforio, dylai'r swyddog sy'n cyflwyno'r hysbysiad roi manylion am sut i apelio a faint o amser y dylech apelio. Os nad ydych chi wedi cael yr wybodaeth hon, gallwch chi gysylltu â'r swyddog a gofyn amdani.

Apeliadau Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Os ydych chi o'r farn bod y sgôr hylendid bwyd neu'r canlyniad arolygu a roddwyd i'ch busnes bwyd yn annheg neu'n anghywir, bydd angen i chi siarad â'r swyddog diogelwch bwyd a gynhaliodd yr arolygiad i ofyn pam y rhoddwyd y canlyniad hwnnw. Os ydych chi'n dal i feddwl bod y sgôr neu'r canlyniad yn anghywir, dilynwch y broses apelio a nodir yn yr adran Mesurau Diogelu ar Dudalen canllawiau Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ar gyfer Busnesau

Panel Apeliadau Busnes Annibynnol yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Fe wnaethom ni sefydlu panel apeliadau busnes annibynnol yn 2014. Gallwch chi gwyno neu apelio yn erbyn cyngor a roddir gan awdurdodau lleol yng Nghymru ynghylch diogelwch bwyd a safonau bwyd os rydych o'r farn eu bod yn anghywir neu'n mynd y tu hwnt i'r hyn sy'n ofynnol yn gyfreithiol. 

Cyn i chi allu apelio i'r panel, rhaid i chi wneud apêl neu gŵyn i'r awdurdod lleol a gynhaliodd yr arolygiad ac mae'n rhaid bod y broses hon wedi dod i ben. 

Mae angen i chi hefyd wirio a oes gennych gyfiawnhad dros apêl:

  • edrychwch ar ganllawiau arferion hylendid da y diwydiant cydnabyddedig perthnasol a gynhyrchir gan y diwydiant bwyd. Mae'r canllawiau hyn yn darparu arweiniad ar gydymffurfiaeth, arfer da a chymhwyso egwyddorion HACCP o fewn y fframwaith deddfwriaethol
  • defnyddiwch yr adran busnes a diwydiant ar y wefan hon i ganfod ein canllawiau a chyhoeddiadau diwydiant allweddol 
  • cysylltwch â'ch cymdeithas fasnach berthnasol i gael cyngor: www.taforum.org
  • os oes gan eich busnes berthynas Prif Awdurdod neu Awdurdod Cartref gydag awdurdod lleol, efallai y byddwch chi'n gallu apelio trwy broses ar wahân fel yr amlinellwyd ar GOV.UK 

Cysylltu â'r panel apeliadau annibynnol

Bydd y Panel Apeliadau Busnes Annibynnol yn edrych ar gwynion gan fusnesau a rhoi ail farn ynglŷn â chyngor ysgrifenedig a roddir gan arolygwyr awdurdodau lleol yng Nghymru ynghylch diogelwch bwyd a safonau bwyd y mae'r gweithredwr busnes bwyd yn ei feddwl sy'n anghywir neu'n mynd y tu hwnt i'r hyn sy'n ofynnol yn gyfreithiol. 

Nid yw'r panel yn ystyried apeliadau yn erbyn camau gorfodi ffurfiol (er enghraifft, lle mae awdurdod lleol wedi cyflwyno rhybudd cyfreithiol), sgoriau Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd neu lle mae partneriaeth Prif Awdurdod yn ei le gan fod mecanweithiau apelio eisoes ar waith.

I ddechrau'r broses apelio gyda'r Panel Apeliadau Busnes Annibynnol, e-bostiwch: businessappealspanel@food.gov.uk. Unwaith y bydd gan y panel yr holl wybodaeth berthnasol, bydd yn adolygu'ch achos a rhannu'r canfyddiadau gyda chi a'ch awdurdodau lleol perthnasol. 

Ffyrdd eraill i gwyno

  • ysgrifennwch at Brif Weithredwr yr awdurdod lleol a/neu'ch cynghorydd lleol, os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes. Gallwch wneud hyn ar-lein
  • ysgrifennwch i ofyn i'ch AS godi'r achos gyda ni neu gyda gweinidogion. Gallwch chi ddod o hyd i fanylion cyswllt eich AS trwy ddefnyddio gwefan Dod o hyd i'ch AS
  • cwyno i'r Ombwdsmon Llywodraeth Leol. Ei rôl yw ymchwilio i gwynion am gynghorau mewn ffordd deg ac annibynnol:  
  • Yn olaf, gallwch chi ymgymryd ag adolygiad barnwrol. Mae hon yn achos llys lle mae barnwr yn adolygu cyfreithlondeb penderfyniad neu gamau a wneir gan gorff cyhoeddus, fel awdurdod lleol. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am y broses hon ar Wefan Llysoedd a Barnwr Tribiwnlys